Search Legislation

Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) (Rhif 2) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1215 (Cy.123)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) (Rhif 2) 2008

Gwnaed

29 Ebrill 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Ebrill 2008

Yn dod i rym

22 Mai 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 92(1) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) (Rhif 2) 2008. Daw i rym ar 22 Mai 2008 ac y mae yn gymwys o ran Cymru.

(2Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “y dibenion statudol” (“the statutory purposes”) yw dibenion y rheoliadau sy'n ymwneud â gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio o dan adran 72(4)(a) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004;

ystyr “y gofynion a bennir” (“the specified requirements”) yw'r gofynion a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn; ac

ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA state”) yw gwladwriaeth o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Dyfeisiadau a gymeradwyir

2.—(1Mae dyfais yn ddyfais a gymeradwyir at y dibenion statudol os yw o fath sydd wedi ei ardystio gan Weinidogion Cymru fel un sy'n bodloni'r gofynion a bennir.

(2Cymerir bod dyfais yn bodloni'r gofynion a bennir pan fo tystiolaeth wedi'i darparu sy'n bodloni Gweinidogion Cymru bod awdurdod cymwys mewn Gwladwriaeth AEE wedi canfod bod y ddyfais o dan sylw yn un sy'n bodloni gofynion safon AEE sy'n gofyn am lefel o berfformiad sy'n cyfateb i'r lefel o berfformiad sy'n ofynnol gan y gofynion a bennir.

(3Ym mharagraff (2) ystyr “safon AEE” (“EEA standard”) yw—

(a)safon neu gôd ymarfer corff safonau gwladol neu gorff cyfatebol perthynol i unrhyw Wladwriaeth AEE;

(b)unrhyw safon ryngwladol a gydnabyddir ar gyfer ei defnyddio fel safon neu gôd ymarfer gan unrhyw Wladwriaeth AEE; neu

(c)manyleb dechnegol a gydnabyddir ar gyfer ei defnyddio fel safon gan awdurdodau cyhoeddus perthynol i unrhyw Wladwriaeth AEE.

Dirymu Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) 2008

3.  Dirymir Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) 2008(3) drwy hyn.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

29 Ebrill 2008

YR ATODLENGOFYNION AR GYFER DYFAIS A GYMERADWYIR

1.  Rhaid i'r ddyfais gynnwys camera—

(a)sydd wedi ei osod yn gadarn ar gerbyd, adeilad, postyn neu strwythur arall;

(b)sydd wedi ei osod yn y fath sefyllfa fel y gall weld cerbydau mewn perthynas â pha rai y mae tramgwyddau parcio yn cael eu cyflawni;

(c)sydd wedi ei gysylltu drwy ddolenni data diogel â system recordio; ac

(ch)sy'n gallu cynhyrchu mewn un llun neu fwy, ddelwedd neu ddelweddau gweladwy o'r cerbyd mewn perthynas â pha un y cafodd tramgwydd parcio ei gyflawni sy'n dangos ei nod cofrestru a digon o'i leoliad i ddangos amgylchiadau'r tramgwydd.

2.  Rhaid i'r ddyfais gynnwys system recordio—

(a)sy'n recordio'n awtomatig gynnyrch y camera neu'r camerâu sy'n gweld y cerbyd a'r man lle mae tramgwydd yn digwydd;

(b)lle defnyddir dull recordio cadarn a dibynadwy sy'n recordio ar gyfradd isafswm o 5 ffrâm yr eiliad;

(c)lle mae pob ffrâm o bob delwedd a ddelir wedi ei hamseru (mewn oriau, munudau ac eiliadau), wedi ei dyddio ac wedi ei rhifo'n olynol ac yn awtomatig drwy beiriant cyfrif gweledol; ac

(ch)pan nad yw'r ddyfais ar safle gosodedig, sy'n recordio'r lleoliad y mae'n cael ei weithredu ohono.

3.  Rhaid i'r ddyfais a'r peiriant cyfrif gweledol—

(a)bod wedi'u syncroneiddio â chloc safon genedlaethol annibynnol addas; a

(b)bod yn fanwl-gywir o fewn plws neu minws 10 eiliad dros gyfnod o 14 diwrnod a bod wedi ei ail-syncroneiddio â'r cloc safon genedlaethol annibynnol addas o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod hwnnw.

4.  Pan fo'r ddyfais yn cynnwys cyfleuster i argraffu delwedd lonydd, rhaid i'r ddelwedd honno pan y'i hargreffir ddwyn ardystiad o'r amser a'r dyddiad pan ddaliwyd y ffrâm a'i rhif unigryw.

5.  Pan fo'r ddyfais yn gallu recordio geiriau llafar neu ddata clywadwy eraill yn gyfamserol â delweddau gweledol, rhaid i'r ddyfais gynnwys dull o wirio bod y trac sain, mewn unrhyw recordiad a gynhyrchir ganddo, wedi ei syncroneiddio'n gywir â'r ddelwedd weledol.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli'r Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/620 (Cy.69)).

Mae Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“Deddf 2004”) yn darparu ar gyfer gorfodi tramgwyddau parcio yn sifil. Mae Rhan 6 yn cynnwys pwerau sy'n darparu un fframwaith i wneud rheoliadau er mwyn i awdurdodau lleol orfodi cyfyngiadau parcio ac aros yn sifil, a lonydd bysiau a rhai tramgwyddau y mae a wnelont â thraffig sy'n symud. Bydd y cyfryw reoliadau yn disodli pwerau sydd eisoes yn bodoli mewn deddfwriaeth o ran Cymru. Mae'r Ddeddf hefyd yn rhoi pwer wrth gefn i'r awdurdod cenedlaethol priodol i gyfarwyddo awdurdod lleol i wneud cais am bwerau gorfodi sifil.

O dan y pwerau a roddir gan Ran 6, mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) (Rhif 2) 2008 (O.S. 2008/0000 (Cy.1214 (Cy.122)). Mae Rheoliad 5(a) o'r Rheoliadau hynny yn gwahardd, yn unol ag adran 72(4)(a) o Ddeddf 2004, gosod ffi gosb am dramgwydd parcio ac eithrio ar sail cofnod a gynhyrchir gan ddyfais a gymeradwyir neu wybodaeth a roddir gan swyddog gorfodi sifil parthed ymddygiad a welwyd ganddo ef.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu disgrifiad o ddyfais sydd yn ddyfais a gymeradwyir at y diben hwn. Yn unol ag erthygl 2, mae dyfais yn ddyfais a gymeradwyir os yw o fath sydd wedi ei ardystio gan Weinidogion Cymru fel un sydd yn bodloni'r gofynion a bennir yn yr Atodlen.

Mae Cyfarwyddeb Safonau Technegol Cenedlaethol 98/34/EC, fel y'i diwygiwyd gan 98/48/EC, (“y Gyfarwyddeb”), yn ceisio atal rhwystrau technegol newydd i fasnachu rhag cael eu creu ac yn gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau technegol a rheoliadau. Rhaid hysbysu'r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio o unrhyw offeryn statudol sy'n rhagnodi safonau technegol a rhaid i'r Adran honno yn ei thro hysbysu'r Comisiwn Ewropeaidd. Mae Erthygl 9, paragraff 1, o'r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol i oedi tri mis rhwng hysbysu'r Comisiwn Ewropeaidd o'r offeryn statudol a dyddiad gwneud yr offeryn hwnnw neu'r dyddiad y daw i rym. Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd o'r offeryn statudol hwn ar 12 Medi 2007. Daeth y cyfnod o dri mis i ben felly ar 13 Rhagfyr 2007.

Gellir cael Asesiad Effaith Reoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol gan yr Uned Trafnidiaeth Integredig, Yr Is-adran Cynllunio a Gweinyddu Trafnidiaeth, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn:

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/buslegislation/bus/bus-legislation-sub/bus-legislation-sub-annulment.htm

(2)

Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources