Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Trosi statws

88.—(1Os yw myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(2Os yw'r myfyriwr, cyn cwblhau'r cwrs dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc neu bynciau sy'n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai'n bodloni rheoliad 80(1)(b) ac (c) os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr yn para am flwyddyn academaidd o leiaf ac nad yw'n fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau gweddill y cwrs dynodedig y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho.

(3Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant i'r myfyriwr o dan reoliad 24 mewn rhandaliadau rheolaidd, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys;

(b)uchafswm y grant y byddai gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 83 mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno;

(c)os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi'i dalu i'r myfyriwr o dan reoliad 24 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo yn unol â rheoliad 83 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 24, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; ac

(ch)os oedd y myfyriwr, yn union cyn dod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais, am fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu'r uchafswm wedi'i gynyddu yr oedd ganddo hawlogaeth i'w gael, caiff wneud cais am y benthyciad hwnnw neu unrhyw swm ychwanegol o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (4) mae uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm wedi'i gynyddu y benthyciad hwnnw am y flwyddyn academaidd yn cael ei ostwng yn unol â'r paragraff hwnnw.

(4Os yw'r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hi, mae uchafswm y benthyciad neu uchafswm wedi'i gynyddu y benthyciad (yn ôl fel y digwydd) yn cael ei ostwng o ddau draean, ac os yw'r cais yn cael ei wneud yn ail chwarter y flwyddyn honno mae'r swm hwnnw'n cael ei ostwng o un traean.

(5Os yw myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(6Os yw'r myfyriwr, cyn cwblhau'r cwrs dysgu o bell dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc neu bynciau sy'n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai'n bodloni rheoliad 80(1)(b) ac (c) os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr yn para am flwyddyn academaidd o leiaf ac nad yw'n fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau gweddill y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mae hawl gan fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (5) mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo weddill y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael o dan Ran 11 mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(8Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad.

(9O ran myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (5) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno—

(a)ni chaiff wneud cais am grant o dan reoliad 82(1)(b) os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 66(1)(b);

(b)ni chaiff wneud cais am grant o dan reoliad 83 os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 24.

(10Os bydd myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (5), rhaid i gyfanswm y cymorth a delir i'r myfyriwr o dan reoliadau 66(1)(a) ac 82(1)(a) o ran —

(a)y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo oddi wrthi; a

(b)y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi;

beidio â bod yn uwch na swm y cymorth a benderfynir sy'n daladwy gan y myfyriwr o dan reoliad 66(1)(a).

(11Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(12Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (11)—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant i'r myfyriwr yn unol â rheoliad 83 mewn rhandaliadau rheolaidd, ni chaniateir talu mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys;

(b)caiff unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo ei anwybyddu wrth bennu swm y cymorth y gall fod ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;

(c)uchafswm unrhyw gymorth o dan Rannau 5 neu 6 y byddai gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, mewn cysylltiad â chwrs dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr cymwys mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno; ac

(ch)os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi'i dalu i'r myfyriwr yn unol â rheoliad 83 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo o dan reoliad 24 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 83 ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.

(13Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(14Yn ddarostyngedig i baragraff (15), mae gan fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (13) hawl i gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo gweddill y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael o dan y Rhan hon o ran blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser dynodedig y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(15Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad.

(16O ran myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (13) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dysgu o bell y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno—

(a)ni chaiff wneud cais am grant o dan reoliad 66(1)(b) os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 82(1)(b);

(b)ni chaiff wneud cais am grant o dan reoliad 83 os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 24.

(17Os bydd myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (13), rhaid i gyfanswm y cymorth a delir i'r myfyriwr o dan reoliadau 66(1)(a) a 82(1)(a) o ran—

(a)y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo oddi wrthi; a

(b)y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi;

beidio â bod yn uwch na uchafswm y cymorth a benderfynir sy'n daladwy gan y myfyriwr o dan reoliad 66(1)(a).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources