xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 3

ATODLEN 1Gofynion y mae'n rhaid i'r prosiect eu bodloni

1.  Mae protocol a gymeradwywyd gan gorff priodol ac sy'n cael effaith mewn cysylltiad â'r prosiect yn darparu bod ymchwil yn cael ei gyflawni sy'n ymwneud â pherson sydd wedi cydsynio i gymryd rhan yn y prosiect ond sy'n colli galluedd i gydsynio i barhau i gymryd rhan ynddo.

2.  Rhaid bod y corff priodol wedi'i fodloni bod trefniadau rhesymol ar waith i sicrhau y bydd gofynion Atodlen 2 yn cael eu bodloni.

Rheoliad 3

ATODLEN 2Camau y mae'n rhaid i'r person sy'n cynnal y prosiect eu cymryd

1.  Rhaid i R gymryd camau rhesymol i ddarganfod pwy yw person—

(a)heblaw rhywun sydd yn ei swydd broffesiynol neu er mwyn tâl, yn gofalu am P neu mae ganddo ddiddordeb yn lles P, a

(b)sy'n barod i R ymgynghori ag ef o dan yr Atodlen hon.

2.  Os nad yw R yn gallu darganfod pwy yw person o'r fath rhaid i R, yn unol â chanllawiau a ddyroddir gan yr awdurdod priodol, enwebu person—

(a)sy'n barod i R ymgynghori ag ef o dan yr Atodlen hon, ond

(b)nad oes ganddo unrhyw gysylltiad â'r prosiect.

3.  Rhaid i R roi i'r person a enwir o dan baragraff 1, neu a enwebir o dan baragraff 2, wybodaeth am y prosiect a rhaid iddo ofyn i'r person hwnnw—

(a)am gyngor a ddylid cyflawni ymchwil o'r fath a arfaethir mewn perthynas â P, a

(b)beth, ym marn y person hwnnw, fyddai dymuniadau a theimladau P yn debygol o fod wrth i ymchwil o'r fath gael ei gyflawni pe bai'r galluedd gan P ynglyn â'r mater.

4.  Pe bai'r person yr ymgynghorir ag ef ar unrhyw adeg yn cynghori R y byddai dymuniadau a theimladau P ym marn y person hwnnw, yn debygol o arwain P i dynnu'n ôl oddi wrth y prosiect pe bai'r galluedd ganddo ynglyn â'r mater, rhaid i R sicrhau bod P yn cael ei dynnu oddi ar y prosiect.

5.  Nid yw'r ffaith bod person yn rhoddai i atwrneiaeth arhosol a roddwyd gan P, neu os yw'n ddirprwy i P, yn atal y person hwnnw rhag bod yn berson yr ymgynghorir ag ef o dan baragraffau 1 i 4.

6.  Rhaid i R sicrhau na wneir dim byd i P yn ystod yr ymchwil a fyddai'n groes i—

(a)penderfyniad ymlaen llaw gan P sydd yn effeithiol, neu

(b)unrhyw ffurf arall ar ddatganiad a wnaed gan P ac na chafodd ei dynnu'n ôl wedyn,

y mae R yn ymwybodol ohonynt.

7.  Rhaid tybio bod buddiannau P yn gorbwyso rhai gwyddoniaeth a chymdeithas.

8.  Os bydd P yn dangos (mewn unrhyw fodd) ei fod yn dymuno bod yr ymchwil ynglyn ag ef yn dod i ben, rhaid dod ag ef i ben yn ddi-oed.

9.  Rhaid dod â'r ymchwil i ben yn ddi-oed os bydd gan R ar unrhyw adeg sail resymol dros gredu nad yw un neu fwy o'r gofynion a osodir yn Atodlen 1 bellach yn cael ei fodloni neu eu bodloni ac nad oes bellach unrhyw drefniadau rhesymol ar waith i sicrhau bod gofynion yr Atodlen hon yn cael eu bodloni ynglyn â P.

10.  Rhaid i R gynnal yr ymchwil yn unol â'r ddarpariaeth a wnaed yn y protocol y cyfeirir ato ym mharagraff 1 o Atodlen 1 ar gyfer ymchwil i gael ei gyflawni ynglŷn â pherson sydd wedi cydsynio i gymryd rhan yn y prosiect ond sy'n colli galluedd i gydsynio i gymryd rhan ynddo.