Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), dirymir Rheoliadau 2007 ar 1 Medi 2008.

(2Mae Rheoliadau 2003 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2004.

(3Mae Rheoliadau 2004 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn 1 Medi 2005.

(4Mae Rheoliadau 2005 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.

(5Mae Rheoliadau 2006 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

(6Mae paragraff (5) o reoliad 3 o Reoliadau 2007 yn parhau i fod yn gymwys.

(7Mae Rheoliadau 2007 yn parhau i fod yn gymwys yn y ddarpariaeth o gymorth i fyfyrwyr o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007 ond cyn 1 Medi 2008.

(8At ddibenion paragraffau (2) i (4), mae unrhyw gyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol o ran unrhyw swyddogaeth a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, i'w ddarllen o ran Cymru fel cyfeiriad at —

(a)Gweinidogion Cymru, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(1) o'r Ddeddf; neu

(b)Gweinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(2) o'r Ddeddf.

(9Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008 p'un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2008.

(10Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn —

(a)os yw person yn bresennol ar gwrs y rhoddwyd dyfarniad trosiannol iddo mewn perthynas ag ef; neu

(b)os na roddwyd dyfarniad o dan Ddeddf 1962 mewn perthynas â'r cwrs ond y byddai dyfarniad trosiannol wedi'i roi i'r person pe bai wedi gwneud cais am ddyfarniad o dan Ddeddf 1962 a phe na bai ei adnoddau wedi bod yn fwy na'i anghenion,

mae'r person yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhannau 4 a 5 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs dilynol y byddai'r dyfarniad (a roddwyd neu a fyddai wedi'i roi o dan Ddeddf 1962) wedi'i drosglwyddo iddo pe bai dyfarniadau trosiannol yn darparu ar gyfer taliadau ar ôl blwyddyn gyntaf cwrs, ond oni bai bod paragraff (11) yn gymwys mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf benthyciad o dan Ran 6 dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau'r hawl i gael cymorth o dan y Rhan honno.

(11Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, os cafodd unrhyw berson neu os oedd unrhyw berson yn gymwys i gael benthyciad o ran blwyddyn academaidd cwrs o dan Reoliadau 1998 mae'n fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhan 6 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu unrhyw gwrs dynodedig dilynol y mae'n ei ddechrau (gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser) yn union ar ôl gorffen y cwrs hwnnw, ond onid yw paragraff (10) yn gymwys bydd yn cymhwyso ar gyfer cymorth at ffioedd o dan Rhan 4 a cymorth drwy grantiau at gostau byw o dan Rhan 5 os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni'r amodau cymhwysol i gael cymorth o dan Rannau 4 a 5.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources