Search Legislation

Gorchymyn Cymeradwyo Cod Ymarfer (Tai Ymddeol Preifat) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 578 (Cy.50)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Cymeradwyo Cod Ymarfer (Tai Ymddeol Preifat) (Cymru) 2007

Wedi'i wneud

27 Chwefror 2007

Yn dod i rym

2 Mawrth 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 87 a 100 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993(1) i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2) a chan ei fod wedi'i fodloni bod trefniadau priodol wedi'u gwneud ar gyfer cyhoeddi'r cod a gymeradwywyd gan y Gorchymyn hwn, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Cod Ymarfer (Tai Ymddeol Preifat) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 2 Mawrth 2007.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran rheoli pob eiddo preswyl yng Nghymru.

Cymeradwyo cod ymarfer

2.  Gan eithrio Atodiadau 4 i 6 caiff , The Code of Practice for Private Retirement Housing (Wales) (ISBN 095266 9137), a gafodd ei gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth ar 22 Rhagfyr 2006 gan Gymdeithas Rheolwyr Tai Ymddeol ac sydd i'w gyhoeddi gan Chain and Pyle, Unit 3, King James Court, King James Street, Llundain SE1 0DH, ei gymeradwyo.

Dirymu gorchmynion a thynnu cymeradwyaethau yn ôl

3.  Dirymir Gorchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) (Rhif 2) 1995(3) a Gorchmyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) 1998(4); a thynnir yn ôl y cymeradwyaethau a roddwyd gan y Gorchmynion hynny.

Darpariaeth drosiannol

4.  Nid yw erthyglau 2 a 3 yn gymwys at ddibenion adran 87(7)(a) a (b) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (defnyddio cod mewn rheithdrefnau) o ran gweithred neu anweithred sy'n digwydd cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Chwefror 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Drwy'r Gorchymyn hwn mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymeradwyo, yn ddarostyngedig i'r eithriad a grybwyllir isod, god ymarfer ynglŷn â rheoli tai ymddeol preifat gan landlordiaid ac eraill sy'n cyflawni'r swyddogaeth reoli. Y cod a gymeradwyir yw'r Cod Ymarfer ar gyfer Tai Ymddeol Preifat (Cymru) (ISBN 095266 9137) ac mae i'w gyhoeddi gan Chain and Pyle, Unit 3, King James Court, King James Street, Llundain SE1 0DH. Ni chafodd Atodiadau 4 i 6 o'r Cod eu cymeradwyo am nad ydynt yn berthnasol at ddibenion adran 87 o Ddeddf 1993.

Drwy'r Gorchymyn hwn mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd yn tynnu'n ôl y gymeradwyaeth ar gyfer Cod Ymarfer Cymdeithas Rheolwyr Tai Ymddeol ar gyfer Rheoli Tai Cysgodol Lesddaliadol (ISBN 0-9526691-0-2) a roddwyd gan Orchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) (Rhif 2) 1995 ac ar gyfer addasiadau Cod Ymarfer Cymdeithas Rheolwyr Tai Ymddeol ar gyfer Rheoli Tai Cysgodol Lesddaliadol (ISBN 0-9526691-1-0) a roddwyd gan Orchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) 1998. Caiff y Gorchmynion hynny hefyd eu dirymu.

Mae adran 87(7) o Ddeddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (“Deddf 1993”) yn darparu nad yw methiant i gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o god ymarfer a gymeradwywyd ynddo'i hun yn gosod person yn agored i unrhyw reithdrefn, ond mewn unrhyw reithdrefn mae'r cod ymarfer yn dderbyniol fel tystiolaeth a chaiff unrhyw ddarpariaeth sy'n ymddangos ei bod yn berthnasol i unrhyw gwestiwn sy'n codi yn y rheithdrefn ei chymryd i ystyriaeth.

Mae'r cymeradwyo a'r tynnu'n ôl y darperir ar eu cyfer yn y Gorchymyn hwn yn gymwys i waith rheoli tai ymddeol preifat yng Nghymru ac yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth drosiannol yn erthygl 4. Mae'r Cod a gafodd ei gymeradwyo ym 1995 a'i addasu ym 1998 yn parhau'n effeithiol at ddibenion rheithdrefnau ynglŷn â gweithredoedd neu anweithredodd yr honnir eu bod wedi digwydd cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi cael ei baratoi o ran Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 0845 010 3300).

(1)

1993 p.28; diwygiwyd adran 87 gan adran 150 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p.15) ac Atodlen 9 iddi.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 87 a 100, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, ac adran 177 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources