xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
41.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr math 1 neu i fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ei gyfraniad yn uwch na dim.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd heblaw blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam yw —
(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,580;
(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, £6,480;
(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, £5,515;
(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, £5,515;
(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,625.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs heblaw blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys yw —
(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,240;
(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, £5,900;
(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, £4,795;
(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, £4,795;
(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,285.