xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 8(4)(b)

ATODLEN 2

Penderfyniadau Cyfwerthedd

1.  Penderfyniad y Cyngor 1999/201/EEC ar gwblhau'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Llywodraeth Canada ar fesurau iechydol i amddiffyn iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid mewn perthynas â masnach mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid (OJ Rhif L71, 18.3.1999, t. 1).

2.  Penderfyniad y Cyngor 97/132/EC ar gwblhau'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Seland Newydd ar fesurau iechydol sy'n gymwys i fasnach mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid (OJ Rhif L57, 26.2.97, t. 4) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/751/EC (OJ Rhif L332, 6.11.2004, t. 16).

3.  Penderfyniad y Cyngor 2002/957/EC ar gwblhau Cytundeb ar ffurf Cyfnewid Llythyrau ynghylch diwygio'r Atodiadau i'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Seland Newydd ar fesurau iechydol sy'n gymwys i fasnach mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid (OJ Rhif L333, 10.12.2002, t. 13).

4.  Penderfyniad y Comisiwn 2003/56/EC (gweler paragraff 7 o Ran I o Atodlen 1).

5.  Penderfyniad y Cyngor a'r Comisiwn 2002/309/EC ar gwblhau Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chydffederasiwn y Swistir ar Fasnach mewn Cynhyrchion Amaethyddol (OJ Rhif L114, 30.4.2002, t. 1, gyda thestun llawn y Cytundeb ar t. 132) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/962/EC (OJ Rhif L347, 30.12.2005, t. 93).