Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hyn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (Rheoliadau 2006).

Mae rheoliad 2 yn cynnwys diwygiad i Reoliadau Gwerthuso Athrawon (Cymru) 2002 OS 2002/1394 (Cy.137).

Mae rheoliad 3 yn cynnwys diwygiad i reoliadau 50(1) a 51(1) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 OS 2005/2914 (Cy.211).

Mae rheoliad 4(2) yn mewnosod diffiniad o 'corff llywodraethu' yn Rheoliadau 2006.

Mae rheoliad 4(3) yn mewnosod diffiniad o 'rheoliadau' yn Rheoliadau 2006.

Mae rheoliad 4(4) yn datgan i ba gategorïau o ysgolion y bydd rheoliadau 4 i 7 o Reoliadau 2006 yn gymwys.

Mae rheoliad 4(5) ac (11) yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau 2006 sy'n ei gwneud yn ofynnol i wirio pwy yw person a gwirio'i hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol, yn ddarostyngedig i eithriadau, bod person a benodwyd yn athro neu'n athrawes neu'n aelod o'r staff cymorth, cyn iddo gael ei benodi neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo gael ei benodi, yn destun gwiriad manwl y Swyddfa Cofnodion Troseddol (“SCT”) a wneir o dan Ddeddf yr Heddlu 1997.

Mae rheoliadau 4(7)(8)(12)(14)(15)(16)(18)(19) a (20) yn cynnwys diwygiadau i groesgyfeiriadau yn Rheoliadau 2006.

Mae rheoliadau 4(9) a (13) yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau 2006 sy'n rhwystro athro neu athrawes neu aelod o'r staff cymorth a gyflenwir gan asiantaeth rhag gweithio mewn ysgol hyd nes y bydd yr asiantaeth wedi cadarnhau bod gwiriadau wedi cael eu gwneud, ac mae'n ofynnol i ysgolion yn eu trefniadau gydag asiantaethau i'w gosod o dan rwymedigaeth i ddarparu'r wybodaeth hon.

Mae rheoliadau 4(10) a (17) yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau 2006 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod aelod staff sy'n symud o swydd nad oedd yn ei ddwyn yn rheolaidd i gyswllt â phlant neu bobl ifanc i swydd sydd yn gwneud hynny yn yr un ysgol yn destun gwiriad manwl y SCT cyn bod y person yn dechrau yn ei swydd newydd neu cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.