Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 6BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Amodau'r hawl i gael benthyciadau at gostau byw

38.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r myfyriwr yn bodloni'r amod ym mharagraff (2) ac nad yw'n cael ei hepgor gan baragraff (3) neu reoliad 7.

(2Yr amod yw bod y myfyriwr cymwys o dan 60 oed ar y dyddiad perthnasol.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

(4Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r cwrs hwnnw'n gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n para am lai nag un flwyddyn academaidd.

(5Mae myfyriwr cymwys o dan yr hen system sy'n dod o fewn paragraff (a) neu (ch)(i) o'r diffiniad o “myfyriwr cymwys o dan yr hen system” yn rheoliad 2 yn gymwys i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â mynychu cwrs dynodedig os yw'n bodloni'r amod ym mharagraff (2) ac nad yw wedi'i wahardd gan baragraff (3).

(6Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion cymhwyso ar gyfer benthyciad at gostau byw.

(7Mae paragraff (7) yn gymwys ar gyfer—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(b)myfyriwr anabl—

(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.

(8Er mwyn cael benthyciad at gostau byw, rhaid i fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn ymrwymo mewn contract â Gweinidogion Cymru o dan delerau sydd i'w penderfynu gan Weinidogion Cymru.

(9Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael benthyciad at gostau byw dan y Rhan hon o ran blwyddyn academaidd y bydd yn ystod unrhyw ran ohoni yn garcharor.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn

39.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd heblaw blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys, yw—

(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,580;

(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, £6,480;

(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, £5,515;

(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, £5,515;

(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,625.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys yw—

(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,240;

(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, £5,900;

(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, £4,795;

(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, £4,795;

(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,285.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn

40.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn (heblaw myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, y mae ei gyfraniad yn uwch na dim).

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (heblaw blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys) yn hafal i

lle—

  • X

    (i)

    i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £3,580;

    (ii)

    i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £6,480;

    (iii)

    i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £5,515;

    (iv)

    i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £5,515;

    (v)

    i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £4,625;

  • Y yw swm y grant cynhaliaeth.

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys yn hafal i

lle—

  • X

    (i)

    i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £3,240;

    (ii)

    i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £5,900;

    (iii)

    i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £4,795;

    (iv)

    i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £4,795;

    (v)

    i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £4,795;

  • Y yw swm y grant cynhaliaeth.

(4Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw'r canlynol—

(a)os oes gan y myfyriwr hawl o dan reoliad 36 i gael swm o grant cynhaliaeth nad yw'n fwy na £1,255, swm y grant cynhaliaeth sy'n daladwy;

(b)os oes gan y myfyriwr hawl o dan reoliad 36 i gael swm o grant cynhaliaeth sy'n fwy na £1,255; ac

(c)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy, dim.

41.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr math 1 neu i fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ei gyfraniad yn uwch na dim.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd heblaw blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam yw —

(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,580;

(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, £6,480;

(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, £5,515;

(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, £5,515;

(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,625.

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs heblaw blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys yw —

(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,240;

(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, £5,900;

(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, £4,795;

(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, £4,795;

(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,285.

Myfyrwyr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng

42.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs heblaw blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys yw —

(a)os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(a) —

(i)i fyfyriwr yng nghategori 1, £1,700;

(ii)i fyfyriwr yng nghategori 2, £3,185;

(iii)i fyfyriwr yng nghategori 3, £2,265;

(iv)i fyfyriwr yng nghategori 4, £2,265;

(v)i fyfyriwr yng nghategori 5, £2,265;

(b)os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(c) neu 23(5) —

(i)i fyfyriwr yng nghategori 1, £1,700;

(ii)i fyfyriwr yng nghategori 2, £3,185;

(iii)i fyfyriwr yng nghategori 3, £2,710;

(iv)i fyfyriwr yng nghategori 4, £2,710;

(v)i fyfyriwr yng nghategori 5, £2,265;

(c)os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd swm hafal i

X - Y

pan fo—

  • X

    (i)

    i fyfyriwr yng nghategori 1, yn £2,685;

    (ii)

    i fyfyriwr yng nghategori 2, yn £4,860;

    (iii)

    i fyfyriwr yng nghategori 3, yn £4,135;

    (iv)

    i fyfyriwr yng nghategori 4, yn £4,135;

    (v)

    i fyfyriwr yng nghategori 5, yn £3,470;

  • Y yw'r swm a bennir ym mharagraff (ch).

(ch)y swm penodedig yw —

(i)£625 os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan yw'n gwneud cais am grant cynhaliaeth ac sy'n gymwys i gael grant cynhaliaeth o £625;

(ii)£1,255 os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan yw'n gwneud cais am grant cynhaliaeth ac sy'n gymwys i gael grant cynhaliaeth o £1,255;

(iii)dim pan nad yw'r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyffordd neu pan nad yw'n fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys yw —

(a)os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(a) —

(i)i fyfyriwr yng nghategori 1, £1,290;

(ii)i fyfyriwr yng nghategori 2, £2,435;

(iii)i fyfyriwr yng nghategori 3, £1,765;

(iv)i fyfyriwr yng nghategori 4, £1,765;

(v)i fyfyriwr yng nghategori 5, £1,765;

(b)os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(b) neu 23(5) —

(i)i fyfyriwr yng nghategori 1, £1,290;

(ii)i fyfyriwr yng nghategori 2, £2,435;

(iii)i fyfyriwr yng nghategori 3, £1,980;

(iv)i fyfyriwr yng nghategori 3, £1,980;

(v)i fyfyriwr yng nghategori 3, £1,765;

(c)os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd swm hafal i

X - Y

pan fo—

  • X

    (i)

    i fyfyriwr yng nghategori 1, yn £2,430;

    (ii)

    i fyfyriwr yng nghategori 2, yn £4,425;

    (iii)

    i fyfyriwr yng nghategori 3, yn £3,595;

    (iv)

    i fyfyriwr yng nghategori 4, yn £3,595;

    (v)

    i fyfyriwr yng nghategori 5, yn £3,215;

  • Y yw'r swm a bennir ym mharagraff (ch).

(ch)y swm penodedig yw—

(i)£625 os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan yw'n gwneud cais am grant cynhaliaeth ac sy'n gymwys i gael grant cynhaliaeth o £625;

(ii)£1,255 os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan yw'n gwneud cais am grant cynhaliaeth ac sy'n gymwys i gael grant cynhaliaeth o £1,255;

(iii)dim pan nad yw'r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi neu pan nad yw'n fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.

Myfyrwyr sy'n preswylio gyda'u rhieni

43.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw myfyriwr cymwys yn preswylio yng nghartref ei rieni a bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni nad yw'n rhesymol disgwyl, o dan yr holl amgylchiadau, i rieni'r myfyriwr gynnal y myfyriwr oherwydd oedran, analluedd neu fel arall ac y byddai'n briodol i swm y benthyciad sy'n daladwy i fyfyriwr mewn categori heblaw categori 1 fod yn gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw, rhaid trin y myfyriwr fel pe na bai'n preswylio yng nghartref ei rieni.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2004.

Benthyciadau at gostau byw sy'n daladwy ar gyfer trichwarteri o'r flwyddyn academaidd

44.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 46, mae'r benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter o' flwyddyn academaidd.

(2Nid yw'r benthyciad at gostau byw yn daladwy—

(a)yn achos myfyriwr cwrs gradd cywasgedig, o ran y chwarter a enwebwyd gan Weinidogion Cymru;

(b)ym mhob achos arall, o ran y chwarter pan fydd, ym marn Gweinidogion Cymru, y gwyliau hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo.

Myfyrwyr sy'n syrthio i fwy nag un categori

45.  Os yw myfyriwr cymwys yn syrthio i fwy nag un o'r categorïau yn rheoliad 49 yn ystod y flwyddyn academaidd —

(a)uchafswm y benthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm uchafsymiau'r benthyciad at gostau byw am bob chwarter y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy;

(b)uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o'r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai'n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai'r myfyriwr yn syrthio i'r categori sy'n gymwys i'r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd; ac

(c)y categori sy'n gymwys i chwarter yw —

(i)y categori y mae'r myfyriwr yn syrthio iddo am y cyfnod hwyaf yn y chwarter hwnnw; neu

(ii)os yw'r myfyriwr yn syrthio i fwy nag un categori am gyfnod cyfartal yn y cyfnod hwnnw, y categori sydd â'r gyfradd uchaf o fenthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

46.—(1Os yw myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2), gall fod gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at gostau byw, mewn perthynas â'r chwarteri hynny o'r flwyddyn academaidd honno y mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â hwy ac sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ym mharagraff (2) ddigwydd.

