- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
38.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r myfyriwr yn bodloni'r amod ym mharagraff (2) ac nad yw'n cael ei hepgor gan baragraff (3) neu reoliad 7.
(2) Yr amod yw bod y myfyriwr cymwys o dan 60 oed ar y dyddiad perthnasol.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.
(4) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r cwrs hwnnw'n gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n para am lai nag un flwyddyn academaidd.
(5) Mae myfyriwr cymwys o dan yr hen system sy'n dod o fewn paragraff (a) neu (ch)(i) o'r diffiniad o “myfyriwr cymwys o dan yr hen system” yn rheoliad 2 yn gymwys i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â mynychu cwrs dynodedig os yw'n bodloni'r amod ym mharagraff (2) ac nad yw wedi'i wahardd gan baragraff (3).
(6) Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion cymhwyso ar gyfer benthyciad at gostau byw.
(7) Mae paragraff (7) yn gymwys ar gyfer—
(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
(b)myfyriwr anabl—
(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.
(8) Er mwyn cael benthyciad at gostau byw, rhaid i fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn ymrwymo mewn contract â Gweinidogion Cymru o dan delerau sydd i'w penderfynu gan Weinidogion Cymru.
(9) Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael benthyciad at gostau byw dan y Rhan hon o ran blwyddyn academaidd y bydd yn ystod unrhyw ran ohoni yn garcharor.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: