Search Legislation

Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) (Diwygio) 2008

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 137 (Cy.19)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

22 Ionawr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

24 Ionawr 2008

Yn dod i rym

22 Chwefror 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2),cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) (Diwygio) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 22 Chwefror 2008.

Diwygio Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003

2.  Diwygir Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003(3) yn unol â rheoliadau 3 a 4.

3.  Yn rheoliad 2 (dehongli), hepgorer y geiriau “yn uniongyrchol” o'r diffiniadau o “llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol” a “llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr”.

4.  Yn y Nodiadau i Atodlen 1 (cynhyrchion llaeth sydd wedi'u dadhydradu a'u preserfio yn rhannol neu'n llwyr a'u disgrifiadau neilltuedig) —

(a)Yn lle Nodyn 1, rhodder y canlynol—

1.  Ychwanegiadau a awdurdodir a deunyddiau crai:

(a)Caiff unrhyw gynnyrch dynodedig gynnwys unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau Aelod-wladwriaethau ynghylch ychwanegion bwyd yr awdurdodir eu defnyddio mewn bwydydd y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl(4) a fitaminau a mwynau yn unol â gofynion Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau eraill penodol at fwydydd(5).

(b)Dyma'r deunyddiau crai a awdurdodir at ddibenion addasu protein y cyfeirir ato yn Nodyn 4:

(i)Anathreiddiad llaeth, sef y cynnyrch a geir wrth grynodi protein llaeth drwy drahidlo llaeth, llaeth rhannol sgim neu laeth llwyr sgim;

(ii)Athreiddiad llaeth, sef y cynnyrch a geir drwy dynnu proteinau llaeth a braster llaeth allan o laeth, llaeth rhannol sgim neu laeth llwyr sgim drwy ei drahidlo; a

(iii)Lactos, sydd yn ansoddyn naturiol mewn llaeth a geir fel arfer o faidd â'i gynnwys lactos anhydrus nad yw'n llai na 99.0% m/m ar sail sych. Gall fod yn anhydrus neu gynnwys un moleciwl o ddwr o grisialiad neu fod yn gymysgedd o'r ddwy ffurf..

(b)Yn Nodyn 3, yn lle'r indent cyntaf rhodder y canlynol —

3.  Heb ragfarn i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(6), llwyddir i breserfio'r cynnyrch dynodedig—.

(c)Yn lle Nodyn 4, rhodder y canlynol—

4.  Heb ragfarnu'r gofynion cyfansoddiadol a osodir yn y tabl uchod, caniateir addasu cynnwys y protein mewn llaeth i gynnwys isafswm o 34% yn ôl pwysau (wedi'i fynegi ar fater sych sy'n rhydd o fraster) drwy ychwanegu a/neu dynnu ansoddau llaeth yn y fath fodd fel na newidir y gymhareb o brotein maidd i'r casein yn y llaeth sy'n cael ei addasu..

(ch)Fel Nodyn 5 ychwaneger y canlynol —

5.  Penderfynir y lefelau o fater sych, cynnwys lleithder, braster, swcros, asid lactig a lactadau a gweithgaredd ffosffatas yn y cynnyrch dynodedig yn unol â'r dulliau a osodir yng Nghyfarwyddeb 79/1067..

Diwygiadau canlyniadol

5.  Yn Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(7), i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, ym mharagraff 6 o Atodlen 2, ar ôl yr ymadrodd “Directive 2001/114/EC” ychwaneger y geiriau “as amended by Directive 2007/61/EC(8)”.

6.  Yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(9), i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, yng ngholofn 1 o Atodlen 7, ar ôl yr ymadrodd “Partially dehydrated and totally dehydrated milk as defined in Directive 2001/114/EC” ychwaneger y geiriau “as amended by Directive 2007/61/EC(10)”.

Gwenda Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

22 Ionawr 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3053, Cy.291) (“Rheoliadau 2003”). Maent yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2007/61/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2001/114/EC ynghylch llaeth penodol wedi'i breserfio a'i ddadhydradu yn llwyr neu'n rhannol i'w fwyta neu i'w yfed gan bobl (OJ Rhif L258, 4.10.2007, t.27).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniadau o laeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol a llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr yn Rheoliadau 2003 (rheoliad 3).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau penodol i'r Nodiadau i Atodlen 1 o Reoliadau 2003, ac yn benodol maent yn diwygio Nodyn 1 a 3, yn cyflwyno Nodyn 4 newydd ac yn ailrifo'r Nodyn 4 blaenorol yn Nodyn 5 (rheoliad 4).

4.  Mae'r Rheoliadau'n gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3124) (rheoliad 5) ac i Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(O.S. 1995/3187) (rheoliad 6).

5.  Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Trosglwyddwyd swyddogaethau i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).

(4)

OJ Rhif L40, 11.2.1989, t.27. Diwgiwyd y Gyfarwyddeb hon ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1).

(5)

OJ Rhif L404, 30.12.2006, t.26.

(6)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Nodwyd y fersiwn a gywirwyd mewn corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22). Diwygiwyd y Rheoliad ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 (OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.1).

(8)

OJ Rhif L258, 4.10.2007, t.27.

(10)

OJ Rhif L258, 4.10.2007, t.27.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources