Ceisiadau am gymorth
84.—(1) Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs rhan-amser dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf y bydd Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol.
(2) Rhaid i'r canlynol fynd gyda'r cais—
(a)datganiad o dan reoliad 86(2) i (6) wedi ei lenwi gan yr awdurdod academaidd; a
(b)y dogfennau ychwanegol hynny y gall Gweinidogion Cymru eu gwneud yn ofynnol.
(3) Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n cael ei gyflwyno mewn perthynas ag ef.
(4) Nid yw'r rheol gyffredinol yn gymwys—
(a)os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad (79)(3) yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth ynglŷn â hi, ac yn yr achos hwn rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y dyddiad pan fo'r digwyddiad yn digwydd.
(b)os yw'r ceisydd yn gwneud cais am grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol; neu
(c)os yw Gweinidogion Cymru o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddynt.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, a oes ganddo hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes swm yn daladwy o gwbl.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd a oes ganddo hawl i gael cymorth neu beidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl.