Esemptiadau i fangreoedd di-fwg

3.—(1Nid yw annedd breifat yn ddi-fwg ac eithrio unrhyw ran ohoni—

(a)a rennir gyda mangre arall (gan gynnwys unrhyw annedd breifat arall) neu

(b)a ddefnyddir yn unig fel lle gwaith heblaw gwaith sy'n cael ei eithrio gan baragraffau (2) neu (3).

(2Mae gwaith a gaiff ei wneud mewn rhan o annedd a ddefnyddir yn unig fel lle gwaith yn cael ei eithrio o baragraff (1)(b) os nad oes neb (heblaw person sy'n byw yn yr annedd) yn gweithio yn y rhan honno neu'n cael ei wahodd i ddod i'r rhan honno mewn cysylltiad â'r gwaith.

(3Eithrir o baragraff (1)(b) bob gwaith a gaiff ei wneud yn unig—

(i)er mwyn darparu gofal personol neu ofal iechyd i berson sy'n byw yn yr annedd;

(ii)er mwyn cynorthwyo gyda gwaith domestig yr aelwyd yn yr annedd;

(iii)er mwyn cynnal strwythur neu adeiladwaith yr annedd;

(iv)er mwyn gosod, arolygu, cynnal neu symud unrhyw wasanaeth a ddarperir i'r annedd er budd y personau sy'n byw ynddi.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6) nid yw'r disgrifiadau canlynol o fangreoedd yn rhai di-fwg —

(a)ystafelloedd dynodedig i'w defnyddio gan y rhai sy'n 18 oed neu drosodd —

(i)mewn cartref gofal;

(ii)mewn hosbis i oedolion;

(iii)mewn uned iechyd meddwl sy'n darparu llety preswyl ar gyfer cleifion;

(b)ystafelloedd dynodedig mewn cyfleuster ymchwil neu gyfleuster cynnal profion;

(c)ystafelloedd gwely dynodedig mewn gwesty, gwesty bach, tafarn, hostel neu glwb aelodau.

(5At ddibenion paragraff (4) ystyr “ystafell ddynodedig” neu “ystafell wely ddynodedig” yn ôl y digwydd, yw ystafell —

(a)a gafodd ei dynodi gan y person sydd â gofal y sefydliad o dan sylw yn ystafell lle y caniateir ysmygu;

(b)y mae ganddi nenfwd ac sydd, heblaw am ddrysau a ffenestri, yn hollol gaeedig ar bob ochr gan waliau solet o'r llawr i'r nenfwd;

(c)nad oes ganddi system awyru sy'n awyru i ran arall o'r fangre (ac eithrio unrhyw ystafelloedd dynodedig neu ystafelloedd gwely dynodedig eraill, yn ôl y digwydd);

(ch)nad oes ganddi unrhyw ddrws sy'n agor i fangre ddi-fwg ac nad yw'n cau'n fecanyddol yn union ar ôl ei ddefnyddio; a

(d)sydd wedi'i marcio'n glir yn ystafell lle y caniateir ysmygu.

(6Nid yw ystafell ddynodedig mewn cyfleuster ymchwil neu gyfleuster gynnal profion yn ystafell ddi-fwg pan fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer unrhyw ymchwil neu ar gyfer cynnal profion sy'n ymwneud â—

(i)mwg a ollyngir o dybaco a chynhyrchion eraill a ddefnyddir ar gyfer ysmygu;

(ii)datblygu cynhyrchion ar gyfer ysmygu gyda llai o berygl o ran tân neu â chynnal profion tân ar ddeunyddiau sy'n ymwneud â chynhyrchion ar gyfer ysmygu;

(iii)datblygu cynhyrchion ysmygu neu fferyllol a allai olygu gweithgynhyrchu cynhyrchion llai peryglus ar gyfer ysmygu; neu

(iv)rhaglenni rhoi'r gorau i ysmygu.