Grantiau ar gyfer dibynyddion — grant dibynyddion mewn oed
26.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas â un dibynnydd i fyfyriwr cymwys sydd naill ai —
(a)yn bartner i'r myfyriwr cymwys; neu
(b)yn ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr cymwys nad yw ei incwm net yn fwy na £3,705.
(3) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 29, a'r swm sylfaenol yw —
(a)£2,580; neu
(b)os yw'r person y mae'r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,580 sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.