xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
42.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs heblaw blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys yw —
(a)os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(a) —
(i)i fyfyriwr yng nghategori 1, £1,700;
(ii)i fyfyriwr yng nghategori 2, £3,185;
(iii)i fyfyriwr yng nghategori 3, £2,265;
(iv)i fyfyriwr yng nghategori 4, £2,265;
(v)i fyfyriwr yng nghategori 5, £2,265;
(b)os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(c) neu 23(5) —
(i)i fyfyriwr yng nghategori 1, £1,700;
(ii)i fyfyriwr yng nghategori 2, £3,185;
(iii)i fyfyriwr yng nghategori 3, £2,710;
(iv)i fyfyriwr yng nghategori 4, £2,710;
(v)i fyfyriwr yng nghategori 5, £2,265;
(c)os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd swm hafal i
X - Y
pan fo—
X—
i fyfyriwr yng nghategori 1, yn £2,685;
i fyfyriwr yng nghategori 2, yn £4,860;
i fyfyriwr yng nghategori 3, yn £4,135;
i fyfyriwr yng nghategori 4, yn £4,135;
i fyfyriwr yng nghategori 5, yn £3,470;
Y yw'r swm a bennir ym mharagraff (ch).
(ch)y swm penodedig yw —
(i)£625 os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan yw'n gwneud cais am grant cynhaliaeth ac sy'n gymwys i gael grant cynhaliaeth o £625;
(ii)£1,255 os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan yw'n gwneud cais am grant cynhaliaeth ac sy'n gymwys i gael grant cynhaliaeth o £1,255;
(iii)dim pan nad yw'r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyffordd neu pan nad yw'n fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys yw —
(a)os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(a) —
(i)i fyfyriwr yng nghategori 1, £1,290;
(ii)i fyfyriwr yng nghategori 2, £2,435;
(iii)i fyfyriwr yng nghategori 3, £1,765;
(iv)i fyfyriwr yng nghategori 4, £1,765;
(v)i fyfyriwr yng nghategori 5, £1,765;
(b)os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(b) neu 23(5) —
(i)i fyfyriwr yng nghategori 1, £1,290;
(ii)i fyfyriwr yng nghategori 2, £2,435;
(iii)i fyfyriwr yng nghategori 3, £1,980;
(iv)i fyfyriwr yng nghategori 3, £1,980;
(v)i fyfyriwr yng nghategori 3, £1,765;
(c)os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd swm hafal i
X - Y
pan fo—
X—
i fyfyriwr yng nghategori 1, yn £2,430;
i fyfyriwr yng nghategori 2, yn £4,425;
i fyfyriwr yng nghategori 3, yn £3,595;
i fyfyriwr yng nghategori 4, yn £3,595;
i fyfyriwr yng nghategori 5, yn £3,215;
Y yw'r swm a bennir ym mharagraff (ch).
(ch)y swm penodedig yw—
(i)£625 os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan yw'n gwneud cais am grant cynhaliaeth ac sy'n gymwys i gael grant cynhaliaeth o £625;
(ii)£1,255 os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan yw'n gwneud cais am grant cynhaliaeth ac sy'n gymwys i gael grant cynhaliaeth o £1,255;
(iii)dim pan nad yw'r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi neu pan nad yw'n fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.