- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
15.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn a ddechreuodd gwrs dynodedig cyn 1 Medi 2006 ac sy'n parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2008 (“myfyriwr sy'n parhau”).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) a rheoliadau 6 a 7, mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant mewn perthynas â'r ffioedd am flwyddyn academaidd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(3) Pennir swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn unol â rheoliad 16 neu 17.
(4) Nid oes gan fyfyriwr sy'n parhau hawl i gael cymorth mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig—
(a)os yw'r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus; neu
(b)os yw'r cwrs dynodedig yn gwrs HCA ôl-radd hyblyg.
(5) Nid yw myfyriwr sy'n parhau yn cymhwyso i gael grant at ffioedd o ran unrhyw flwyddyn academaidd o'r cwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008 pan ddyfarnodd Gweinidogion Cymru yn ystod y cyfnod o asesu cais am gymorth o ran blwyddyn academaidd o'r cwrs dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006 yn unol â rheoliadau a wnaed ganddynt o dan adran 22 o'r Ddeddf nad oedd y myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth ffi o ran y cwrs dynodedig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: