Personau â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o'u teuluoedd
5.—(1) Person—
(a)â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(c)sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy'n briod neu'n bartner sifil i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b)oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw ei gais am loches;
(c)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch)sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)sy'n blentyn i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy'n blentyn i briod neu i bartner sifil person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b)oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;
(c)oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches;
(ch)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.