Search Legislation

GORCHYMYN DEDDF GOFAL PLANT 2006 (CYCHWYN RHIF 1) (CYMRU) 2008

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 17 (Cy.6) (C.1)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

GORCHYMYN DEDDF GOFAL PLANT 2006 (CYCHWYN RHIF 1) (CYMRU) 2008

Wedi'i wneud

8 Ionawr 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 109(2) o Ddeddf Gofal Plant 2006(1), ac a freiniwyd ynddynt hwy bellach(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gofal Plant 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2008.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gofal Plant 2006.

Cychwyn

2.  Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn dod i rym ar 31 Ionawr 2008:—

(a)Adrannau 22 i 29, mewn perthynas â swyddogaethau cyffredinol Awdurdodau Lleol yng Nghymru;

(b)Adran 30 (dehongli Rhan 2);

(c)Adran 101 (darparu gwybodaeth am blant: Cymru);

(ch)Adran 102 (datgymhwysiad ar gyfer cofrestru o dan Ddeddf Plant 1989).

3.  Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2008:—

(a)Adran 103(1) i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau paragraff 28 o Atodlen 2 y nodir yn Erthygl 3(b) isod;

(b)Paragraff 28 o Atodlen 2.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

8 Ionawr 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Hwn yw'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf a wneir o dan Ddeddf Gofal Plant 2006 o ran Cymru.

Mae Erthygl 2 yn nodi darpariaethau Deddf Gofal Plant 2006 sy'n dod i rym ar 31 Ionawr 2008. Mae Erthygl 3 yn nodi darpariaethau Deddf Gofal Plant 2006 sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2008 i'r graddau a bennir ym mhob paragraff.

Mae Erthygl 2(a) yn dwyn i rym adrannau 22 i 29 (swyddogaethau cyffredinol awdurdodau lleol yng Nghymru). Mae Erthygl 2(b) yn dwyn i rym adran 30 (dehongli Rhan 2). Mae Erthygl 2(c) yn dwyn i rym adran 101 (darparu gwybodaeth am blant yng Nghymru). Mae Erthygl 2(ch) yn dwyn i rym adran 102 (datgymhwysiad ar gyfer cofrestru o dan Ddeddf Plant 1989), mewn perthynas â Chymru.

Mae Erthygl 3(a) yn dwyn i rym adran 103(1) o Ddeddf Gofal Plant 2006, (i'r graddau y mae'n berthnasol i baragraff 28 o Atodlen 2 o Ddeddf Gofal Plant 2006). Mae Erthygl 3(b) yn dwyn i rym paragraff 28 o Atodlen 2 o Ddeddf Gofal Plant 2006.

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources