RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW

Grant cynhaliaeth36

1

Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cynhaliaeth mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.

2

Nid oes gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cynhaliaeth os oes ganddo hawl i gael grant cymorth arbennig.

3

Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw —

a

yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,415;

b

yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,835; ac

c

yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,835.

4

Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

a

os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £1,415;

b

os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,850, mae'n cael swm sy'n hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,415 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

c

os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,850, mae'n cael £625.

5

Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

a

os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £2,835;

b

os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,850, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £2,835 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

c

os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,850, mae'n cael £1,255.

6

Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

a

os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £2,835;

b

os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,850, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £2,835 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

c

os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,850 ond heb fod yn fwy na £39,300, mae'n cael swm sy'n hafal i RM−A, pan fo RM yn £1,255 ac A yn £1 am bob £9.50 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,850;

ch

os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,300 nid oes grant cynhaliaeth yn daladwy.