(2Y digwyddiadau yw —

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu'n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ch)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(dd)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys y mae paragraff (1) yn gymwys iddo hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y mae'r digwyddiad perthnasol yn digwydd ynddi.

(4Uchafswm y benthyciad at gostau byw sy'n daladwy yw cyfanswm uchafsymiau'r benthyciad am bob chwarter y mae gan y myfyriwr hawl i gael cymorth mewn perthynas â hwy o dan y rheoliad hwn.

(5Uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o'r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai'n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai'r myfyriwr yn syrthio i'r categori sy'n gymwys i'r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Codiadau yn yr uchafswm

47.—(1Os yw'n ofynnol i fyfyriwr cymwys fod yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod sy'n fwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd, rhaid codi uchafswm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 39 i 41 am bob wythnos neu bob rhan o wythnos o bresenoldeb yn y flwyddyn academaidd honno y tu hwnt i 30 wythnos a 3 diwrnod fel a ganlyn:

(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, codiad o £54;

(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, codiad o £103;

(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, codiad o £112;

(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, codiad o £112;

(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, codiad o £81.

(2Os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod heb fod yn llai na 45 wythnos mewn unrhyw gyfnod di-dor o 52 wythnos, codir swm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 39 i 41 am bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr yn bresennol yn ôl y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

(3Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys yn achos myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng

Didynnu o fenthyciadau at gostau byw

48.—(1Caniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn neu fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn yn unol â rheoliad 54.

(2Ni chaniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng o dan reoliad 54.

Dehongli Rhan 6

49.—(1Yn y Rhan hon —

(a)mae myfyriwr yng nghategori 1 os yw'r myfyriwr yn preswylio yng nghartref ei rieni tra bydd yn bresennol ar y cwrs dynodedig neu os yw'n aelod o urdd grefyddol ac yn byw yn un o dai'r urdd honno;

(b)mae myfyriwr yng nghategori 2 os nad yw yng nghategori 1 a'i fod yn bresennol ar un neu fwy o'r canlynol —

(i)cwrs ym Mhrifysgol Llundain;

(ii)cwrs mewn sefydliad sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o'r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle sydd yn gyfan gwbl neu yn rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd; neu

(iii)cwrs rhyngosod mewn sefydliad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr cymwys ymgymryd â phrofiad gwaith neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio ar yr amod bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r profiad gwaith hwnnw neu'r cyfuniad hwnnw o brofiad gwaith ac astudio am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o'r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle neu safleoedd sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd;

(c)mae myfyriwr yng nghategori 3 os nad yw'r myfyriwr yng nghategori 1 ac os yw'r myfyriwr yn mynychu sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs;

(ch)mae myfyriwr yng nghategori 4 os nad yw'r myfyriwr yng nghategori 1 a'i fod yn mynychu yr Athrofa;

(d)mae myfyriwr yng nghategori 5 os nad yw yng nghategorïau 1 i 4;

(dd)ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig a bennir;

(e)“myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn” (“new system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng;

(f)“myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn” (“old system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn heblaw myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng;

(ff)“myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng” (“student with reduced entitlement”) yw myfyriwr cymwys —

(i)nad yw'n gymwys i gael grant at gostau byw mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd yn rhinwedd rheoliad 23(3)(a), (b) neu (c) neu rheoliad 23(5); neu

(ii)sydd, wrth wneud cais am fenthyciad at gostau byw, yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd;

(g)os un flwyddyn academaidd yn unig yw hyd cwrs i raddedigion neu ar lefel ôl-radd ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, nid yw'r flwyddyn honno i gael ei thrin fel y flwyddyn derfynol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources