RHAN 4GRANTIAU A BENTHYCIADAU AT FFIOEDD

PENNOD 2GRANTIAU AT FFIOEDD

Grantiau at ffioedd: Amodau'r hawl ar gyfer myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn15

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn a ddechreuodd gwrs dynodedig cyn 1 Medi 2006 ac sy'n parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2008 (“myfyriwr sy'n parhau”).

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (5) a rheoliadau 6 a 7, mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant mewn perthynas â'r ffioedd am flwyddyn academaidd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

3

Pennir swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn unol â rheoliad 16 neu 17.

4

Nid oes gan fyfyriwr sy'n parhau hawl i gael cymorth mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig—

a

os yw'r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus; neu

b

os yw'r cwrs dynodedig yn gwrs HCA ôl-radd hyblyg.

5

Nid yw myfyriwr sy'n parhau yn cymhwyso i gael grant at ffioedd o ran unrhyw flwyddyn academaidd o'r cwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008 pan ddyfarnodd Gweinidogion Cymru yn ystod y cyfnod o asesu cais am gymorth o ran blwyddyn academaidd o'r cwrs dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006 yn unol â rheoliadau a wnaed ganddynt o dan adran 22 o'r Ddeddf nad oedd y myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth ffi o ran y cwrs dynodedig.

Swm y grant at ffioedd mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus ac mewn sefydliad preifat ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus: myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn16

1

Oni fydd un o'r achosion a nodir ym mharagraff (4) yn gymwys, swm y grant at ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw'r swm lleiaf o'r isod—

a

£1,255; a

b

y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

2

Swm sylfaenol y grant at ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn yr achosion ym mharagraff (4) yw'r lleiaf o'r canlynol—

a

£625; a

b

y swm sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

3

Os cyfrifir cyfraniad sy'n fwy na dim o dan Atodlen 5, gwneir didyniad o'r grant at ffioedd a benderfynir o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 54.

4

Y canlynol yw'r achosion—

a

blwyddyn derfynol y cwrs os yw fel rheol yn ofynnol i'r flwyddyn honno gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;

b

mewn perthynas â chwrs rhyngosod, blwyddyn academaidd —

i

pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos; neu

ii

mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;

c

mewn perthynas â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs sy'n arwain at radd gyntaf), blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos;

ch

mewn perthynas â chwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad dros y môr, blwyddyn academaidd—

i

pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

ii

mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.

5

Yn achos cwrs dynodedig yng Ngholeg Heythrop, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,245.

6

Yn achos cwrs dynodedig yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £4,565.

7

Swm sylfaenol y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy'n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad cyhoeddus yw'r lleiaf o'r symiau canlynol, sef £1,175 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno—

a

os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;

b

os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac

c

os nad yw unrhyw un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(4) yn gymwys.

8

Swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy'n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad cyhoeddus yw'r lleiaf o'r symiau canlynol, sef £625 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno—

a

os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;

b

os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac

c

os bod un neu fwy o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(4) yn gymwys.

9

Pan gyfrifir cyfraniad sy'n fwy na dim o dan Atodlen 5, gwneir didyniad o swm y grant at ffioedd a benderfynir o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 54.

Swm y grant at ffioedd ar gyfer cwrs mewn sefydliad preifat: myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn17

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad preifat yw'r lleiaf o'r canlynol—

a

£1,175; a

b

y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

2

Yn achos cwrs dynodedig ym Mhrifysgol Buckingham, swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw £2,975.

Grantiau newydd at ffioedd18

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd wneud cais o dan y rheoliad hwn am grant newydd at ffioedd o swm nad yw'n fwy na'r uchafswm sydd ar gael (yn unol â pharagraff (3) neu (4), yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig cymhwysol, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

2

Nid oes grant newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd —

a

os yw'r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus;

b

os yw'r cwrs dynodedig yn hen gwrs HCA ôl-radd hyblyg

3

Uchafswm y grant sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i geisydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig cymhwysol os nad yw'r un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(4) yn gymwys yw £1,890 neu y gwahaniaeth rhwng £1,255 a'r ffioedd sy'n daladwy ganddo, p'un bynnag yw'r lleiaf.

4

Uchafswm y grant sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o'r fath o dan y rheoliad hwn i geisydd os yw un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(4) yn gymwys yw £945 neu y gwahaniaeth rhwng £625 a'r ffioedd sy'n daladwy ganddo, p'un bynnag yw'r lleiaf.

5

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd” (“student who qualifies for a new fee grant”), mewn perthynas â chwrs dynodedig cymhwysol, yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n berson y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs dynodedig ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

6

Yn y Rheoliadau hyn, nid yw myfyriwr a grybwyllir ym mharagraff (5) yn gymwys ar gyfer grant newydd at ffioedd os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod oddi tano yw paragraff 9.

7

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cwrs dynodedig cymhwysol” (“qualifying designated course”), mewn perthynas â myfyriwr y mae ganddo hawl i gael grant newydd at ffioedd, yw cwrs dynodedig sy'n cael ei ddarparu gan sefydliad a ariannir yn gyhoeddus yng Nghymru.