Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli'r Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/620 (Cy.69)).

Mae Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“Deddf 2004”) yn darparu ar gyfer gorfodi tramgwyddau parcio yn sifil. Mae Rhan 6 yn cynnwys pwerau sy'n darparu un fframwaith i wneud rheoliadau er mwyn i awdurdodau lleol orfodi cyfyngiadau parcio ac aros yn sifil, a lonydd bysiau a rhai tramgwyddau y mae a wnelont â thraffig sy'n symud. Bydd y cyfryw reoliadau yn disodli pwerau sydd eisoes yn bodoli mewn deddfwriaeth o ran Cymru. Mae'r Ddeddf hefyd yn rhoi pwer wrth gefn i'r awdurdod cenedlaethol priodol i gyfarwyddo awdurdod lleol i wneud cais am bwerau gorfodi sifil.

O dan y pwerau a roddir gan Ran 6, mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) (Rhif 2) 2008 (O.S. 2008/0000 (Cy.1214 (Cy.122)). Mae Rheoliad 5(a) o'r Rheoliadau hynny yn gwahardd, yn unol ag adran 72(4)(a) o Ddeddf 2004, gosod ffi gosb am dramgwydd parcio ac eithrio ar sail cofnod a gynhyrchir gan ddyfais a gymeradwyir neu wybodaeth a roddir gan swyddog gorfodi sifil parthed ymddygiad a welwyd ganddo ef.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu disgrifiad o ddyfais sydd yn ddyfais a gymeradwyir at y diben hwn. Yn unol ag erthygl 2, mae dyfais yn ddyfais a gymeradwyir os yw o fath sydd wedi ei ardystio gan Weinidogion Cymru fel un sydd yn bodloni'r gofynion a bennir yn yr Atodlen.

Mae Cyfarwyddeb Safonau Technegol Cenedlaethol 98/34/EC, fel y'i diwygiwyd gan 98/48/EC, (“y Gyfarwyddeb”), yn ceisio atal rhwystrau technegol newydd i fasnachu rhag cael eu creu ac yn gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau technegol a rheoliadau. Rhaid hysbysu'r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio o unrhyw offeryn statudol sy'n rhagnodi safonau technegol a rhaid i'r Adran honno yn ei thro hysbysu'r Comisiwn Ewropeaidd. Mae Erthygl 9, paragraff 1, o'r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol i oedi tri mis rhwng hysbysu'r Comisiwn Ewropeaidd o'r offeryn statudol a dyddiad gwneud yr offeryn hwnnw neu'r dyddiad y daw i rym. Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd o'r offeryn statudol hwn ar 12 Medi 2007. Daeth y cyfnod o dri mis i ben felly ar 13 Rhagfyr 2007.

Gellir cael Asesiad Effaith Reoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol gan yr Uned Trafnidiaeth Integredig, Yr Is-adran Cynllunio a Gweinyddu Trafnidiaeth, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn:

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/buslegislation/bus/bus-legislation-sub/bus-legislation-sub-annulment.htm