- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GALLUEDD MEDDYLIOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
13 Mawrth 2007
Yn dod i rym
At y diben a grybwyllir yn
rheoliad 1(1)(a)
1 Gorffennaf 2007
At bob diben arall
1 Hydref 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 30(6), 34(1), (2) a (3), 64(1) a 65(1) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Colli Galluedd yn ystod Prosiect Ymchwil) (Cymru) 2007 a deuant i rym —
(a)ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth at ddibenion Atodlen 1 i gael eu gwneud i gorff priodol ac i gael eu penderfynu ganddo,
(b)ar 1 Hydref 2007 at bob diben arall.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005;
mae i “corff priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate body” gan adran 30(4) o'r Ddeddf a chan Reoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007(2).
mae i “P” yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 2;
mae i “R” yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 3.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo'r canlynol yn wir—
(a)bod person (“P”) wedi cydsynio cyn 31 Mawrth 2008 i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil (“y prosiect”) a ddechreuodd cyn 1 Hydref 2007 ond
(b)cyn i'r prosiect ddod i ben, bod P yn colli galluedd i gydsynio i gymryd rhan ynddo, ac
(c)y byddai ymchwil at ddibenion y prosiect o ran P, heblaw am y Rheoliadau hyn, yn anghyfreithlon yn rhinwedd adran 30 o'r Ddeddf.
3. Er i P golli galluedd, caniateir i ymchwil at ddibenion y prosiect gael ei gyflawni gan ddefnyddio gwybodaeth neu ddeunydd sy'n ymwneud â P —
(a)os yw'r prosiect yn bodloni'r gofynion a osodir yn Atodlen 1;
(b)os cafwyd yr holl wybodaeth neu'r deunydd sy'n ymwneud â P a ddefnyddir yn yr ymchwil cyn i P golli galluedd;
(c)os yw'r wybodaeth honno neu'r deunydd hwnnw naill ai—
(i)yn ddata o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1998, neu
(ii)yn ddeunydd sy'n gelloedd dynol neu'n DNA dynol a/neu yn eu cynnwys; ac
(ch)os yw'r person sy'n cynnal y prosiect (“R”) yn cymryd y camau hynny sy'n ymwneud â P a osodir yn Atodlen 2.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2007
Rheoliad 3
1. Mae protocol a gymeradwywyd gan gorff priodol ac sy'n cael effaith mewn cysylltiad â'r prosiect yn darparu bod ymchwil yn cael ei gyflawni sy'n ymwneud â pherson sydd wedi cydsynio i gymryd rhan yn y prosiect ond sy'n colli galluedd i gydsynio i barhau i gymryd rhan ynddo.
2. Rhaid bod y corff priodol wedi'i fodloni bod trefniadau rhesymol ar waith i sicrhau y bydd gofynion Atodlen 2 yn cael eu bodloni.
Rheoliad 3
1. Rhaid i R gymryd camau rhesymol i ddarganfod pwy yw person—
(a)heblaw rhywun sydd yn ei swydd broffesiynol neu er mwyn tâl, yn gofalu am P neu mae ganddo ddiddordeb yn lles P, a
(b)sy'n barod i R ymgynghori ag ef o dan yr Atodlen hon.
2. Os nad yw R yn gallu darganfod pwy yw person o'r fath rhaid i R, yn unol â chanllawiau a ddyroddir gan yr awdurdod priodol, enwebu person—
(a)sy'n barod i R ymgynghori ag ef o dan yr Atodlen hon, ond
(b)nad oes ganddo unrhyw gysylltiad â'r prosiect.
3. Rhaid i R roi i'r person a enwir o dan baragraff 1, neu a enwebir o dan baragraff 2, wybodaeth am y prosiect a rhaid iddo ofyn i'r person hwnnw—
(a)am gyngor a ddylid cyflawni ymchwil o'r fath a arfaethir mewn perthynas â P, a
(b)beth, ym marn y person hwnnw, fyddai dymuniadau a theimladau P yn debygol o fod wrth i ymchwil o'r fath gael ei gyflawni pe bai'r galluedd gan P ynglyn â'r mater.
4. Pe bai'r person yr ymgynghorir ag ef ar unrhyw adeg yn cynghori R y byddai dymuniadau a theimladau P ym marn y person hwnnw, yn debygol o arwain P i dynnu'n ôl oddi wrth y prosiect pe bai'r galluedd ganddo ynglyn â'r mater, rhaid i R sicrhau bod P yn cael ei dynnu oddi ar y prosiect.
5. Nid yw'r ffaith bod person yn rhoddai i atwrneiaeth arhosol a roddwyd gan P, neu os yw'n ddirprwy i P, yn atal y person hwnnw rhag bod yn berson yr ymgynghorir ag ef o dan baragraffau 1 i 4.
6. Rhaid i R sicrhau na wneir dim byd i P yn ystod yr ymchwil a fyddai'n groes i—
(a)penderfyniad ymlaen llaw gan P sydd yn effeithiol, neu
(b)unrhyw ffurf arall ar ddatganiad a wnaed gan P ac na chafodd ei dynnu'n ôl wedyn,
y mae R yn ymwybodol ohonynt.
7. Rhaid tybio bod buddiannau P yn gorbwyso rhai gwyddoniaeth a chymdeithas.
8. Os bydd P yn dangos (mewn unrhyw fodd) ei fod yn dymuno bod yr ymchwil ynglyn ag ef yn dod i ben, rhaid dod ag ef i ben yn ddi-oed.
9. Rhaid dod â'r ymchwil i ben yn ddi-oed os bydd gan R ar unrhyw adeg sail resymol dros gredu nad yw un neu fwy o'r gofynion a osodir yn Atodlen 1 bellach yn cael ei fodloni neu eu bodloni ac nad oes bellach unrhyw drefniadau rhesymol ar waith i sicrhau bod gofynion yr Atodlen hon yn cael eu bodloni ynglyn â P.
10. Rhaid i R gynnal yr ymchwil yn unol â'r ddarpariaeth a wnaed yn y protocol y cyfeirir ato ym mharagraff 1 o Atodlen 1 ar gyfer ymchwil i gael ei gyflawni ynglŷn â pherson sydd wedi cydsynio i gymryd rhan yn y prosiect ond sy'n colli galluedd i gydsynio i gymryd rhan ynddo.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o dan adrannau 30, 34, 64 a 65 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p.9) (“y Ddeddf”). Maent yn darparu ar gyfer ymchwil penodol, sy'n ymwneud â phobl heb y galluedd i gydsynio iddo, i gyflawni'n gyfreithlon yr hyn y byddai fel arall yn rhaid cydymffurfio â gofynion adran 30 o'r Ddeddf.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran cyflawni ymchwil yng Nghymru.
Mae rheoliad 1 yn darparu i'r Rheoliadau ddod i rym ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau ar gyfer cymeradwyo protocolau ymchwil o dan y Rheoliadau i gael eu gwneud a'u penderfynu ac at bob diben arall ar 1 Hydref 2007.
Mae rheoliad 2 yn darparu bod y Rheoliadau'n gymwys pan fo prosiect ymchwil wedi dechrau cyn 1 Hydref 2007 a bod person (“P”) wedi cydsynio, cyn 31 Mawrth 2008, i gymryd rhan yn y prosiect ond ei fod wedyn wedi colli'r galluedd i barhau i gydsynio.
Mae rheoliad 3 yn darparu y gellir cyflawni ymchwil sy'n defnyddio gwybodaeth neu ddeunydd a gasglwyd cyn i P golli galluedd. Rhaid bod yr wybodaeth neu'r deunydd naill ai'n ddata o fewn ystyr Deddf Diogelu Data 1998 (p.29) neu'n ddeunydd sy'n gelloedd dynol neu'n DNA neu'n eu cynnwys. Yn ychwanegol, mae'n darparu bod yn rhaid cydymffurfio â gofynion Atodlenni 1 a 2.
Mae Atodlen 1 yn darparu bod yn rhaid bod corff priodol wedi cymeradwyo protocol ar gyfer y prosiect o ran ymchwil sydd i'w gyflawni ynglŷn â pherson sydd wedi cydsynio i gymryd rhan ac yna wedi colli galluedd. Rhaid bod y corff priodol hefyd wedi'i fodloni bod trefniadau rhesymol ar gael i sicrhau y byddir yn cydymffurfio ag Atodlen 2.
Diffinnir “corff priodol” yn rheoliad 1 drwy gyfeirio at Reoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007 2007/833 (Cy.71). “Corff priodol” yw pwyllgor—
(i)a sefydlwyd i gynghori ar foeseg ymchwil ymwthiol ynglyn â phobl nad yw'r galluedd ganddynt i gydsynio iddo neu i gynghori ar faterion sy'n cynnwys y foeseg honno; a
(ii)a gydnabyddir at y dibenion hynny gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae i “ymchwil ymwthiol” yr ystyr a roddir i “intrusive research” yn adran 30(2) o'r Ddeddf.
Mae Atodlen 2 yn gosod gofynion o ran ymgynghori ynghylch cyfranogiad P yn y prosiect, o ran parchu ei ddymuniad a'i wrthwynebiad ac o ran tybio bod ei fuddiannau'n gorbwyso buddiannau gwyddoniaeth a chymdeithas.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a gosodwyd copi ohono yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
2005 p.9. Enwir adran 64(1) oherwydd yr ystyr a roddir ynddi i “prescribed”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: