Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 2CYMHWYSTRA

Myfyrwyr cymwys

4.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

(2Mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig —

(a)os yw Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais y person am gymorth, yn penderfynu ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

(b)os nad yw'r person wedi'i hepgor gan baragraff (3).

(3Ni fydd person yn fyfyriwr cymwys —

(a)os oes hen ddyfarniad wedi'i roi i'r person hwnnw mewn perthynas â phresenoldeb y person ar y cwrs;

(b)os yw'r person yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs o dan Ddeddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990 neu Orchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990;

(c)os rhoddwyd neu os talwyd i'r person mewn perthynas â'i bresenoldeb ar y cwrs —

(i)bwrsari gofal iechyd nad yw ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person; neu

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007(1);

(ch)os yw'r person wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(d)os yw'r person wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed; neu

(dd)os yw'r person, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(4At ddibenion paragraffau (3)(ch) a (3)(d), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a roddwyd o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(5Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud —

(a)cyn 25 Medi 1991, a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur y mae paragraff 3(d) yn gymwys.

(6Rhaid i fyfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn perthynas ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000 beidio, ar unrhyw un adeg, â bod â hawl i gael cymorth —

(a)at fwy nag un cwrs dynodedig;

(b)at gwrs dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;

(c)at gwrs dynodedig a chwrs ôl-radd dynodedig.

(7Yn ddarostyngedig i baragraffau (11) i (13) mae person yn bodloni'r amodau ym mharagraff (8), (9) neu (10)—

(a)os nad yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys iddo; a

(b)os yw'n fyfyriwr cymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(8Dyma'r amodau—

(a)bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf ;

(b)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol; ac

(c)nad yw statws y person wedi'i derfynu.

(9Dyma'r amodau—

(a)bod y cwrs presennol yn gwrs penben (ac eithrio un o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff (c) o'r diffiniad o “cwrs penben” yn rheoliad 2) y mae'r person yn ei ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;

(b)bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef;

(c)mai dim ond ar y sail bod y myfyriwr wedi cwblhau'r cwrs y daeth y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â'r cwrs yn is-baragraff (b) i ben; ac

(ch)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (b).

(10Dyma'r amodau—

(a)bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o'r blaen fod y person —

(i)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig; neu

(ii)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig heblaw'r cwrs presennol;

(b)bod statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs yn is-baragraff (a) wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(c)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (a); ac

(ch)nad yw statws y person fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu.

(11Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i ffoadur—

(i)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef neu'n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol;

(ii)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs cymhwysol y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac nad oes hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),(2)

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(12Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson â hawl i ddod i mewn neu i aros neu yn rhinwedd bod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i'r cyfryw berson—

(i)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef neu'n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol; neu

(ii)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs cymhwysol y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd y cyfnod a ganiateir i'r person sydd â hawl i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(13Nid yw paragraffau (11) a (12) yn gymwys pan fydd y myfyriwr wedi cychwyn ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef ei fod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn fyfyriwr cymwys neu'n fyfyriwr cymhwysol, yn ôl y digwydd, cyn 1 Medi 2007.

Cyrsiau dynodedig

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4) mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 4—

(a)os yw wedi'i grybwyll yn Atodlen 2;

(b)os yw'n un o'r canlynol —

(i)cwrs amser-llawn;

(ii)cwrs rhyngosod; neu

(iii)cwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(c)os nad yw'n gwrs dysgu o bell dynodedig;

(ch)os yw o leiaf—

(i)yn para am un flwyddyn academaidd; neu

(ii)yn para am chwe wythnos yn achos cwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon; a

(d)os yw'n cael ei ddarparu'n gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

(2Nid yw cwrs sy'n syrthio o fewn paragraff 6 neu 7 o Atodlen 2 yn gwrs dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.

(3Nid yw cwrs a gymerir fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon wedi'i seilio ar gyflogaeth yn gwrs dynodedig.

(4Nid yw paragraff 1(c) yn gymwys os bydd y person sy'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â'r cwrs—

(a)yn fyfyriwr anabl; a

(b)yn ymgymryd â'r cwrs hwnnw yn y Deyrnas Unedig ond heb fod yn bresennol arno oherwydd nad yw'n gallu bod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.

(5At ddibenion paragraff (1) —

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, p'un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg cyfansoddol neu sefydliad sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg cyfansoddol neu sefydliad yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac

(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3).

(6Bernir bod cwrs y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf neu ar gyfer cymhwyster cyfatebol hyd yn oed —

(a)os yw'r cwrs yn arwain at ddyfarnu gradd neu gymhwyster arall cyn y radd neu'r cymhwyster cyfatebol; a

(b)os yw rhan o'r cwrs yn ddewisol.

(7Mae paragraff (6) yn gymwys i gwrs nad yw ei safon yn uwch na gradd gyntaf ac sy'n arwain at gymhwyster fel meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirluniau, dylunydd tirluniau, rheolwr tirluniau, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.

(8At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 4(1), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra

6.—(1Mae myfyriwr cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig hyd oni fydd y statws yn dod i ben yn unol â'r rheoliad hwn neu reoliad 4.

(2“Cyfnod cymhwystra” (“period of eligibilty”) yw'r cyfnod y mae myfyriwr cymwys yn cadw'r statws ynddo.

(3Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 4, mae'r “cyfnod cymhwystra” yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr yn cwblhau'r cwrs dynodedig ynddi.

(4Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr cymwys —

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu drosi neu lle na fyddant yn trosglwyddo neu drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys o dan reoliad 74 neu reoliad 88; neu

(b)yn cefnu ar ei gwrs dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(6Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn o bwys, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau —

(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth; neu

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliadau 60, 78, 91, 100 a pharagraff 16 o Atodlen 4.

(7Os bydd y cyfnod cymhwystra'n dod i ben cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn cwblhau'r cwrs dynodedig ynddi, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod y byddant yn penderfynu arno.

(8Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i OD+R+1 y mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd neu fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd ac nad yw wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol yn gymwys.

(9Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (6), dim ond ar gyfer grantiau neu fenthyciadau at ffioedd a grantiau at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (OD+R+1)−PC y mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd neu fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd ac sydd wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol yn gymwys, ac eithrio—

(a)nad oes unrhyw ddidyniad sy'n cyfateb i PC yn gymwys yn achos myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon; a

(b)bod un flwyddyn ychwanegol yn cael ei hadio yn achos myfyriwr cymwys na chwblhaodd yn llwyddiannus y cwrs blaenorol diweddaraf oherwydd rhesymau personol anorchfygol.

(10Mae paragraff (6) yn gymwys —

(a)i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs penben o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) o'r diffiniad o “cwrs penben” yn rheoliad 2;

(b)i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd —

(i)sydd wedi cwblhau cwrs amser-llawn a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2;

(ii)sydd ar gwrs gradd gyntaf amser-llawn (heblaw gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) na ddechreuodd arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i); a

(iii)nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf amser-llawn ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol;

(c)i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd —

(i)sydd wedi cwblhau gradd sylfaenol amser-llawn;

(ii)sydd ar gwrs gradd anrhydedd amser-llawn na ddechreuodd arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol; a

(iii)nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf amser-llawn ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol; ac

(ch)i fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy'n fyfyriwr ar gwrs penben o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau (a) a (b) o'r diffiniad o “cwrs penben” yn rheoliad 2.

(11Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grantiau neu fenthyciadau at ffioedd neu grantiau at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (D + X)Pr C y mae myfyriwr cymwys y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gymwys.

(12Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y y mae myfyriwr sy'n parhau yn gymwys.

(13Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (9), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y y mae myfyriwr sy'n trosglwyddo yn gymwys.

(14Dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs pellach am y nifer o flynyddoedd sy'n hafal i (A+R+1)−Y−Z y mae myfyriwr sy'n trosglwyddo ac sy'n dechrau blwyddyn academaidd lawn gyntaf cwrs pellach y mae'n trosglwyddo iddo o dan reoliad 8 ar ôl 1 Medi 2008 yn gymwys.

(15Mewn unrhyw achos lle mae nifer y blynyddoedd academaidd y mae grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw ar gael ar eu cyfer yn unol â'r rheoliad hwn yn llai na nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol, blynyddoedd diweddaraf y cwrs presennol yw'r blynyddoedd academaidd y mae'r myfyriwr yn gymwys ynddynt i gael grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw.

(16Yn y rheoliad hwn —

(a)A yw nifer y blynyddoedd academaidd o 31 Awst 2006 sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol neu, yn achos myfyriwr sy'n trosglwyddo, y cwrs blaenorol;

(b)D yw 3 neu nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio cyfnod arferol y cwrs, p'un bynnag yw'r mwyaf;

(c)OD yw nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol;

(ch)PC yw nifer y blynyddoedd y bu'r myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs blaenorol;

(d)X yw 1 pan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol yn llai na thair blynedd a 2 pan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol yn dair blynedd;

(dd)R yw nifer y blynyddoedd academaidd sy'n cael eu hailadrodd ar y cwrs presennol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 a'r rheini'n gyfnodau o ailadrodd y blynyddoedd academaidd blaenorol nad oedd y myfyriwr cymwys yn gallu eu cwblhau'n llwyddiannus oherwydd rhesymau personol anorchfygol;

(e)PrC yw'r nifer o flynyddoedd academaidd a dreuliodd y myfyriwr ar y cwrs rhagarweiniol ac eithrio unrhyw flynyddoedd yn ailadrodd astudiaethau am resymau personol anorchfygol;

(f)Y yw nifer blynyddoedd y cwrs presennol, neu'r cwrs blaenorol yn achos myfyriwr sy'n trosglwyddo, ac y penderfynwyd mewn perthynas â'r cwrs hwnnw cyn 1 Medi 2006 o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf nad oedd cymorth ar gael;

(ff)Z yw nifer y blynyddoedd academaidd a dreuliwyd ar gwrs blaenorol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;

(g)ystyr “myfyriwr sy'n parhau” (“continuing student”) yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn a ddechreuodd y cwrs presennol cyn 1 Medi 2006;

(ng)ystyr “myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon” (“teacher training student”) yw myfyriwr sy'n bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon os nad yw cyfnod y cwrs yn para'n hwy na 2 flynedd (gan fynegi cyfnod cwrs rhan-amser yn ôl yr hyn sy'n cyfateb i gwrs amser-llawn) ac nad yw'r myfyriwr yn athro neu athrawes gymwysedig.

(h)ystyr “myfyriwr sy'n trosglwyddo” (“transferring student”) yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau'r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2008 wedi i'w statws fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf oddi ar gwrs dynodedig y dechreuodd y myfyriwr hwnnw arno cyn 1 Medi 2007.

(17Wrth gyfrifo nifer y blynyddoedd at ddibenion y rheoliad hwn, trinnir presenoldeb am ran o flwyddyn academaidd fel blwyddyn academaidd gyfan.

(18Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod ychwanegol y byddant yn penderfynu arno.

(19Caiff Gweinidogion Cymru roi cymhwystra i gael grantiau a benthyciadau at ffioedd a grantiau at gostau byw heblaw yn unol â pharagraffau (8) i (16).

(20At ddibenion y rheoliad hwn ac yn ddarostyngedig i'r eithriadau ym mharagraffau (22), (23) a (24) “cwrs blaenorol” yw unrhyw gwrs addysg uwch amser-llawn neu unrhyw gwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon y dechreuodd y myfyriwr ei fynychu neu, yn achos cwrs gradd cywasgedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig, y dechreuodd ymgymryd ag ef cyn y cwrs presennol ac sy'n bodloni un neu'r ddau ohonynt o'r amodau ym mharagraff (21).

(21Dyma'r amodau—

(a)bod y cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a gafodd gyllid cyhoeddus am rywfaint o'r blynyddoedd academaidd neu'r cyfan ohonynt pan oedd y myfyriwr yn dilyn y cwrs; neu

(b)bod unrhyw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari, grant, lwfans neu ddyfarndal o unrhyw ddisgrifiad a dalwyd mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs neu, yn achos cwrs gradd cywasgedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig, ymgymryd â'r cwrs i dalu ffioedd wedi'i dalu o gronfeydd cyllid cyhoeddus neu a oedd o gronfeydd cyllid a oedd i'w priodoli i gyllid cyhoeddus.

(22Nid ymdrinnir â chwrs a fyddai fel arall yn gwrs blaenorol fel y cyfryw—

(a)os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon;

(b)os nad yw hyd y cwrs presennol yn hwy na dwy flynedd (mynegir hyd cwrs rhan-amser fel hyd y cwrs amser-llawn cyfatebol); ac

(c)os nad yw'r myfyriwr yn athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig.

(23Nid ymdrinnir â chwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg a fyddai fel arall yn gwrs blaenorol fel y cyfryw—

(a)os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg;

(b)os trosglwyddodd y myfyriwr i'r cwrs presennol o gwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg cyn cwblhau'r cwrs hwnnw neu os dechreuodd ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau'r cwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg.

(24Nid ymdrinnir a chwrs ar gyfer gradd (heblaw gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg fel cwrs blaenorol—

(a)os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg;

(b)os trosglwyddodd y myfyriwr i'r cwrs presennol o gwrs ar gyfer gradd (heblaw gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg cyn cwblhau'r cwrs hwnnw neu os dechreuodd ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau'r cwrs ar gyfer gradd (heblaw gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg.

Astudio blaenorol

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), nid oes gan fyfyriwr cymwys sydd wedi ennill gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig hawl i gael grant na benthyciad at ffioedd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 hawl i gael benthyciad at gostau byw os yw wedi ennill gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig.

(3Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon os nad yw cyfnod arferol y cwrs yn para'n hwy na 2 flynedd (gan fynegi cyfnod arferol cwrs rhan-amser yn ôl yr hyn sy'n cyfateb i gwrs amser-llawn) ac nad yw'r myfyriwr cymwys yn athro neu athrawes gymwysedig.

(4Os bernir bod y cwrs presennol yn gwrs sengl oherwydd rheoliadau 5(6) a 5(7) a'i fod yn arwain at ddyfarnu gradd anrhydedd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig i fyfyriwr cymwys cyn y radd derfynol neu'r cymwysterau cyfatebol, nid yw'r myfyriwr cymwys yn cael ei rwystro rhag bod â hawl i gael cymorth o dan baragraff (1) neu (2) mewn perthynas ag unrhyw ran o'r cwrs sengl yn rhinwedd y ffaith iddo gael y radd anrhydedd honno.

(5Nid yw paragraff (2) yn gymwys —

(a)os yw'r cwrs presennol yn arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol;

(b)os yw'r myfyriwr cymwys i gael unrhyw daliad—

(i)o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at ei incwm: neu

(ii)o dan lwfans gofal iechyd yr Alban y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at ei incwm mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd o'r cwrs presennol; neu

(c)os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.

(6Yn y rheoliad hwn a rheoliad 6, ystyr “cyfnod arferol y cwrs” (“ordinary duration of the course”) yw nifer y blynyddoedd academaidd y byddai myfyriwr safonol yn eu cymryd i gwblhau'r cwrs dynodedig ac ystyr “myfyriwr safonol” (“standard student”) yw myfyriwr sydd i'w ystyried yn un —

(i)sydd wedi dechrau'r cwrs dynodedig ar yr un dyddiad â'r myfyriwr cymwys o dan sylw;

(ii)nad yw wedi'i esgusodi o unrhyw ran o'r cwrs am ei fod wedi bod yn bresennol ar gwrs arall;

(iii)na fydd yn ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs; ac

(iv)nad yw'n absennol o'r cwrs heblaw yn ystod gwyliau.

(7Mae paragraffau (7) ac (8) o reoliad 23 yn estyn i'r grantiau at gostau byw y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny ddarpariaethau'r rheoliad hwn sy'n ymwneud â'r hawl i gael benthyciadau at ffioedd a grantiau at ffioedd.

Trosglwyddo statws

8.—(1Os yw myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i'r cwrs hwnnw —

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny;

(b)os ydynt wedi'u bodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(2Dyma'r seiliau trosglwyddo—

(a)bod y myfyriwr cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn rhoi'r gorau i un cwrs ac yn dechrau—

(i)bod yn bresennol ar gwrs dynodedig arall yn y sefydliad;

(ii)yn ymgymryd a chwrs gradd cywasgedig arall yn y sefydliad; neu

(iii)yn ymgymryd a chwrs gradd cywasgedig yn y sefydliad;

(b)bod y myfyriwr cymwys yn dechrau—

(i)bod yn bresennol ar gwrs dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(ii)yn ymgymryd a chwrs gradd cywasgedig mewn sefydliad arall;

(c)ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall;

(ch)ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd (heblaw gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall; neu

(d)ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae gan fyfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) yr hawl i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y bydd yn trosglwyddo iddo, weddill y cymorth a asesir gan Weinidogion Cymru ynghylch y flwyddyn academaidd o'r cwrs y bydd yn trosglwyddo oddi arno.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad.

(5Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru asesu'r cymorth a roddir mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo ohono ond yn gwneud hynny cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno, wneud cais, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddo, am grant neu fenthyciad arall o'r math y mae eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo ohono oni ddarperir fel arall.

(1)

O.S.A. 2007/151 a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2007/503.

(3)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources