ATODLEN 1Pathogenau anifeiliaid penodedig

Erthygl 3

RHAN 1

1

Feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau

2

Feirws clwy Affricanaidd y moch

3

Feirws clefyd Aujesky

4

Feirysau ffliw adar sydd —

a

heb eu nodweddu;

b

Feirysau Teip A sydd â mynegrif pathogenedd mewnwythiennol mewn cywion chwe wythnos oed sy'n fwy na 1.2; neu

c

Feirysau Teip A is-deip H5 neu H7 y mae dilyniannu niwcleotid wedi dangos amryw o asidau amino basig yn safle holltiad hæmaglwtinin.

5

Babesia bovis

6

Babesia bigemina

7

Babesia caballi

8

Bacillus anthracis

9

Feirws y tafod glas

10

Feirws lewcosis buchol

11

Brucella abortus

12

Brucella melitensis

13

Brucella ovis

14

Brucella suis

15

Burkholderia mallei

16

Feirws clwy clasurol y moch

17

Cochliomyia hominivorax

18

Feirysau enseffalomyelitis ceffylaidd Dwyreiniol a Gorllewinol

19

Echinococcus multilocularis

20

Echniococcus granulosus

21

Ehrlichia ruminantium

22

Feirws anemia heintus ceffylaidd

23

Feirws clwy'r traed a'r genau

24

Feirws clefyd Hendra

25

Histoplasma farciminosum

26

Feirws enseffalitis Siapaneaidd

27

Feirws clefyd y croen talpiog

28

Mycoplasma agalactiae

29

Mycoplasma capricolum is-rywogaeth capripneumoniae

30

Mycoplasma mycoides is-rywogaeth mycoides SC ac amrywolion mycoides LC

31

Mycoplasma mycoides amr capri

32

Feirysau clefyd Newcastle (paramycsofeirws adar teip 1) sydd—

a

heb eu nodweddu; neu

b

â mynegrif pathogenedd mewnymenyddol mewn cywion diwrnod oed o 0.4 neu ragor, pan roddir dim llai na 10 miliwn o ddosau wyau heintus 50% (EID50) i bob aderyn yn y prawf.

33

Feirws clefyd Nipah

34

Feirws peste des petits ruminants

35

Feirws y gynddaredd a phob feirws o'r genws Lyssavirus

36

Feirws twymyn y Dyffryn Hollt

37

Feirws Rinderpest

38

Feirws enseffalomyelitis ceffylaidd St. Louis

39

Feirws brech y defaid a'r geifr

40

Feirws clefyd pothellog y moch

41

Feirws clefyd Teschen

42

Theileria annulata

43

Theileria equi

44

Theileria parva

45

Trichinella spiralis

46

Trypanosoma brucei

47

Trypanosoma congolense

48

Trypanosoma equiperdum

49

Trypanosoma evansi

50

Trypanosoma simiae

51

Trypanosoma vivax

52

Feirws enseffalomyelitis ceffylaidd Venezuela

53

Feirws stomatitis pothellog

54

Feirws Nil Orllewinol

RHAN 2

55

Y feirws byw sy'n achosi clefyd gwaedlifol firaol mewn cwningod

ATODLEN 2Pwerau arolygwyr

Erthygl 6

Pwerau cyffredinol arolygwyr1

1

Caniateir i unrhyw bersonau y mae'r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol fynd gyda'r arolygydd.

2

At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn caiff arolygydd—

a

cymryd unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau angenrheidiol i'r fangre;

b

gwneud unrhyw archwiliad ac ymchwiliad a all fod yn angenrheidiol o dan unrhyw amgylchiadau, a chaiff gyfarwyddo na ddylid tarfu (p'un ai yn gyffredinol neu mewn agweddau penodol) ar y fangre, unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw beth yn y fangre cyhyd ag y bo'n rhesymol angenrheidiol at ddiben unrhyw archwiliad neu ymchwiliad;

c

cymryd mesuriadau neu dynnu lluniau neu wneud recordiadau;

ch

cymryd samplau o unrhyw eitemau neu sylweddau, neu'r atmosffer (yn y fangre ac wrth ymyl y fangre);

d

achosi i unrhyw eitem neu sylwedd gael ei ddatgymalu neu ei ddarostwng i unrhyw broses neu brawf (ond nid er mwyn ei niweidio neu ei ddistrywio oni bai bod hynny'n angenrheidiol o dan yr amgylchiadau at ddiben y broses neu'r prawf);

dd

cymryd meddiant o unrhyw eitem neu sylwedd a'i ddal dan gadw am gyhyd ag y bo'n angenrheidiol—

i

i'w archwilio a gwneud unrhyw beth iddo y mae gan yr arolygydd bŵer i'w wneud;

ii

i sicrhau nad ymyrrir ag ef cyn cwblhau'r archwiliad;

iii

i sicrhau ei fod ar gael i'w ddefnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos sifil neu droseddol;

e

ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson y mae gan yr arolygydd achos rhesymol dros gredu y gall roi unrhyw wybodaeth (gan gynnwys enw a chyfeiriad y person hwnnw) sy'n berthnasol i unrhyw archwiliad neu ymchwiliad yn ateb (yn absenoldeb personau heblaw person a enwyd gan y person hwnnw i fod yn bresennol ac unrhyw bersonau y caniateir gan yr arolygydd i fod yn bresennol) unrhyw gwestiynau y mae'r arolygydd yn barnu ei bod yn briodol eu gofyn ac yn llofnodi datganiad o wirionedd yr atebion;

f

gwneud y canlynol yn ofynnol, sef dangos unrhyw drwydded neu gofnod a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn, eu harolygu a chymryd copïau ohonynt, neu eu symud ymaith er mwyn galluogi iddynt gael eu copïo a'u harchwilio;

ff

ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi'r cyfryw gyfleusterau a chymorth o ran unrhyw faterion neu bethau o dan reolaeth y person hwnnw neu y mae gan y person hwnnw gyfrifoldebau mewn perthynas ag ef sy'n angenrheidiol er mwyn galluogi'r arolygydd i arfer unrhyw un o'r pwerau a roddir iddo gan yr Atodlen hon;

g

cael mynediad at, archwilio a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion; ac at y diben hwn, caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sy'n ymwneud fel arall â gweithredu'r cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, roi unrhyw gymorth sy'n rhesymol ofynnol, a phan gedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ei gwneud yn ofynnol bod cofnodion yn cael eu cyflwyno ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.

3

Mae'n rhaid i arolygydd sy'n bwriadu arfer y pŵer a roddir iddo gan is-baragraff (2)(d) uchod yn achos eitem neu sylwedd y deuir o hyd iddo mewn unrhyw fangre, os gofynnir iddo gan berson sydd ar y pryd yn bresennol yn y fangre honno ac sydd â chyfrifoldebau mewn perthynas â'r fangre honno, achosi i unrhyw beth sydd i'w wneud yn rhinwedd y pŵer hwnnw gael ei wneud ym mhresenoldeb y person hwnnw.

4

Cyn arfer y pŵer a roddir gan is-baragraff (2)(d) yn achos unrhyw eitem neu sylwedd, rhaid i arolygydd ymgynghori â'r personau hynny yr ymddengys ei bod yn briodol ymgynghori â hwy at ddiben canfod pa beryglon, os oes rhai, a all fod mewn gwneud unrhyw beth y bwriedir ei wneud o dan y pŵer hwnnw.

5

Pan fo arolygydd yn cymryd meddiant o unrhyw eitem neu sylwedd y deuir o hyd iddo mewn unrhyw fangre, rhaid i'r arolygydd adael hysbysiad yno, naill ai gyda pherson cyfrifol neu, os yw hynny'n anymarferol, wedi ei osod mewn lle amlwg, a hwnnw'n hysbysiad sy'n rhoi manylion am yr eitem neu'r sylwedd hwnnw sy'n ddigonol i'w adnabod ac sy'n datgan ei fod wedi ei gymryd o dan y pŵer hwnnw; a chyn cymryd meddiant o'r cyfryw sylwedd o dan y pŵer hwnnw rhaid i arolygydd, os yw'n ymarferol i wneud hynny, gymryd sampl ohono a rhoi i berson cyfrifol yn y fangre gyfran o'r sampl wedi ei marcio mewn dull sy'n ddigonol i'w hadnabod.

6

Nid yw unrhyw ateb a roddir gan berson yn unol â gofyniad a orfodir o dan is-baragraff (2)(e) yn dderbyniol mewn tystiolaeth yn erbyn y person hwnnw neu yn erbyn priod neu bartner sifil y person hwnnw mewn unrhyw achos.

Ymafael mewn pathogenau2

1

Pan fo gan arolygydd sail resymol dros amau bod pathogen anifail penodedig neu gludydd ym meddiant person nad yw'n dal trwydded sy'n ofynnol gan y Gorchymyn hwn neu yn groes i amod trwydded a roddir o dan y Gorchymyn hwn, caiff yr arolygydd hwnnw ar unrhyw adeg ymafael yn, neu beri ymafael yn, y cyfryw bathogen, cludydd neu unrhyw ddeunydd y mae'r arolygydd yn amau yn rhesymol bod y cyfryw bathogen wedi cael ei gadw ynddo neu y mae'n amau yn rhesymol ei fod wedi cael ei gyflwyno iddo.

2

Os yw'r arolygydd yn barnu ei bod yn hwylus i wneud hynny, caiff yr arolygydd hwnnw at ddiben atal cyflwyno neu ledaenu clefyd, ddal dan gadw, trin neu ddistrywio unrhyw bathogen, cludydd neu ddeunydd a ymafaelwyd.

Glanhau a diheintio3

1

Caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i feddiannydd unrhyw fangre (gan gynnwys tŷ annedd) neu i berchennog neu berson sydd â gofal unrhyw gerbyd y mae pathogen penodedig, cludydd neu ddeunydd yn bresennol ynddo neu wedi bod yn bresennol ynddo yn groes i'r Gorchymyn hwn neu yn groes i drwydded a ddyroddir odano, ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo lanhau a diheintio'r cyfryw fangre, lle neu gerbyd mewn unrhyw ddull y caniateir i'r arolygydd drwy'r cyfryw hysbysiad ei bennu, ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo.

2

Pan na chydymffurfiwyd â gofynion y cyfryw hysbysiad, caiff yr arolygydd wneud neu beri gwneud y gwaith glanhau a diheintio a bennir yn yr hysbysiad ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.