Search Legislation

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 253 (Cy.29)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2008

Gwnaed

6 Chwefror 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Chwefror 2008

Yn dod i rym

3 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2008, daw i rym ar 3 Mawrth 2008 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

  • mae i'r ymadrodd “hectar cymwys” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “eligible hectare” yn Erthygl 44(2) o Reoliad y Cyngor 1782/2003;

  • ystyr “mapiau dynodedig (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau wedi'u Rhif o 1 a 2 gyda phob cyfrol wedi'i marcio “Cyfrol o Fapiau ardaloedd ffermio llai ffafriol yng Nghymru” a chyda Rhif y gyfrol dyddiedig 20 Mai 1999 wedi'i llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac wedi'i hadneuo yn Swyddfeydd Adran Amaethyddiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 1782/2003” (“Council Regulation 1782/2003”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac sy'n diwygio Rheoliadau penodol(3);

  • ystyr “taliad Tir Mynydd” (“Tir Mynydd payment”) yw cymorth ariannol a delir yn unol â Rheoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006(4).

  • ystyr “tir cymwys” (“eligible land”) yw'r rhan honno o'r tir cymhwysol sydd o fewn ardal lai ffafriol;

  • ystyr “tir llai ffafriol” (“less favoured area”) yw tir tan anfantais neu tir tan anfantais ddifrifol;

  • ystyr “tir tan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir tan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir a ddangosir â lliw glas ar y mapiau dynodedig.

  • ystyr “tir tan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw'r ardal o dir a ddangosir â lliw pinc ar y mapiau dynodedig;

Asesiadau o gynhwysedd cynhyrchiol tir

2.—(1Mae Paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon erthygl yn cael eu heffaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr paragraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

(2Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwrol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yna

(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o Atodlen 1 gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a

(b)y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2007, fel yr incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir gydag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno.

(3Os yw tir, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net yn gymwys i dderbyn taliad Tir Mynydd (fel a grybwyllir yng nghofnod 4 yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn) neu os oedd wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu yn 2006 (fel a grybwyllir yng nghofnod 5 yn y golofn honno), neu os oedd yn hectar cymwys yn 2006 (fel a grybwyllir yng nghofnod 6 yn y golofn honno), yna—

(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a

(b)y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2007, fel yr incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw.

Dirymu

3.  Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2007(5).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

6 Chwefror 2008

Erthygl 2

YR ATODLENUNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Defnydd FfermioUned gynhyrchuIncwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu (£)

NODIADAU I'R ATODLEN

1.

Y ffigur ar gyfer anifeiliaid y byddid yn eu cadw am 12 mis yw hwn. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata ohono.

2.

Y ffigur ar gyfer anifeiliaid (waeth beth fo'u hoed) y byddid yn eu cadw am 12 mis yw hwn. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata ohono.

3.

Mae'r ffigur hwn yn cynnwys y premiwm cnwd protein y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 76 o Reoliad y Cyngor 1782/2003.

1. Da byw
Buchod godro (ac eithrio bridiau Ynysoedd y Sianel)Buwch416
Buchod bridio cig eidion
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynyddbuwch−53
Ar dir arallbuwch−85
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys)y pen−50(1)
Buchod llaeth i lenwi bylchauy pen75(2)
Mamogiaid:
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynyddmamog−2
Ar dir arallmamog13
Wyn stôr (gan gynnwys wyn benyw a werthir fel hesbinod)y pen3.70
Moch:
Hychod a banwesi torroghwch neu fanwes174
Moch porcy pen4.50
Moch torriy pen6.70
Moch bacwny pen8.90
Dofednod
Ieir dodwyaderyn2.20
Brwyliaidaderyn0.30
Cywennod ar ddodwyaderyn0.45
Tyrcwn Nadoligaderyn5.65
2. Cnydau âr fferm
Haiddhectar104
Ffahectar140.89(3)
Had porfahectar196
Rêp had olewhectar112
Pys
Sychhectar224.89(3)
Dringohectar269
Tatws:
Cynnar cyntafhectar2245
Prif gnwd (gan gynnwys hadyd)hectar1521
Betys siwgrhectar176
Gwenithhectar255
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau
Ffrwythau'r berllanhectar1800
Ffrwythau meddalhectar6500
4. Tir Porthiant
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir MynyddhectarSwm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan reoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006
5. Neilltir
Tir a oedd yn 2006 wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o Reoliad y Cyngor 1782/2003:
Tir tan anfantais ddifrifolhectar−14.75
Tir tan anfantaishectar−9.50
Pob tir arallhectar−105.00
6. Hectarau cymwys
Tir a oedd yn 2006 yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 1782/2003 ac eithrio tir a oedd wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o'r Rheoliad hwnnw:
Tir tan anfantais ddifrifolhectar109.74
Tir tan anfantaishectar127.50
Pob tir arallhectar79.87

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn gosod y swm sydd i gael ei ystyried fel yr incwm blynyddol net o bob uned o'r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2007 i 11 Medi 2008 gan gynnwys y dyddiadau hynny at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”). Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2007.

Mae asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol tir amaethyddol yn ofynnol wrth benderfynu a yw'r tir o dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Uned o dir amaethyddol yw “uned fasnachol o dir amaethyddol” sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanswm enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd amser-llawn sydd yn 20 oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, pryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn berthnasol i'r asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir dan sylw, yr unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd sail yr asesiad hwnnw.

Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 o'r Atodlen yn rhagnodi'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd yn 2006 yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.1), sy'n sefydlu'r Cynllun Taliad Sengl. Mae yna ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir tan anfantais ddifrifol, tir tan anfantais a thir arall. Mae yna hefyd ffigurau ar wahân ar gyfer tir a oedd wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu yn 2006.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044 ac maent bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 552/2007 (OJ Rhif L131, 23.5.2007, t.10).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources