Trosglwyddo statws
73.—(1) Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i'r cwrs hwnnw pan—
(a)derbyniant gais i wneud hynny oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys;
(b)ydynt wedi'u bodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac
(c)nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.
(2) Y seiliau trosglwyddo yw—
(a)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig arall yn y sefydliad;
(b)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn sefydliad arall; neu
(c)ar ôl iddo ddechrau cwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd myfyriwr dysgu o bell cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo, weddill y cymorth y penderfynodd Gweinidogion Cymru bod ganddo hawl iddo mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sydd yn daladwy ar ôl y trosglwyddo.
(5) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan reoliad 66(1)(b) neu reoliad 69 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.
(6) Pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 66(1)(a) mewn perthynas â'r blynyddoedd academaidd y mae'n trosglwyddo iddynt ac ohonynt yw swm y cymorth sydd ar gael mewn cysylltiad â'r cwrs sydd â'r ffioedd uchaf gwirioneddol fel y'u diffinnir yn rheoliad 66.