Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Grantiau ar gyfer dibynyddion — grant gofal plant

27.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys, mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, hawl i gael grant gofal plant yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae'r grant gofal plant ar cael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn tynnu costau gofal plant rhagnodedig ynddi a hynny ar gyfer —

(a)plentyn dibynnol sydd o dan 15 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd; neu

(b)plentyn dibynnol sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(1) a'i fod o dan 17 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r myfyriwr neu bartner y myfyriwr wedi dewis cael yr elfen gofal plant o'r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(2).

(4Nid yw myfyriwr cymwys yn gymwys i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r costau gofal plant rhagnodedig y mae'n eu tynnu'n cael eu talu neu os ydynt i'w talu gan y myfyriwr i'w bartner.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw —

(a)ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o gostau gofal plant rhagnodedig, hyd at uchafswm o £157.25 yr wythnos; neu

(b)ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o gostau gofal plant rhagnodedig, hyd at uchafswm o £267.75 yr wythnos;

ac eithrio nad oes gan y myfyriwr hawl i gael unrhyw grant o'r fath mewn perthynas â phob wythnos sy'n syrthio o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw'r cwrs i ben ynddi.

(6Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant gofal plant —

(a)mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a

(b)os yw wythnos y caiff costau gofal plant rhagnodedig eu tynnu mewn perthynas â hi yn syrthio'n rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan iddi, mae uchafswm wythnosol y grant yn cael ei gyfrifo drwy luosi'r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (4) â nifer o ddyddiau yn yr wythnos honno sy'n syrthio o fewn y flwyddyn academaidd a rhannu'r canlyniad â saith.

(7Yn y rheoliad hwn, ystyr “costau gofal plant rhagnodedig” (“prescribed childcare charges”) yw costau gofal plant o ddisgrifiad a ragnodir at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002(3).

(1)

1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 23, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140, Atodlen 30, paragraff 71 ac Atodlen 31 a Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraff 56 a Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), Atodlen 1, paragraff 3.

(2)

2002 (p.21) y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(3)

Mae Rheoliad 14 o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth ac Uchafsymiau) 2002 (O.S. 2002/2005, fel y'i diwygir gan O.S.2003/701, O.S 2003/2815, O.S. 2004/762, O.S. 2004/1276, O.S 2004/2663, O.S. 2005/769, O.S 2005/2919, O.S 2006/766, O.S 2007/824 ac O.S 2007/2479) yn nodi'r costau a ragnodir, ac felly gostau gofal plant rhagnodedig, at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources