ATODLEN 5ASESIAD ARIANNOL

Rhannu cyfraniadau — myfyrwyr cymwys annibynnol

11.—(1Os oes cyfraniad yn daladwy o dan baragraff 8 neu 9 mewn perthynas â myfyriwr cymwys annibynnol sydd â phartner, mae'r cyfraniad yn daladwy yn unol â'r is-baragraffau canlynol—

(a)am unrhyw flwyddyn y mae dyfarniad statudol heblaw dyfarniad y cyfeirir ato ym mharagraff (b) o'r is-baragraff hwn gan bartner y myfyriwr cymwys annibynnol, y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys annibynnol yw'r gyfran honno o unrhyw gyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 y mae Gweinidogion Cymru ar ôl ymgynghori ag unrhyw awdurdod arall sy'n ymwneud â'r mater o'r farn ei fod yn gyfiawn;

(b)yn ddarostyngedig i'r is-baragraffau canlynol, am unrhyw flwyddyn y delir y dyfarniad sydd yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn, Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003 neu adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 (a dim unrhyw ddyfarniad statudol arall) gan bartner y myfyriwr cymwys annibynnol, mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys annibynnol yn swm sy'n hafal i hanner y cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9;

(c)pe na bai'r cyfraniad a gyfrifir, o ganlyniad i'r dosraniad o dan baragraff (b) o'r is-baragraff hwn, yn cael ei ddileu drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr cymwys annibynnol, mae gweddill y cyfraniad yn cael ei gymhwyso yn hytrach at ddyfarniad statudol perthnasol ei bartner os ydynt ill dau yn fyfyrwyr o dan yr hen drefn neu os ydynt ill dau yn fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), er mwyn cyfrifo'r cyfraniad at ei ddyfarniad statudol, ychwanegir at incwm gweddilliol myfyriwr sy'n rhiant unrhyw swm sy'n weddill —

(a)os yw'r myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i un myfyriwr cymwys yn unig a bod y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw yn fwy na'r dyfarniad statudol mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw, y gwahaniaeth rhwng y cyfraniad hwnnw a'r dyfarniad statudol hwnnw; neu

(b)os yw myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i fwy nag un myfyriwr cymwys, unrhyw swm sy'n weddill ar ôl dosrannu'r cyfraniad i'w blant o dan yr Atodlen hon.

(3Os oes gan fyfyriwr sy'n rhiant bartner sydd hefyd yn fyfyriwr cymwys y cymerir ei incwm i ystyriaeth wrth asesu'r cyfraniad mewn perthynas â'r plant yn is-baragraff (2), ychwanegir hanner y swm a gyfrifir o dan is-baragraff (2) at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant.