Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008

Trosglwyddo statws

87.—(1Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys i'r cwrs hwnnw—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny;

(b)os ydynt wedi'u bodloni bod un neu fwy o'r seiliau dros drosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(2Y seiliau dros drosglwyddo yw —

(a)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig arall yn y sefydliad;

(b)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(c)ar ôl cychwyn cwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr rhan-amser cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae hawl gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau, am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â'r Rhan hon.

(5Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno wneud cais am grant arall o dan reoliad 82(1)(b) neu reoliad 83 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.

(6Os yw myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 82(1)(a) mewn perthynas â'r blynyddoedd academaidd y mae'n trosglwyddo iddynt neu oddi wrthynt yw swm y cymorth at ffioedd sydd ar gael mewn cysylltiad â'r cwrs mwyaf dwys o ran ei astudio fel y diffinnir yn rheoliad 82.