RHAN 13CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU

Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys

92.—(1Mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl, yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi, i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni ei bod yn ofynnol iddo ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo ynghylch ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig.

(2Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig os yw'r person hwnnw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3) ac nad yw wedi'i hepgor gan baragraff (4).

(3Yr amodau yw —

(a)bod Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais person am gymorth, wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs ôl-radd dynodedig fod y person yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni ei bod yn ofynnol i'r person ysgwyddo gwariant ychwanegol mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs oherwydd anabledd sydd ganddo.

(4Nid yw person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys –

(a)os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs —

(i)bwrsari gofal iechyd;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007;

(iii)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan Gyngor Ymchwil;

(iv)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan ei sefydliad sy'n cynnwys unrhyw daliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a dynnwyd gan y myfyriwr oherwydd ei anabledd; neu

(v)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) sy'n cynnwys taliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a dynnwyd gan y myfyriwr oherwydd ei anabledd; neu

(b)os yw wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;

(ch)os yw'r person hwnnw, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(5At ddibenion paragraffau (4)(b) a (4)(c) ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau myfyrwyr.

(6Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud —

(a)cyn 25 Medi 1991; a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur y bydd paragraff 4(c) yn gymwys.

(7Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw'r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano.

(8Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon oni bai ei fod yn ymgymryd â'i gwrs yn y Deyrnas Unedig.

(9Er gwaethaf paragraffau (3)(a) a (4), mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3)(b) a pharagraffau (10) neu (11).

(10Yr amodau yw —

(a)bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs ôl-radd dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ôl-radd dynodedig presennol; ac

(c)nad yw statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i derfynu.

(11Yr amodau yw —

(a)bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o'r blaen fod y person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig heblaw'r cwrs ôl-radd dynodedig presennol;

(b)bod statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs yn is-baragraff (a) wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(c)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (a); ac

(ch)nad yw statws y person fel myfyriwr ôl—raddedig cymwys wedi'i derfynu.

(12Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs ôl-radd presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(13Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs ôl-radd presennol; a

(b)y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, body cyfnod y caniateir i'r person â hawl i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben, ac na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(14Nid yw paragraffau (12) a (13) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau'r cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef ei fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys cyn 1 Medi 2007.

(15Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth at y canlynol —

(a)mwy nag un cwrs ôl-radd dynodedig;

(b)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;

(c)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dynodedig;

(ch)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig.

(16Os digwydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (17) yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod yn gymwys i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a

(b)nid oes grant o'r math sydd ar gael o dan y Rhan hon ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd yn dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(17Y digwyddiadau yw—

(a)mae cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs ôl-radd dynodedig;

(b)cydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu mae'n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)mae'r wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn un o'i wladolion yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd pan fo'r myfyriwr wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd trwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ch)mae'r myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(d)daw'r myfyriwr yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(dd)daw'r myfyriwr yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Ran 2 o Atodlen 1; neu

(e)daw'r myfyriwr yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

Cyrsiau ôl-radd dynodedig

93.—(1Mae cwrs ôl-radd yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 92 —

(a)os yw'n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu'n uwch i gael mynediad iddo fel rheol;

(b)os yw'n gwrs —

(i)sy'n para am o leiaf un flwyddyn academaidd; a

(ii)yn achos cwrs rhan-amser, y mae fel arfer yn bosibl cwblhau'r cwrs mewn nid mwy na dwywaith y cyfnod sydd fel arfer yn ofynnol ar gyfer cwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol;

(c)os yw'n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; ac

(ch)nad yw'n gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon neu gwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.

(2At ddibenion paragraff (1) —

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, p'un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg cyfansoddol neu sefydliad sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg cyfansoddol neu sefydliad yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac

(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2).

(3At ddibenion paragraff (1)(b)(ii)—

(a)ystyr “cwrs amser-llawn cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs amser-llawn sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r cwrs o dan sylw;

(b)ystyr “cyfnod sy'n ofynnol fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw'r cyfnod y byddai ei angen ar fyfyriwr amser-llawn safonol i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol.

(c)ystyr “myfyriwr amser-llawn safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr sydd i'w ystyried yn un —

(i)sydd wedi dechrau'r cwrs amser-llawn cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs o dan sylw;

(ii)nad yw wedi'i esgusodi o unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn gyfatebol;

(iii)nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn cyfatebol; ac

(iv)nad yw wedi bod yn absennol o'r cwrs amser-llawn cyfatebol heblaw yn ystod gwyliau.

(4At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 92, caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra

94.—(1Mae myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys hyd oni therfynir y statws yn unol â'r rheoliad hwn a rheoliad 92.

(2Y cyfnod y bydd myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw'r statws yw'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).

(3Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 92, mae'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig.

(4Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr ôl-raddedig cymwys —

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs ôl-radd dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu lle na fyddant yn trosglwyddo ei statws fel myfyriwr ôl—raddedig cymwys i gwrs arall o dan reoliad 95; neu

(b)yn cefnu ar ei gwrs ôl-radd dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(6Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y maent credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau —

(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael grant neu unrhyw swm penodol o grant;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 100.

(7Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n terfynu ar y dyddiad y daw'r cyfnod sy'n ofynnol fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig i ben neu cyn y dyddiad hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnodau ag y byddant yn penderfynu arnynt.

Trosglwyddo statws

95.—(1Os yw myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo i gwrs ôl-radd arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i'r cwrs hwnnw —

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr ôl-raddedig cymwys am wneud hynny;

(b)os ydynt wedi'u bodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(2Y seiliau trosglwyddo yw —

(a)bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig arall yn y sefydliad; neu

(b)bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig mewn sefydliad arall.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau i gael, mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddo.

(5Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno wneud cais am grant arall o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.

Ceisiadau am gymorth

96.—(1Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am grant o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs ôl-radd dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt.

(2Rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael grant a swm y grant sy'n daladwy, os oes grant yn daladwy o gwbl.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd—

(a)P'un a oes gan y ceisydd hawl i gael grant neu beidio;

(b)os oes gan y ceisydd hawl, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl; ac

(c)sut y dyrennir y swm hwnnw rhwng y mathau o wariant cymwys.

Gwybodaeth

97.  Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.

Swm grantiau

98.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), grant o dan y Rhan hon yw unrhyw swm sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, i gynorthwyo gydag un neu fwy o fathau o wariant cymwys.

(2Rhaid i'r grant beidio â bod yn fwy na £10,000 mewn perthynas â blwyddyn academaidd.

(3At ddibenion y Rhan hon, y canlynol yw'r “mathau o wariant cymwys” —

(a)gwariant ar gynorthwyydd nad yw'n gynorthwyydd meddygol;

(b)gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol; a

(c)gwariant ychwanegol a dynnir—

(i)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben mynychu sefydliad;

(ii)o fewn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi at ddiben mynychu, fel rhan o'r cwrs, unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor neu at ddibenion mynychu'r Athrofa.

Talu grantiau

99.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael o dan y Rhan hon a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y maent credu eu bod yn briodol ac wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon fe gânt wneud taliadau dros dro hyd nes y ceir cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael.

(2Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru a chânt ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

Gordaliadau

100.—(1Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad o grant o dan y Rhan hon onid ydynt o'r farn nad yw'n briodol i wneud hynny.

(3Dyma'r dulliau ar gyfer adennill—

(a)tynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)cymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.

(4Mae taliad grant o dan y Rhan hon a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol onid yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(5Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(6Yn yr amgylchiadau ym mharagraffau (7) a (8), mae gordaliad o grant o dan y Rhan hon onid yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(7Yr amgylchiadau yw—

(a)mae Gweinidogion Cymru yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant o dan y Rhan hon i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr ôl-raddedig cymwys;

(b)mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c)nid yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.

(8Yr amgylchiadau yw—

(a)mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben; a

(b)gwneir taliad grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag offer arbenigol i'r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.

(9Pan fo gordaliad o grant o dan y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordaliad os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny.

(2)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.