Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW

Amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw

23.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon ar yr amod —

(a)nad yw'r myfyriwr wedi'i hepgor rhag bod â hawl gan unrhyw un o'r paragraffau canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7; a

(b)bod y myfyriwr yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol y mae'n gwneud cais amdano.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon o ran—

(a)blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn bwrsari;

(b)blwyddyn academaidd cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn, gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu, yn llai na 6 wythnos;

(c)cwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon sy'n para am lai nag un flwyddyn academaidd.

(4Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys at ddibenion rheoliad 24.

(5Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.

(6At ddibenion paragraff (5), ystyr “gwasanaeth di-dâl” (“unpaid service”) yw —

(a)gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gydag ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig;

(b)gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy'n ymwneud â gofal plant a phersonau ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy'n darparu cyfleusterau neu sy'n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig;

(c)gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu'r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig;

(ch)ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr sy'n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu

(d)gwasanaeth di-dâl gydag —

(i)Awdurdod Iechyd Strategol a sefydlwyd yn unol ag adran 13 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 28 o'r Ddeddf honno(1);

(ii)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 22 o'r Ddeddf honno(2);

(iii)Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(3); neu

(iv)Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 16 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(4).

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan reoliad 35, 36 neu 37 mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dynodedig os nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno.

(8Nid yw paragraff (7) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol o ran blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yw —

(a)bod y flwyddyn yn flwyddyn Erasmus; neu

(b)bod y cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd HCA hyblyg.

(9Ym mharagraff (7) ystyr “cymorth perthnasol” (“relevant support”), yn achos grant o dan reoliad 35, yw grant at ffioedd, neu, yn achos grant o dan reoliad 36 neu 37, benthyciad at ffioedd.

(10Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (11) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr gymhwyso i gael grant penodol yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn gyfan neu ran ohoni ond nid oes ganddo hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(11Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ch)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(dd)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(12Yn ddarostyngedig i baragraff (13), nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant o dan y Rhan hon o ran blwyddyn academaidd y bydd yn ystod unrhyw ran ohoni yn garcharor.

(13Nid yw paragraff (12) yn gymwys o ran grant at gostau byw myfyrwyr anabl.

(14Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion cymhwyso ar gyfer y grantiau canlynol—

(a)grantiau ar gyfer dibynyddion;

(b)grant at gostau byw myfyrwyr anabl;

(c)grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig;

(ch)grant addysg uwch.

(15Mae paragraff (14) yn gymwys ar gyfer—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr anabl—

(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.

Grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl

24.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr ei ysgwyddo mewn cysylltiad bod yn bresennol ar gwrs dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.

(2Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried sy'n briodol yn unol ag amgylchiadau'r myfyriwr.

(3Ac eithrio pan fydd paragraff (5) yn gymwys, rhaid i swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na'r canlynol—

(a)£20,000 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)£5,035 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)y gwariant ychwanegol sy'n cael ei ysgwyddo—

(i)yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad,

(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad dros y môr neu er mwyn bod yn bresennol yn yr Athrofa;

(ch)£1,685 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei ysgwyddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig a bennir yn y paragraffau hynny.

(4Os yw'r myfyriwr cymwys wedi cael taliadau i helpu gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn cysylltiad â'r cwrs yn rhinwedd y ffaith bod ganddo ddyfarniad trosiannol, mae uchafswm y grant o dan baragraff (3)(b) yn cael ei ostwng yn ôl swm y taliadau hynny.

(5Uchafswm y grant o dan baragraffau (3)(a) a (3)(ch) yw £15,000 a £1,260, yn y drefn honno —

(a)os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon; a

(b)os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn mewn unrhyw flwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw, ac ymarfer dysgu amser-llawn gyda'i gilydd yn llai na 6 wythnos.

Grantiau ar gyfer dibynyddion — cyffredinol

25.—(1Mae'r grantiau ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol —

(a)grant dibynyddion mewn oed;

(b)grant gofal plant;

(c)lwfans dysgu rhieni.

(2Nodir amodau'r hawl i gael pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 26 i 29.

(3Caniateir didynnu swm o unrhyw un o elfennau'r grantiau ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliad 54.

Grantiau ar gyfer dibynyddion — grant dibynyddion mewn oed

26.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas â un dibynnydd i fyfyriwr cymwys sydd naill ai —

(a)yn bartner i'r myfyriwr cymwys; neu

(b)yn ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr cymwys nad yw ei incwm net yn fwy na £3,705.

(3Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 29, a'r swm sylfaenol yw —

(a)£2,580; neu

(b)os yw'r person y mae'r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,580 sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

Grantiau ar gyfer dibynyddion — grant gofal plant

27.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys, mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, hawl i gael grant gofal plant yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae'r grant gofal plant ar cael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn tynnu costau gofal plant rhagnodedig ynddi a hynny ar gyfer —

(a)plentyn dibynnol sydd o dan 15 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd; neu

(b)plentyn dibynnol sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(5) a'i fod o dan 17 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r myfyriwr neu bartner y myfyriwr wedi dewis cael yr elfen gofal plant o'r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(6).

(4Nid yw myfyriwr cymwys yn gymwys i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r costau gofal plant rhagnodedig y mae'n eu tynnu'n cael eu talu neu os ydynt i'w talu gan y myfyriwr i'w bartner.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw —

(a)ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o gostau gofal plant rhagnodedig, hyd at uchafswm o £157.25 yr wythnos; neu

(b)ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o gostau gofal plant rhagnodedig, hyd at uchafswm o £267.75 yr wythnos;

ac eithrio nad oes gan y myfyriwr hawl i gael unrhyw grant o'r fath mewn perthynas â phob wythnos sy'n syrthio o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw'r cwrs i ben ynddi.

(6Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant gofal plant —

(a)mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a

(b)os yw wythnos y caiff costau gofal plant rhagnodedig eu tynnu mewn perthynas â hi yn syrthio'n rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan iddi, mae uchafswm wythnosol y grant yn cael ei gyfrifo drwy luosi'r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (4) â nifer o ddyddiau yn yr wythnos honno sy'n syrthio o fewn y flwyddyn academaidd a rhannu'r canlyniad â saith.

(7Yn y rheoliad hwn, ystyr “costau gofal plant rhagnodedig” (“prescribed childcare charges”) yw costau gofal plant o ddisgrifiad a ragnodir at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002(7).

Grantiau ar gyfer dibynyddion — lwfans dysgu rhieni

28.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i gael y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr un neu fwy o ddibynyddion sy'n blant dibynnol.

(2Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 29, a'r swm sylfaenol yw £1,470.

Grantiau ar gyfer dibynyddion — eu cyfrifo

29.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan reoliadau 26 i 28 yw'r swm hwnnw o'r elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben, swm sy'n hafal i (A − B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol —

(a)i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 26;

(b)i ostwng swm sylfaenol y grant gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 27; ac

(c)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 28.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (13), os yw B yn fwy na neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w chael yn daladwy.

(3Os yw (A − B) yn hafal i neu'n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.

(4Gostyngir swm grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) o ran dibynnydd mewn oed gan hanner y swm—

(a)os yw partner y myfyriwr cymwys—

(i)yn fyfyriwr cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner yn ymgymhwyso ar ei gyfer neu'r taliad y mae ganddo hawl iddo o dan y dyfarniad statudol.

(5Gostyngir swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan baragraff (1) gan hanner y swm—

(a)os yw partner y myfyriwr cymwys—

(i)yn fyfyriwr cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner yn ymgymhwyso ar ei gyfer neu'r taliad y mae ganddo hawl iddo o dan y dyfarniad statudol.

(6Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.

(7Yn y rheoliad hwn —

  • A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a

  • B yw—

    (a)

    £1,130 os nad oes gan y myfyriwr cymwys blentyn dibynnol;

    (b)

    £3,385 os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

    (c)

    £4,515—

    (i)

    os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol; neu

    (ii)

    os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn;

    (ch)

    £5,650 os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

(8Mae paragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd, yn ystod y flwyddyn academaidd —

(a)bod nifer dibynyddion y myfyriwr cymwys yn newid;

(b)bod person yn dod yn ddibynnydd i'r myfyriwr cymwys neu'n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;

(c)bod y myfyriwr cymwys yn dod yn rhiant unigol neu'n peidio â bod yn rhiant unigol;

(ch)bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 23(11).

(9Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu rhieni yn daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol —

(a)faint o ddibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;

(b)pwy yw'r dibynyddion hynny;

(c)a yw'r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.

(10Swm y grantiau ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni wedi'u cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (11) a swm unrhyw grant gofal plant am y flwyddyn academaidd.

(11Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu'r lwfans am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y'u pennir o dan baragraff (9) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.

(12Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw —

(a)yn achos person y cyfeirir ato ym mharagraff (8)(ch), chwarter sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ddigwydd heblaw chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru;

(b)fel arall, chwarter heblaw'r chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru.

(13Caniateir gwneud didyniad yn unol â Rhan 9 o'r swm sy'n daladwy o ran elfen benodol o'r grantiau ar gyfer dibynyddion a gyfrifir o dan y Rhan hon.

Grantiau ar gyfer dibynyddion — dehongli

30.—(1Yn rheoliadau 26 i 29 —

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (j), ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr heblaw plentyn y myfyriwr, partner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn bartner y myfyriwr;

(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr sy'n ddibynnol arno ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto sy'n ddibynnol arno;

(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

(ch)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(d)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw plentyn sy'n ddibynnol ar y myfyriwr;

(dd)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;

(e)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);

(f)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (f), (ff) ac (g), (ng), (h) ac (i) ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol —

(i)priod myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod i'r myfyriwr hwnnw os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 a'i fod wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r myfyriwr cymwys os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 a'i fod wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(ff)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (f) yn cael ei drin fel partner —

(i)os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu

(ii)os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys;

(g)at ddibenion y diffiniad o “dibynnydd mewn oed”, mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5;

(ng)at ddibenion y diffiniadau o “plentyn” a “rhiant unigol”, mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr cymwys ar ei gwrs dynodedig a bennir neu'r ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5;

(h)at ddibenion rheoliad 27 —

(i)nid yw is-baragraff (ff) yn gymwys; a

(ii)mae person i'w drin fel pe bai'n bartner pe byddai'n bartner o dan is-baragraff (f) pe na bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'n byw gydag ef yn arferol yn dod o fewn paragraff (2)(1)(a) o Atodlen 5;

(i)at ddibenion penderfynu a yw rhywun yn gynbartner i bartner i fyfyriwr cymwys, ystyr “partner” (“partner”) o ran partner i fyfyriwr cymwys yw—

(i)priod i bartner myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil i bartner myfyriwr cymwys;

(iii)pan fo myfyriwr cymwys wedi dechrau'r cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2000, rhywun sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys fel petai'n briod iddo;

(iv)pan fo myfyriwr cymwys wedi dechrau'r cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys fel petai'n bartner sifil iddo;

(j)yn ddarostyngedig i is-baragraff (l), at ddibenion y diffiniadau o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”) a “plentyn dibynnol” (“dependent child”) caiff Gweinidogion Cymru ymdrin ag oedolyn neu blentyn fel un sy'n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt yn fodlon nad yw'r oedolyn neu'r plentyn—

(i)yn ddibynnol ar—

(aa)y myfyriwr cymwys; neu

(bb)ei bartner; ond

(ii)yn ddibynnol ar y myfyriwr cymwys a'i bartner gyda'i gilydd.

(l)rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag ymdrin ag oedolyn (“A”) fel un dibynnol ar fyfyriwr cymwys yn unol ag is-baragraff (j), os yw A—

(iii)yn briod neu'n bartner sifil i bartner y myfyriwr cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil yr ystyria Gweinidogion Cymru bod partner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu

(iv)yn gynbartner partner y myfyriwr cymwys.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu —

(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

(b)budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(8);

(c)unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(9);

(ch)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

(d)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989(10);

(dd)unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno(11); ac

(e)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(12).

(3Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) wedi'i ostwng yn ôl —

(a)swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu

(b)unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, pe gallai rhwymedigaeth lai fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol yn eu barn hwy.

(4At ddibenion paragraff (2), os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn, mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm y plentyn.

Amodau cymhwysol ar gyfer y grant at deithio

31.—(1Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys sy'n mynychu cwrs mewn meddygaeth neu ddeintyddiaeth (y mae rhan hanfodol ohono'n gyfnod o astudio ar ffurf hyfforddiant clinigol) mewn perthynas â'r gwariant rhesymol y mae'n orfodol iddo ei dynnu mewn blwyddyn academaidd at ddiben mynychu mewn cysylltiad â'i gwrs unrhyw ysbyty neu fangre arall yn y Deyrnas Unedig (nad yw'n rhan o'r sefydliad) lle y darperir cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant clinigol a hynny ac eithrio gwariant a dynnir at ddiben cyfnod o astudio preswyl heb fod yn y sefydliad.

(2Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys ynglŷn â'r gwariant rhesymol y mae'n orfodol iddo ei dynnu ym mhob chwarter cymhwysol naill ai yn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol mewn sefydliad tramor neu'r Athrofa fel rhan o'i gwrs .

Swm y grant at deithio

32.—(1Mae swm y grant sy'n daladwy o dan reoliad 31(1) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn hafal i'r gwariant rhesymol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys ei dynnu at y dibenion a nodir yn y rheoliad hwnnw llai £295.

(2Cyfrifir swm y grant sy'n daladwy o dan reoliad 31(2) mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

lle—

  • X yw cyfanswm y costau teithio rhesymol y mae'n orfodol i'r myfyriwr cymwys eu tynnu ym mhob chwarter cymhwysol at y dibenion a nodir yn rheoliad 31.

  • Y yw cyfanswm y gwariant a dynnwyd ym mhob chwarter cymhwysol a bennir ym mharagraff (3).

(3Y gwariant a bennir ym mharagraff (2) yw—

(a)gwariant y mae'r myfyriwr cymwys yn rhesymol yn ei dynnu wrth yswirio rhag atebolrwydd am gost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i'r Deyrnas Unedig am unrhyw salwch neu anaf personol y mae'n ei ddal neu'n ei ddioddef yn ystod y cyfnod y mae'n bresennol yn y sefydliad tramor neu yn yr Athrofa;

(b)cost fisa neu fisâu y mae'n orfodol i'r myfyriwr cymwys eu cael er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad tramor neu'r Athrofa; ac

(c)costau meddygol y mae'r myfyriwr cymwys yn rhesymol yn eu tynnu er mwyn cyflawni amod gorfodol i fynd i'r diriogaeth, y wlad neu'r wladwriaeth lle y mae'r sefydliad tramor neu'r Athrofa.

Didyniadau o'r grant at deithio

33.  Caniateir gwneud didyniad o grant o dan reoliadau 30 i 32 yn unol â Rhan 9.

Dehongli

34.  At ddibenion y Rhan hon—

(a)o ran unrhyw gyfeiriad at wariant a dynnir at ddiben mynychu sefydliad neu gyfnod o astudio—

(i)mae'n cynnwys gwariant cyn ac ar ôl mynychu felly; a

(ii)nid yw'n cynnwys unrhyw wariant y mae grant yn daladwy mewn perthynas ag ef o dan reoliad 24.

(b)ystyr “chwarter cymhwysol” (“qualifying quarter”) yw chwarter y mae myfyriwr cymwys yn treulio o leiaf hanner cyfnod y chwarter hwnnw yn mynychu, fel rhan o'i gwrs, sefydliad tramor neu'r Athrofa.

