xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliadau 7 ac 8

ATODLEN 5Y TRAMGWYDD O FYND Å MWY NA NIFER PENODEDIG O GŵN AR DIR A FFURF Y GORCHYMYN

1—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros fwy nag un ci ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Cŵn (Uchafswm Penodedig)” yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, mynd â mwy na'r uchafswm o gŵn a bennir yn y gorchymyn ar y tir hwnnw yn ystod yr amserau neu'r cyfnodau a gaiff eu pennu yn y gorchymyn.

(2Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fynd â mwy na'r nifer penodedig o gŵn ar y tir, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â chyfrifoldeb dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) iddo wneud hynny.

2  Mewn unrhyw Orchymyn Cŵn (Uchafswm Penodedig) , rhaid gosod y tramgwydd o fynd â mwy na nifer penodedig o gŵn ar dir i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 4 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.

3  Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cŵn (Uchafswm Penodedig) sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

1  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](4).

2  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](5).

3  Ar dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, yr uchafswm o gŵn y caiff person fynd â hwy arno yw [X](6).

Y Tramgwydd

4—(1Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros fwy nag un ci yn euog o dramgwydd [ar unrhyw amser][yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2](7), os bydd y person hwnnw yn mynd â mwy na'r uchafswm o gŵn a bennir yn erthygl 3 o'r Gorchymyn ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, oni bai—

(a)bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros wneud hynny; neu

(b)bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw wneud hynny.

(2At ddibenion yr erthygl hon cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno.

Y Gosb

5  Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 4 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(1)

Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.

(2)

Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.

(3)

Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.

(4)

Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.

(5)

Penner pa un sy'n berthnasol.

(6)

Mewnosoder yr uchafswm.

(7)

Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys.

(8)

Penner pa un sy'n berthnasol.

(9)

Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.

(10)

Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.