Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008

Grantiau at ffioedd: Amodau'r hawl ar gyfer myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn

15.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn a ddechreuodd gwrs dynodedig cyn 1 Medi 2006 ac sy'n parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2008 (“myfyriwr sy'n parhau”).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (5) a rheoliadau 6 a 7, mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant mewn perthynas â'r ffioedd am flwyddyn academaidd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(3Pennir swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn unol â rheoliad 16 neu 17.

(4Nid oes gan fyfyriwr sy'n parhau hawl i gael cymorth mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig—

(a)os yw'r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus; neu

(b)os yw'r cwrs dynodedig yn gwrs HCA ôl-radd hyblyg.

(5Nid yw myfyriwr sy'n parhau yn cymhwyso i gael grant at ffioedd o ran unrhyw flwyddyn academaidd o'r cwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008 pan ddyfarnodd Gweinidogion Cymru yn ystod y cyfnod o asesu cais am gymorth o ran blwyddyn academaidd o'r cwrs dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006 yn unol â rheoliadau a wnaed ganddynt o dan adran 22 o'r Ddeddf nad oedd y myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth ffi o ran y cwrs dynodedig.