Search Legislation

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2437 (Cy.210)

IECHYD MEDDWL, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl) (Cymru) 2008

Gwnaed

15 Medi 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Medi 2008

Yn dod i rym

3 Tachwedd 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 130A o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(1) a chan adrannau 12 a 204 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(2).

Enwi, cychwyn a rhychwant

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 3 Tachwedd 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cleifion cymwys” (“qualifying patients”) yw'r personau hynny sy'n gymwys i gael cymorth gan EAIM o dan adrannau 130C(2), (3) a (4) o'r Ddeddf;

  • ystyr “darparydd gwasanaethau eirioli” (“provider of advocacy services”) yw corff neu berson, gan gynnwys corff gwirfoddol, sy'n cyflogi personau y gellir peri eu bod ar gael i weithredu fel EAIM;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983; ac

  • ystyr “EAIM” (“IMCA”) yw eiriolwr annibynnol iechyd meddwl.

Trefniadau ar gyfer eiriolwyr annibynnol iechyd meddwl

3.—(1Yn ddarostyngedig i gyfarwyddiadau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi, bydd Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud trefniadau y mae'n ystyried eu bod yn rhesymol er mwyn galluogi EAIMau i fod ar gael i weithredu mewn cysylltiad â chlaf cymwys sydd—

(a)yn agored i gael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty neu mewn sefydliad cofrestredig sydd yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol;

(b)yn ddarostyngedig i warcheidiaeth o dan y Ddeddf neu sy'n glaf cymunedol ac sydd fel arfer yn preswylio yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer;

(c)yn gymwys o dan adran 130C(3) o'r Ddeddf ac sydd fel arfer yn preswylio yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer.

(2Wrth wneud trefniadau o dan baragraff (1) caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud trefniadau gyda darparydd gwasanaethau eirioli.

(3Ni chaiff unrhyw berson weithredu fel EAIM onid yw'r person hwnnw wedi cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu onid yw wedi cael ei gyflogi gan ddarparydd gwasanaethau eirioli i weithredu fel EAIM.

(4Cyn cymeradwyo unrhyw berson o dan baragraff (3) rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol gael ei fodloni bod y person yn bodloni'r gofynion penodi yn rheoliad 4.

(5Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol sicrhau ei bod yn ofynnol i unrhyw ddarparydd gwasanaethau eirioli y mae'r Bwrdd yn gwneud trefniant ag ef o dan baragraff (2), yn unol â thelerau'r trefniant hwnnw, sicrhau bod unrhyw berson—

(a)a gyflogir gan y darparydd gwasanaethau eirioli hwnnw, a

(b)y perir ei fod ar gael i weithredu fel EAIM,

yn bodloni'r gofynion penodi yn rheoliad 4.

(6At ddibenion rheoliad 2(2) o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003(3) nid yw Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am wneud trefniadau'n unol â pharagraff (1) mewn perthynas â chlaf cymwys os yw'r claf cymwys hwnnw—

(a)fel arfer yn preswylio yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer; a

(b)yn agored i gael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty neu mewn sefydliad cofrestredig nad yw yn yr un ardal y mae ef fel arfer yn preswylio ynddi

Gofynion penodi ar gyfer eiriolwyr annibynnol iechyd meddwl

4.—(1Y gofynion penodi yn rheoliad 3(4) a (5) yw–

(a)bod gan y person brofiad neu hyfforddiant priodol neu gyfuniad priodol o brofiad a hyfforddiant;

(b)bod y person yn meddu ar uniondeb a chymeriad da; ac

(c)y bydd y person yn gweithredu'n annibynnol ar unrhyw berson

(i)sy'n gofyn i'r person hwnnw ymweld neu gyf-weld â'r claf cymwys;

(ii)sy'n ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol y claf cymwys.

(2Wrth benderfynu a yw person yn bodloni'r gofyniad penodi ym mharagraff (1)(a) rhoddir ystyriaeth i safonau mewn canllawiau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi o bryd i'w gilydd.

(3At ddibenion paragraff (2) caiff safonau gynnwys unrhyw gymhwyster y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu eu bod yn briodol.

(4Cyn gwneud penderfyniad at ddibenion paragraff (1)(b) mewn perthynas ag unrhyw berson, rhaid cael gafael ar y canlynol mewn cysylltiad â'r person hwnnw—

(a)tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir yn unol ag adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(4); neu

(b)os nad yw'r diben y mae'r dystysgrif yn ofynnol o'i herwydd yn un a ragnodir o dan is-adran (2) o'r adran honno, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir yn unol ag adran 113A o'r Ddeddf honno.

(5At ddibenion adran 130A(5) nid yw person yn ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol y claf cymwys

(a)os yw'n gweithredu, neu wedi gweithredu, fel EAIM i'r claf cymwys yn unol ag adran 130B o'r Ddeddf; neu

(b)os yw'n cynrychioli neu'n cynorthwyo, neu wedi cynrychioli neu gynorthwyo, claf cymwys heb fod yn unol ag adran 130B ond nad yw fel arall yn ymwneud â thriniaeth y claf cymwys.

(6Yn y rheoliad hwn mae person yn cael ei gyflogi gan y darparydd gwasanaethau eirioli os yw'r person hwnnw—

(a)yn gyflogedig o dan gontract gwasanaeth; neu

(b)wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract am wasanaethau.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Medi 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau ynghylch y trefniadau ar gyfer penodi Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl (EAIMau). Maent yn cynnwys darpariaeth ynghylch pwy y caniateir ei benodi'n EAIM.

2.  Mae rheoliad 3 yn darparu—

(a)bod yn rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol (BILl) drefnu bod EAIMau ar gael i cleifion sy'n gymwys am help o dan adran 130C o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (“y Ddeddf”). Cleifion cymwys yw'r cleifion hynny sydd

(i)yn agored i gael eu cadw'n gaeth mewn ysbyty (ac eithrio o dan adrannau 4, 5(2)(4), 135 neu 136 o'r Ddeddf);

(ii)yn ddarostyngedig i orchmynion gwarcheidiaeth neu driniaeth gymunedol;

(iii)cleifion anffurfiol sy'n cael eu hystyried am ffurf ar driniaeth sy'n dod o dan adran 57 o'r Ddeddf;

(iv)cleifion anffurfiol nad ydynt wedi cyrraedd eu deunaw mlwydd oed ac sy'n cael eu hystyried am ffurf ar driniaeth o dan adran 58A o'r Ddeddf (rheoliad 3(1));

(b)y caiff BILlau wneud trefniadau gyda darparwyr gwasanaethau eirioli ar gyfer darparu EAIMau (rheoliad 3(2));

(c)bod yn rhaid i unrhyw berson a benodwyd i weithredu fel EAIM fod naill ai wedi'i gymeradwyo gan y BILl neu wedi'i gyflogi gan ddarparydd gwasanaethau eirioli (rheoliad 3(3));

(ch)bod yn rhaid i BILl, cyn cymeradwyo EAIM, gael ei fodloni ei fod yn cwrdd â gofynion y penodiad (rheoliad 3(4));

(d)y dylai fod yn ofynnol i ddarparydd gwasanaethau eirioli sicrhau bod unrhyw EAIMau y gallant eu cyflogi yn bodloni gofynion y penodiad (rheoliad 3(5));

(dd)eglurhad ynghylch pa BILl sy'n gyfrifol am drefnu i EAIM weithredu dros glaf tra bydd yn cael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty.

3.  Mae rheoliad 4 yn nodi'r gofynion penodi y mae'n rhaid i EAIM eu bodloni cyn y caniateir ei benodi.

4.  Ni luniwyd asesiad effaith llawn ar gyfer yr offeryn hwn gan ragwelir y caiff effaith arwyddocaol ar y sector preifat nac ar y sector gwirfoddol.

(1)

1983 (p.20). Mewnosodwyd adran 130A gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 (c. 12).

(4)

1997 p.50. Mewnosodir adrannau 113A i 113D gan adran 163 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.14).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources