48.—(1) Caniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn neu fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn yn unol â rheoliad 54.
(2) Ni chaniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng o dan reoliad 54.