xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), dirymir Rheoliadau 2007 ar 1 Medi 2008.
(2) Mae Rheoliadau 2003 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2004.
(3) Mae Rheoliadau 2004 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn 1 Medi 2005.
(4) Mae Rheoliadau 2005 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.
(5) Mae Rheoliadau 2006 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.
(6) Mae paragraff (5) o reoliad 3 o Reoliadau 2007 yn parhau i fod yn gymwys.
(7) Mae Rheoliadau 2007 yn parhau i fod yn gymwys yn y ddarpariaeth o gymorth i fyfyrwyr o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007 ond cyn 1 Medi 2008.
(8) At ddibenion paragraffau (2) i (4), mae unrhyw gyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol o ran unrhyw swyddogaeth a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, i'w ddarllen o ran Cymru fel cyfeiriad at —
(a)Gweinidogion Cymru, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(1) o'r Ddeddf; neu
(b)Gweinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(2) o'r Ddeddf.
(9) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008 p'un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2008.
(10) Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn —
(a)os yw person yn bresennol ar gwrs y rhoddwyd dyfarniad trosiannol iddo mewn perthynas ag ef; neu
(b)os na roddwyd dyfarniad o dan Ddeddf 1962 mewn perthynas â'r cwrs ond y byddai dyfarniad trosiannol wedi'i roi i'r person pe bai wedi gwneud cais am ddyfarniad o dan Ddeddf 1962 a phe na bai ei adnoddau wedi bod yn fwy na'i anghenion,
mae'r person yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhannau 4 a 5 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs dilynol y byddai'r dyfarniad (a roddwyd neu a fyddai wedi'i roi o dan Ddeddf 1962) wedi'i drosglwyddo iddo pe bai dyfarniadau trosiannol yn darparu ar gyfer taliadau ar ôl blwyddyn gyntaf cwrs, ond oni bai bod paragraff (11) yn gymwys mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf benthyciad o dan Ran 6 dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau'r hawl i gael cymorth o dan y Rhan honno.
(11) Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, os cafodd unrhyw berson neu os oedd unrhyw berson yn gymwys i gael benthyciad o ran blwyddyn academaidd cwrs o dan Reoliadau 1998 mae'n fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhan 6 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu unrhyw gwrs dynodedig dilynol y mae'n ei ddechrau (gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser) yn union ar ôl gorffen y cwrs hwnnw, ond onid yw paragraff (10) yn gymwys bydd yn cymhwyso ar gyfer cymorth at ffioedd o dan Rhan 4 a cymorth drwy grantiau at gostau byw o dan Rhan 5 os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni'r amodau cymhwysol i gael cymorth o dan Rannau 4 a 5.