RHAN 11CYMORTH I GYRSIAU DYSGU O BELL AMSER-LLAWN

Trosi statws — myfyrwyr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dynodedig

75.—(1Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr cymwys i wneud hynny; a

(b)pan nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(2Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl i'r myfyriwr mewn rhandaliadau rheolaidd ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys;

(b)bydd unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hawl iddo o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y trosglwydda'r myfyriwr ynddi yn cael ei anwybyddu wrth benderfynu swm y cymorth y gall bod ganddo hawl iddo am y flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;

(c)mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Ran 5 neu 6 y byddai'r myfyriwr, ar wahân i'r rheoliad hwn, â hawl iddo mewn cysylltiad â chwrs dynodedig o fewn y flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean pan ddaeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno, ac o ddau draean os daeth yn gyfryw fyfyriwr mewn chwarter diweddarach o'r flwyddyn honno;

(ch)pan fo swm grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i'r myfyriwr mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy'n daladwy iddo o dan Ran 5 i'r diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a dalwyd iddo i'r diben hwnnw, a phan fo'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol bydd y swm hwnnw yn ddim.