Grantiau addysg uwch

35.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant addysg uwch mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael eu hysgwyddo er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael grant addysg uwch oni bai ei fod wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2004.

(3Uchafswm y grant addysg uwch sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,000.

(4Mae gan fyfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant addysg uwch hawlogaeth i gael swm fel a ganlyn —

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £16,765 neu lai, mae ganddo hawlogaeth i gael uchafswm y grant sydd ar gael;

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £16,765 ac nad yw'n fwy na £22,750, mae'r myfyriwr yn cael swm sy'n hafal i M−A, pan fo M yn £1,000 ac A yn £1 am bob £6.30 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £16,765; ac

(c)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy nag £22,750, nid oes grant yn daladwy o dan y rheoliad hwn.

Grant cynhaliaeth

36.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cynhaliaeth mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cynhaliaeth os oes ganddo hawl i gael grant cymorth arbennig.

(3Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw —

(a)yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,415;

(b)yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,835; ac

(c)yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,835.

(4Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £1,415;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,850, mae'n cael swm sy'n hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,415 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,850, mae'n cael £625.

(5Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £2,835;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,850, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £2,835 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,850, mae'n cael £1,255.

(6Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £2,835;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,850, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £2,835 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,850 ond heb fod yn fwy na £39,300, mae'n cael swm sy'n hafal i RM−A, pan fo RM yn £1,255 ac A yn £1 am bob £9.50 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,850;

(ch)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,300 nid oes grant cynhaliaeth yn daladwy.

Grant Cymorth Arbennig

37.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cymorth arbennig mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu cost llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael eu hysgwyddo er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

(2Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw'n syrthio o fewn categori rhagnodedig o berson at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(13), neu os ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n atebol i wneud taliadau mewn perthynas ag annedd a ragnodwyd gan reoliadau a wnaed o dan adran 130(2) o'r Ddeddf honno(14).

(3Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—

(a)yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,415;

(b)yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,835; ac

(c)yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr math 1 neu fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,835.

(4Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £1,415;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,850, mae'n cael swm sy'n hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,415 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,850, mae'n cael £625.

(5Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno —

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £2,835;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,850, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £2,835 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,850, neu os yw'r myfyriwr wrth wneud cais am y grant yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae'n cael £1,255.

(6Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £2,835;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,850, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £2,835 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,850 ond heb fod yn fwy na £39,300, mae'n cael swm sy'n hafal i RM−A, pan fo RM yn £1,255 ac A yn £1 am bob £9.50 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,850;

(ch)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,300, nid oes grant cymorth arbennig yn daladwy.

(4)

O.S. 1972/1265 (G.I. 14), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(5)

1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 23, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140, Atodlen 30, paragraff 71 ac Atodlen 31 a Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraff 56 a Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), Atodlen 1, paragraff 3.

(6)

2002 (p.21) y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(7)

Mae Rheoliad 14 o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth ac Uchafsymiau) 2002 (O.S. 2002/2005, fel y'i diwygir gan O.S.2003/701, O.S 2003/2815, O.S. 2004/762, O.S. 2004/1276, O.S 2004/2663, O.S. 2005/769, O.S 2005/2919, O.S 2006/766, O.S 2007/824 ac O.S 2007/2479) yn nodi'r costau a ragnodir, ac felly gostau gofal plant rhagnodedig, at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002.

(8)

1992 p. 4 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(10)

1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p.41), Atodlen 6, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14), Atodlen 4, paragraff 14 a Deddf Plant 2004 (p.31), adran 49 (3).

(11)

Mae diwygiadau i adrannau 15 a 24 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(12)

2002 p.21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(13)

1992 p. 4. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 4ZA o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967). Mewnosodwyd rheoliad 4ZA gan O.S. 1996/206, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/1981 ac O.S. 2006/2144; mae yna offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol.

(14)

Mae diwygiadau i adran 130 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 56 o Reoliadau Cymhorthdal Tai 2006 (O.S. 2006/213 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/718).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources