Search Legislation

Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵ n (Heb Fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 701 (Cy.58)

CŵN, CYMRU

RHEOLI CŵN

Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵ n (Heb Fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007

Wedi'i wneud

6 Mawrth 2007

Yn dod i rym

15 Mawrth 2007

O ran Cymru, y person priodol fel y'i diffinnir yn adran 66(b) o Ddeddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005(1), at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 57(3) a (4) o'r Ddeddf honno, yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae'n gwneud y Gorchymyn a ganlyn wrth arfer y pwerau hynny:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵn (Heb fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Mawrth 2007.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005;

ystyr “ffordd” (“road”) yw unrhyw ddarn o briffordd y caiff y cyhoedd fynd arno, ac mae'n cynnwys pontydd y mae ffordd yn mynd drostynt;

ystyr “tir” (“land”) yw unrhyw dir sydd yn agored i'r awyr ac y mae gan y cyhoedd hawl neu ganiatâd i fynd arno (gyda thâl neu heb dâl), ac mae unrhyw dir â tho drosto i'w drin fel tir “agored i'r awyr” os yw ar agor ar un ochr o leiaf.

Tir nad yw Pennod 1 o Ran 6 o'r Ddeddf yn gymwys iddo

3.  Dynodir unrhyw dir sy'n dod o fewn disgrifiad yng ngholofn gyntaf y tabl yn yr Atodlen yn dir nad yw Pennod 1 (rheolaethau ar gŵn) o Ran 6 (cŵn) o'r Ddeddf yn gymwys iddo, at y dibenion a bennir mewn perthynas â'r disgrifiad penodol yn ail golofn y tabl hwnnw.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Mawrth 2007

Erthygl 3

ATODLENTIR NAD YW PENNOD 1 O RAN 6 O'R DDEDDF YN GYMWYS IDDO

Disgrifiad o'r TirDibenion nad yw Pennod 1 o Ran 6 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt
Tir a osodir at ddefnydd y Comisiynwyr Coedwigaeth o dan adran 39(1) o Ddeddf Coedwigaeth 1967(3)At ddibenion gwneud gorchymyn rheoli o cŵn dan adran 55(1) o'r Ddeddf
Tir sy'n ffordd, neu'n rhan o fforddAt ddibenion gwneud gorchymyn rheoli cŵn o dan adran 55(1) o'r Ddeddf sy'n darparu ar gyfer tramgwydd mewn perthynas â'r mater a ddisgrifir yn adran 55(3)(c) (gwahardd cwn dir)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi disgrifiadau o dir nad yw Pennod 1 (rheolaethau ar gwn) o ran 6 (cwn) o Ddeddf Cyndogaethau Glan a'r Amgylchedd 2005 (“y Ddeddf”) (erthygl 3) yn gymwys iddynt at y dibenion a bennir mewn perthynas a phob un o'r disgrifiadau.

Dynodir dau ddisgrifiad o dir yn y Gorchymyn hwn. Y disgrifiadau yw—

(i)tir a gaiff ei osod at ddefnydd y Comisiynwyr Coedwigaeth o dan adran 39(1) o Ddeddf Coedwigaeth 1967; a

(ii)tir sy'n ffordd, neu'n rhan o ffordd.

Mae effeithiau'r esemptiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn fel a ganlyn:

(i)mewn perthynas â'r disgrifiad cyntaf o dir, rhwystro gorchymyn rheoli cŵn, sy'n darparu ar gyfer tramgwydd neu dramgwyddau mewn perthynas â rheoli cwn mewn cysylltiad â'r tir hwnnw, rhag cael ei wneud; a

(ii)mewn perthynas â'r ail ddisgrifiad o dir, rhwystro gorchymyn rheoli cŵn, sy'n darparu ar gyfer tramgwydd neu dramgwyddau mewn perthynas â gwahardd cŵn rhag mynd ar y tir hwnnw, rhag cael ei wneud.

(3)

1967 p. 10; diwygiwyd adran 39(1) gan O.S. 1999/1747, erthygl 3 ac Atodlen 12, Rhan II, paragraff 4(1) a (28).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources