xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
32.—(1) Mae swm y grant sy'n daladwy o dan reoliad 31(1) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn hafal i'r gwariant rhesymol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys ei dynnu at y dibenion a nodir yn y rheoliad hwnnw llai £295.
(2) Cyfrifir swm y grant sy'n daladwy o dan reoliad 31(2) mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—
lle—
X yw cyfanswm y costau teithio rhesymol y mae'n orfodol i'r myfyriwr cymwys eu tynnu ym mhob chwarter cymhwysol at y dibenion a nodir yn rheoliad 31.
Y yw cyfanswm y gwariant a dynnwyd ym mhob chwarter cymhwysol a bennir ym mharagraff (3).
(3) Y gwariant a bennir ym mharagraff (2) yw—
(a)gwariant y mae'r myfyriwr cymwys yn rhesymol yn ei dynnu wrth yswirio rhag atebolrwydd am gost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i'r Deyrnas Unedig am unrhyw salwch neu anaf personol y mae'n ei ddal neu'n ei ddioddef yn ystod y cyfnod y mae'n bresennol yn y sefydliad tramor neu yn yr Athrofa;
(b)cost fisa neu fisâu y mae'n orfodol i'r myfyriwr cymwys eu cael er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad tramor neu'r Athrofa; ac
(c)costau meddygol y mae'r myfyriwr cymwys yn rhesymol yn eu tynnu er mwyn cyflawni amod gorfodol i fynd i'r diriogaeth, y wlad neu'r wladwriaeth lle y mae'r sefydliad tramor neu'r Athrofa.