Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1259 (Cy.126)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2008

Gwnaed

5 Mai 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Mai 2008

Yn dod i rym

29 Mai 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd bellach(1) ynddynt hwy gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) (Diwygio) 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 29 Mai 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(3).

Diwygio Rheoliadau 2007

3.  Mae Rheoliadau 2007 wedi'u diwygio fel a ganlyn.

4.  Yn rheoliad 2 —

(a)ym mharagraff (4) yn lle “Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci”, rhodder “Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a'r tiriogaethau tramor”;

(b)ym mharagraff (4)(ch) o'r testun Cymraeg, yn lle'r geiriau “blentyn ei briod neu ei bartner sifil,”, rhodder y geiriau “briod neu bartner sifil ei blentyn,”;

(c)ym mharagraff (6)(ch) o'r testun Cymraeg, yn lle'r geiriau “blentyn ei briod neu ei bartner sifil,”, rhodder y geiriau “briod neu bartner sifil ei blentyn,”;

(ch)ar ôl paragraff 7, mewnosoder—

(8) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig oherwydd ei fod wedi symud o'r Ynysoedd at ddibenion ymgymryd â chwrs i'w ystyried yn berson sy'n preswylio fel arfer yn yr Ynysoedd..

5.  Yn yr Atodlen —

(a)ym mharagraff 3(ch), yn lle “Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir”, rhodder “Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor”;

(b)yn lle paragraff 6, rhodder—

6.(1) Person—

(a)sydd—

(i)yn weithiwr mudol AEE neu'n berson hunangyflogedig AEE;

(ii)yn berson Swisaidd cyflogedig neu'n berson Swisaidd hunangyflogedig;

(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);

(iv)yn weithiwr ffin yr AEE neu'n berson hunangyflogedig ffin yr AEE;

(v)yn berson Swisaidd cyflogedig y ffin neu'n berson Swisaidd hunangyflogedig y ffin; neu

(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (iv) neu (v);

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo'r person yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o'r is-baragraff hwnnw.;

(c)ym mharagraff 7(b), yn lle “sydd wedi bod fel arfer yn preswylio yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir” rhodder “sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor”;

(ch)ym mharagraff 8(1)(ch), yn lle “Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir”, rhodder “Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor”;

(d)ym mharagraff 9(1)—

(i)ym mharagraff (a)(i), yn lle “blwyddyn academaidd gyntaf”, rhodder “un o flynyddoedd academaidd”;

(ii)yn lle paragraff (c), rhodder—

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac;

(iii)hepgorer paragraff (ch);

(iv)ym mharagraff (d), yn lle “mharagraffau (c) neu (d)”, rhodder “mharagraff (c) ”;

(dd)ym mharagraff 10(1)(ch), yn lle “Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir”, rhodder “Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor”;

(e)ym mharagraff 11(c), yn lle “Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir”, rhodder “Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor”;

(f)ym mharagraff 12(c), yn lle “Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci”, rhodder “Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a'r tiriogaethau tramor”.

Jane E Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

5 Mai 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”).

Mae rheoliadau 4 a 5 yn gwneud diwygiadau i reoliad 2 a'r Atodlen i Reoliadau 2007 i alluogi preswyliad yn y tiriogaethau tramor i gael ei drin fel preswyliad cymwys mewn achosion penodol ac i'w gwneud yn glir y bydd myfyrwyr sy'n symud o'r Ynysoedd i'r Deyrnas Unedig at ddibenion ymgymryd â'u cwrs yn cael eu trin fel rhai sy'n preswylio fel arfer yn yr Ynysoedd.

Ymdrinnir â gwallau teipograffyddol yn rheoliad 2(4)(ch) a 2(6)(ch) o destun Cymraeg Rheoliadau 2007 yn rheoliad 4.

(1)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 2006/1458 o 8 Mehefin 2006 ymlaen. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas ag adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(d) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(2)

1983 p.40. Diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p.56), Atodlen 37, paragraff 57; Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), Atodlen 3, paragraff 5; Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 21, paragraff 5 a Deddf Addysg 2005 (p.18), Atodlen 14, paragraff 9. Diwygiwyd Adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1988, adran 44 ac Atodlen 4.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources