Search Legislation

Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 3101 (Cy.275)

AER GLÅN, CYMRU

Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2008

Gwnaed

3 Rhagfyr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Rhagfyr 2008

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2008

Mae Gweinidogion Cymru, a hwythau wedi eu bodloni y gall y dosbarthau ar leoedd tân sy'n cael eu hesemptio gan y Gorchymyn hwn gael eu defnyddio i losgi tanwydd nad yw'r danwydd awdurdodedig a hynny heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Aer Glân 1993(1) ac sydd bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 31 Rhagfyr 2008.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dosbarthau ar leoedd tân sy'n cael eu hesemptio rhag adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993

2.  Mae'r dosbarthau ar leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen yn cael eu hesemptio, ar yr amodau sy'n cael eu pennu ynddi, rhag darpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sy'n gwahardd gollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg).

Dirymu

3.  Dirymir Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2980 (Cy.271)).

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

3 Rhagfyr 2008

Erthygl 2

YR ATODLENDOSBARTHAU AR LEOEDD TÅN SY'N ESEMPT

Dosbarthau ar Leoedd TânAmodau
Y Binder Wood Fired Boiler, modelau RRK 22 — 49 (allbwn 49kW), a weithgynhyrchir gan Binder Gesellschaft mit beschrankter Haftung (GmbH) Mitterdorfer Strasse 5, A-8572 Barnbach, Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a Wood Energy Limited, sy'n dwyn y teitl Binder Equipment Installation, Commissioning and Maintenance, y dyddiad 17 Mai 2005, a'r cyfeirnod WELBinderManualrev0.doc, revision 0.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed neu sglodion coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Binder Wood Fired Boiler, modelau RRK 80 — 175 (allbwn 75 — 149 kW), ynghyd â modelau seiclon ZA 80 — 175, a weithgynhyrchir gan Binder Gesellschaft mit beschrankter Haftung (GmbH) Mitterdorfer Strasse 5, A-8572 Barnbach, Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a Wood Energy Limited, sy'n dwyn y teitl Binder Equipment Installation, Commissioning and Maintenance, y dyddiad 17 Mai 2005, a'r cyfeirnod WELBinderManualrev0.doc, revision 0.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed neu sglodion coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Binder Wood Fired Boiler, modelau RRK 130 — 250 (allbwn 185 — 230 kW), 200-350 (allbwn 250—300kW), 400—600 (allbwn 350—500 kW), 640—850 (allbwn 650—840kW), â seiclon (model math ZA), a weithgynhyrchir gan Binder Gesellschaft mit beschrankter Haftung (GmbH) Mitterdorfer Strasse 5, A-8572 Barnbach, Awstria. Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a Wood Energy Limited, sy'n dwyn y teitl Binder Equipment Installation, Commissioning and Maintenance, y dyddiad 17 Mai 2005, a'r cyfeirnod WELBinderManualrev0.doc, revision 0.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed neu sglodion coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Binder Wood Fired Boiler, model RRK 1000 (allbwn 1200 kW) ag amlseiclon (model MZA), a weithgynhyrchir gan Binder Gesellschaft mit beschrankter Haftung (GmbH) o Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a Wood Energy Limited, sy'n dwyn y teitl Binder Equipment Installation, Commissioning and Maintenance, y dyddiad 17 Mai 2005, a'r cyfeirnod WELBinderManualrev0.doc, revision 0.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed neu sglodion coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Biomatic 220 a 250 â gwahanfur seiclon Zyklovent 220—250, a weithgynhyrchir gan HERZ Armaturen Ges.m.b.H, Geschäftsbereich HERZ, Feuerungstechnik, A-8272 Sebersdorf 138, Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Ebrill 2005, a'r cyfeirnod Bedienungsanleitung Englisch v2.0 doc.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio sglodion coed, pelenni coed neu naddion coed wedi ei blaenio, ond heb gynnwys unrhyw sglodion, pelenni neu naddion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Biomatic 300, 350, 400 a 500 â gwahanfur seiclon Zyklovent 300—500, a weithgynhyrchir gan HERZ Armaturen Ges.m.b.H, Geschäftsbereich HERZ, Feuerungstechnik, A-8272 Sebersdorf 138, Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Ebrill 2005, a'r cyfeirnod Bedienungsanleitung Englisch v2.0 doc.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio sglodion coed, pelenni coed neu naddion coed wedi ei blaenio, ond heb gynnwys unrhyw sglodion, pelenni neu naddion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Stofiau llosgi coed y Clearview Pioneer 400, y Solution 400 a'r Pioneer Oven, ac iddynt stop mecanyddol i rwystro ymyrraeth â'r llithren aer/damper, a weithgynhyrchir gan Clearview Stoves, More Works, Bishops Castle, Swydd Amwythig, SY9 5HH.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y teitl Operating Instructions Clearview Vision/Vision Inset/Pioneer & Solution, y dyddiad 1 Gorffennaf 2006, y cyfeirnod V1/42, a'r stamp a'r llofnod Smoke Control.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio boncyffion coed wedi eu hawyrsychu, ond heb gynnwys unrhyw foncyffion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Yr CTC Ecoflex 15 a 20 a weithgynhyrchir gan Enertech AB, Box 313, S-341 26 Ljungby, Sweden.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau y gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 20 Chwefror 2007, a'r cyfeirnod 161 505 27 06/1.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Dovre 250 (model DV-250) a weithgynhyrchir gan Dovre NV, Nijverheidsstraat 18, BE-2381 Weelde, Gwlad Belg.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau y gwneuthurwr, sy'n dwyn y cyfeirnod PM250 Issue 1.

Rhaid bod stop parhaol yn ei le ar y fewnfa awyr eilradd i rwystro'i chau y tu hwnt i'r sefyllfa 75 y cant ar agor.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Dunsley Yorkshire Stove a weithgynhyrchir gan Dunsley Heat Limited, Bridge Mills, Huddersfield Road, Holmfirth, Yorkshire HD9 3TW.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau y gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 5 Awst 1998, a'r cyfeirnod A/22160, fel y'u diwygiwyd gan y cyfarwyddiadau sy'n dwyn y dyddiad 4 Rhagfyr 2004, a'r cyfeirnod D13.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio,

mawn neu friciau mawn ac ynddynt, ym mhob achos, lai na 25% o leithder.

Union Coal Briketts, a weithgynhyrchir gan Rheinbraun AG o'r Almaen, sef lignit wedi ei wasgu'n friciau tua 15cm o hyd, sy'n sgwâr ar bob pen ac y mae sylffwr yn cyfateb i ddim mwy nag 1% o gyfanswm eu pwysau.

CPL Wildfire, a weithgynhyrchir gan Coal Products Ltd., Immingham, sef glo rhwym â chynnwys anweddol sy'n cyfateb i 32-36% (o tua 96% o gyfanswm ei bwysau), ac â chyflynydd resin wedi ei galedu drwy oeri (sy'n cyfateb i weddill ei bwysau), a weithgynhyrchir o'r cyfansoddion hynny drwy gyfrwng proses o wasgu drwy rolio; mae'n pwyso ar gyfartaledd naill ai 80—90 gram neu 160—170 gram, ac y mae swlffwr yn cyfateb i ddim mwy nag 1.8% o gyfanswm ei bwysau.

Y Dunsley Yorkshire Multifuel Stove a weithgynhyrchir gan Dunsley Heat Limited, Bridge Mills, Huddersfield Road, Holmfirth, Yorkshire HD9 3TW.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 5 Awst 1998 a'r cyfeirnod A/22160, fel y'u diwygiwyd gan y cyfarwyddiadau sy'n dwyn y dyddiad 4 Rhagfyr 2004, a'r cyfeirnod D13.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Mawn neu friciau mawn ac ynddynt, ym mhob achos, lai na 25% o leithder.

Union Coal Briketts, a weithgynhyrchir gan Rheinbraun AG o'r Almaen, sef lignit wedi ei wasgu'n friciau tua 15cm o hyd, sy'n sgwâr ar bob pen ac y mae sylffwr yn cyfateb i ddim mwy nag 1% o gyfanswm eu pwysau.

CPL Wildfire, a weithgynhyrchir gan Coal Products Ltd., Immingham, sef glo rhwym â chynnwys anweddol sy'n cyfateb i 32—36% (o tua 96% o gyfanswm ei bwysau), ac â chyflynydd resin wedi ei galedu drwy oeri (sy'n cyfateb i weddill ei bwysau), a weithgynhyrchir o'r cyfansoddion hynny drwy gyfrwng proses o wasgu drwy rolio; mae'n pwyso ar gyfartaledd naill ai 80—90 gram neu 160—170 gram, ac y mae swlffwr yn cyfateb i ddim mwy nag 1.8% o gyfanswm ei bwysau

Y Dunsley Yorkshire Multifuel Stove and Boiler a weithgynhyrchir gan Dunsley Heat Limited, Bridge Mills, Huddersfield Road, Holmfirth, Yorkshire HD9 3TW.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 5 Awst 1998, a'r cyfeirnod A/22160, fel y'u diwygiwyd gan y cyfarwyddiadau hynny sy'n dwyn y dyddiad 4 Hydref 2004, a'r cyfeirnodGHD/DUN4B/1.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

mawn neu friciau mawn ac ynddynt, ym mhob achos, lai na 25% o leithder.

Union Coal Briketts, a weithgynhyrchir gan Rheinbraun AG o'r Almaen, sef lignit wedi ei wasgu'n friciau tua 15cm o hyd, sy'n sgwâr ar bob pen ac y mae sylffwr yn cyfateb i ddim mwy nag 1% o gyfanswm eu pwysau.

CPL Wildfire, a weithgynhyrchir gan Coal Products Ltd., Immingham, sef glo rhwym â chynnwys anweddol sy'n cyfateb i 32—36% (o tua 96% o gyfanswm ei bwysau), ac â chyflynydd resin wedi ei galedu drwy oeri (sy'n cyfateb i weddill ei bwysau), a weithgynhyrchir o'r cyfansoddion hynny drwy gyfrwng proses o wasgu drwy rolio; mae'n pwyso ar gyfartaledd naill ai 80—90 gram neu 160—170 gram, ac y mae swlffwr yn cyfateb i ddim mwy nag 1.8% o gyfanswm ei bwysau.

Y Dunsley Yorkshire Woodburning Stove a weithgynhyrchir gan Dunsley Heat Limited, Bridge Mills, Huddersfield Road, Holmfirth, Yorkshire HD9 3TW.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 4 Rhagfyr 2004, a'r cyfeirnod D13W.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Dunsley Yorkshire Woodburning Stove and Boiler a weithgynhyrchir gan Dunsley Heat Limited, Bridge Mills, Huddersfield Road, Holmfirth, Yorkshire HD9 3TW.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 4 Rhagfyr 2004, a'r cyfeirnod D13W ynghyd â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 4 Hydref 2004, a'r cyfeirnod GHD/DUN4B/1.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Yr Extraflame:

Babyfiamma

Bella and Bella Lux

Clementina

Comfort Maxi

Contessa

Divina, Divina Plus a Divina Steel

Duchessa a Duchessa Steel

Ecologica

Esmeralda ac Esmeralda Crystal

Falò 1CP, Falò 2CP a Falò 1XP

Isabella

Karolina

Preziosa

Fe'u cynhyrchir i gyd gan Extraflame S.p.a ym Montecchio Precalcino (Vicenza), yr Eidal.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio y gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 5 Mawrth 2007, a'r cyfeirnod 004275101 011.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

The Extraflame Comfort Mini a weithgynhyrchir gan Extraflame S.p.a ym Montecchio Precalcino (Vicenza), yr Eidal.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio y gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 2 Hydref 2006, a'r cyfeirnod 004275115 REV 005.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Yr Extraflame Idro a weithgynhyrchir gan Extraflame S.p.a ym Montecchio Precalcino (Vicenza), yr Eidal.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio y gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 28 Awst 2006, a'r cyfeirnod 004275128 REV 002.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Yr Extraflame Lucrezia Idro a'r Lucrezia Steel, a weithgynhyrchir gan Extraflame S.p.a ym Montecchio Precalcino (Vicenza), yr Eidal.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio y gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 12 Gorffennaf 2006, a'r cyfeirnod 004275110 REV 011.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Firematic 25, 50, 90 a 150 a weithgynhyrchir gan HERZ Armaturen Ges.m.b.H, Geschaftsbereich HERZ, Feuerungstechnik, A-8272 Sebersdorf 138, Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Mehefin 2005, a'r cyfeirnod Bedienungsanleitung Firematic V 1.1 ENG doc.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio sglodion coed, pelenni coed, neu naddion coed wedi ei blaenio ond heb gynnwys unrhyw sglodion, pelenni neu naddion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y FirematicTurbomat 28, 35, 48 a 55 a weithgynhyrchir gan Fröling, Heizkessel-und Behälterbau, Ges.m.b.H, Industriestraße 12, A-4710 Grieskirchen, Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Tachwedd 2003, a'r cyfeirnod M 060 01 03.

Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Awst 2002, a'r cyfeirnod 99229a.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio sglodion coed â chynnwys lleithder o lai na 35% sy'n bodloni ONORM (a) M 7133; 1998 dosbarth maint G30 ond heb gynnwys unrhyw sglodion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y FirematicTurbomat 85, 100 a 110 a weithgynhyrchir gan Fröling, Heizkessel-und Behälterbau, Ges.m.b.H, Industriestraße 12, A-4710 Grieskirchen, Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Tachwedd 2003, a'r cyfeirnod M 060 01 03.

Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Awst 2002, a'r cyfeirnod 99229a.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio sglodion coed â chynnwys lleithder o lai na 35% sy'n bodloni ONORM (a) M 7133; 1998 dosbarth maint G30 ond heb gynnwys unrhyw sglodion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Fröling Turbomat 150 a 220 a weithgynhyrchir gan Fröling, Heizkessel-und Behälterbau, Ges.m.b.H, Industriestraße 12, A-4710 Grieskirchen, Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Awst 2003, a'r cyfeirnod BO310003.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed neu sglodion coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Froling Turbomat 320 a 500 a weithgynhyrchir gan Froling Heizkessel und Behalterbau Ges. m.b.H, Industriestraße 12, A-4710 Grieskirchen, Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Tachwedd 2004, a'r cyfeirnod B0340004.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed neu sglodion coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Gilles HPK-RA 13 kW, 15 kW, 20 kW, 25 kW, 30 kW, 35 kW, 40 kW, 45 kW, 49 kW, 60 kW, 70 kW, 75 kW, 85 kW, 95 kW, 100 kW, 120 kW, a 145 kW; fe'u cynhyrchir i gyd gan GILLES Energie-und Umwelttechnik GmbH, Koaserbauer Str. 16 A-4810 Gmunden, Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Ionawr 2007, a'r cyfeirnod Gilles/0-145/1.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed neu sglodion coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Gilles HPK USK 150 kW, 180 kW, 240 kW a 300 kW, a weithgynhyrchir gan GILLES Energie-und Umwelttechnik GmbH, Koaserbauer Str. 16 A-4810 Gmunden, Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Ionawr 2007, a'r cyfeirnod Gilles/150-300/1.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed neu sglodion coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Gilles HPK USK 360 kW a weithgynhyrchir gan GILLES Energie-und Umwelttechnik GmbH, Koaserbauer Str. 16 A-4810 Gmunden, Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio y gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Ionawr 2008, a'r cyfeirnod Gilles 360/1.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed neu sglodion coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Boileriaid Gilles UTSK 450 kW, 550 kW, 700 kW, 900 kW, 1200 kW a 1600 kW a weithgynhyrchir gan GILLES Energie-und Umwelttechnik GmbH, Koaserbauer Str. 16 A-4810 Gmunden, Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio y gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Ionawr 2008, a'r cyfeirnod Gilles 360/1.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed neu sglodion coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Yr Hoval BioLyt 50 Wood Pellet Boiler (allbwn thermol 49kW) a weithgynhyrchir yn Slofacia gan Hoval AG, Austrasse 70, 9490 Vaduz, Liechtenstein.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â gwybodaeth dechnegol a cyfarwyddiadau gosod y gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Hydref 2005, a'r cyfeirnod 4 204794/00 a chyfarwyddiadau defnyddio sy'n dwyn y dyddiad Ionawr 2006, a'r cyfeirnod 4 204 793/01.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Yr Hoval BioLyt, modelau 50 a 70 a weithgynhyrchir gan Hoval AG, Austrasse 70, 9490 Vaduz, Liechtenstein.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â gwybodaeth dechnegol a chyfarwyddiadau gosod y gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Mehefin 2007, a'r cyfeirnod 4 204 794/0 a 4 204 793/02.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed â diamedr o 6mm, ond heb gynnwys unrhyw belenni o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Yr Hoval AgroLyt 20, 25, 35, 45 a 50 a weithgynhyrchir gan Hoval AG, Austrasse 70, 9490 Vaduz, Liechtenstein.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â gwybodaeth dechnegol a cyfarwyddiadau gosod y gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Ionawr 2006, a'r cyfeirnod 4 205 194/00, a'r rhai sy'n dwyn y cyfeirnod 4 205 193/00 a'r dyddiad Mehefin 2006.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio boncyffion coed ac ynddynt lai na 20% o leithder, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Yr Hoval STU 150, 200, 250, 300, 350, 425 a 500 a weithgynhyrchir gan Hoval UK Ltd, Northgate, Newark-on-Trent, Nottinghamshire, NG24 1JN.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â gwybodaeth dechnegol a cyfarwyddiadau gosod y gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Tachwedd 2007, a'r cyfeirnod STUman/01.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed â diamedr o 6mm, ond heb gynnwys unrhyw belenni o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Yr Hoval STU 600, 800 a 1000 a weithgynhyrchir gan Hoval UK Ltd, Northgate, Newark-on-Trent, Nottinghamshire, NG24 1JN.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â gwybodaeth dechnegol a cyfarwyddiadau gosod y gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Mehefin 2008, a'r cyfeirnod STU/man/01/1.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Yr Huntingdon 25 drws clir (model rhif 7057) a'r Huntingdon 25 drws rhwyllwaith (model rhif 7058) a gynhyrechir gan Stovax Limited, Falcon Road, Sowerton Industrial Estate, Exeter, Devon EX2 7LF.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â llawlyfr cyfarwyddyd y gwneuthurwr, sy'n dwyn y cyfeirnod PM 249 Argraffiad 1.

Rhaid bod stop parhaol yn ei le ar y fewnfa awyr eilradd i rwystro'i chau y tu hwnt i'r sefyllfa 75 y cant ar agor.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Yr Hwam Beethoven a'r Hwam Beethoven H, yr Hwam Mozart, yr Hwam Ravel, yr Hwam Vivaldi a'r Hwam 30 (allbwn thermol mewn enw o 4.5 kW) ac arnynt fecanwaith i rwystro cau'r system aerolchi/system aer-reoli eilaidd, a weithgynhyrchir gan HWAM Heat Design AS Nydamsvej 53, 8362 Hørning, Denmarc.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio Euroheat Distributors (HBS) Limited, sy'n dwyn y dyddiad Tachwedd 2006, a'r cyfeirnod IN1 141 Ed B.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y KWB TDS Powerfire 130, 240 a 300 a weithgynhyrchir gan KWB — Kraft und Wärme aus Biomasse Gesellschaft mit beschränkter Haftung (GmbH) of Industriestrasse 235, A-8321 St. Margarethen an der Raab.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 14 Mai 2008, a'r cyfeirnod BA TDS-05.2008.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed neu sglodion coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y KWB TDS Powerfire 150 a weithgynhyrchir gan KWB — Kraft und Wärme aus Biomasse Gesellschaft mit beschränkter Haftung (GmbH) of Industriestrasse 235, A-8321 St. Margarethen an der Raab.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Awst 2005, a'r cyfeirnod BA TDS — 0805.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed neu sglodion coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Stôf llosgi coed y Little Thurlow a weithgynhyrchir gan Town and Country Fires, Pickering, North Yorkshire.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 30 Mehefin 2007, rhifyn Rhif 3.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio boncyffion wedi eu sychu ac ynddynt lai nag 20 y cant o leithder ac sy'n 350mm o hyd ar y mwyaf, ond heb gynnwys unrhyw foncyffion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Lovenholm a weithgynhyrchir gan Hunter Stoves Ltd., Old Mill Industrial Estate, Stoke Canon, Exeter, Devon EX5 4RJ.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y cyfeirnod 07/08.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed heb ei drin ac ynddo lai nag 20 y cant o leithder heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y gyfres Morsø 1400, sef modelau 1412 a 1442, a weithgynhyrchir gan Morsø Jernestøberi A/S DK-7900 Nykøbing, Mors, Denmarc.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 10 Ionawr 2008, a'r cyfeirnod 72146800.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio boncyffion coed ac ynddynt lai nag 20 y cant o leithder, ond heb gynnwys unrhyw foncyffion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y gyfres Morsø 3100, sef modelau 3112 a 3142, a weithgynhyrchir gan Morsø Jernestøberi A/S DK-7900 Nykøbing, Mors, Denmarc.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 4 Chwefror 2008, a'r cyfeirnod 72311200.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio boncyffion coed ac ynddynt lai nag 20 y cant o leithder, ond heb gynnwys unrhyw foncyffion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y gyfres Morsø 6140, sef modelau 6140 a 6148, a weithgynhyrchir gan Morsø Jernestøberi A/S DK-7900 Nykøbing, Mors, Denmarc.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 4 Medi 2007, a'r cyfeirnod 72610400.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio boncyffion coed ac ynddynt lai nag 20 y cant o leithder, ond heb gynnwys unrhyw foncyffion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Morsø Owl 3410, 3420 a 3440 ar gyfer llosgi coed, a weithgynhyrchir gan Morsø Jernestøberi A/S DK-7900 Nykøbing, Mors, Denmarc.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 1 Ionawr 2000, a'r cyfeirnod 72345600.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin sydd wedi ei hollti, ei stacio a'i awyrsychu; neu friciau coed wedi eu hawyrsychu, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Nestor Martin Harmony Multi-Fuel Stove H13 (allbwn thermol mewn enw o 3.5 kW) a H33 (allbwn thermol mewn enw o 8 kW) a weithgynhyrchir gan Nestor Martin, S A Finuick Nv, Voie Axiale 5, B-5660 Couvin, Gwlad Belg.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio Euroheat Distributors (HBS) Limited, sy'n dwyn y dyddiad Ionawr 2007, a'r cyfeirnod IN1 116 Edition D.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Nestor Martin Harmony Multi-Fuel Stove H23 (allbwn thermol mewn enw o 6 kW), a weithgynhyrchir gan Nestor Martin, S A Finuick Nv, Voie Axiale 5, B-5660 Couvin, Gwlad Belg.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio Euroheat Distributors (HBS) Limited, sy'n dwyn y dyddiad Tachwedd 2006, a'r cyfeirnod IN1 141 Edition B.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Nestor Martin Stanford Multi-Fuel Stove S13, S23 and SP23 (allbwn thermol mewn enw o 6 kW), a weithgynhyrchir gan Nestor Martin, S A Finuick Nv, Voie Axiale 5, B-5660 Couvin, Gwlad Belg.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio Euroheat Distributors (HBS) Limited, sy'n dwyn y dyddiad Tachwedd 2006, a'r cyfeirnod IN1 141 Edition B.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Nestor Martin Stanford Multi-Fuel Stove S13 (allbwn thermol mewn enw o 3.5 kW), S33 ac SP33 (allbwn mewn enw o 8 kW), a weithgynhyrchir gan Nestor Martin, S A Finuick Nv, Voie Axiale 5, B-5660 Couvin, Gwlad Belg.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio Euroheat Distributors (HBS) Limited, sy'n dwyn y dyddiad Ionawr 2007, a'r cyfeirnod IN1 116 Edition D.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Nestor Martin R23 Stove (allbwn thermol mewn enw o 6 kW) a weithgynhyrchir gan Nestor Martin, S A Finuick Nv, Voie Axiale 5, B-5660 Couvin, Gwlad Belg.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio Euroheat Distributors (HBS) Limited, sy'n dwyn y dyddiad Tachwedd 2006, a'r cyfeirnod IN1 141 Edition B.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Nestor Martin Multi-fuel Stove IT 13 (allbwn thermol mewn enw o 3.5 kW) a weithgynhyrchir gan Nestor Martin, S A Finuick Nv, Voie Axiale 5, B-5660 Couvin, Gwlad Belg.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio Euroheat Distributors (HBS) Limited, sy'n dwyn y dyddiad Ebrill 2007, a'r cyfeirnod IN1 180 Edition C.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Nestor Martin Multi-fuel Stove R33 a D33 (allbwn thermol mewn enw o 8 kW) a weithgynhyrchir gan Nestor Martin, S A Finuick Nv, Voie Axiale 5, B-5660 Couvin, Gwlad Belg.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio Euroheat Distributors (HBS) Limited, sy'n dwyn y dyddiad Ionawr 2007, a'r cyfeirnod IN1 116 Edition C.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Yr OkoFEN Pellematic PE08, PE12, PE16, PE20, PE25, PE32, PEK12, PEK16, PEK20, PEK25, PEK32, PES12, PES16, PES20, PES25, PES32, PESK12, PESK16, PESK25, and PESK32, a weithgynhyrchir gan OkoFEN Forschungs-und Entwicklungs Ges.m.b.H of Gewerbepark1, 4133 Niederkappel, Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Chwefror 2007, a'r cyfeirnod PE/HB/001.E.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed â'u diamedr ar y mwyaf yn 6mm â'u hyd ar y mwyaf yn 4cm ond heb gynnwys unrhyw belenni o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Yr OkoFEN Pellematic PE36, PE48, PE56, PESK36, PESK48, PESK56, PES 36, PES 48, PES 56 a weithgynhyrchir gan OkoFEN Forschungs-und Entwicklungs Ges.m.b.H of Gewerbepark1, 4133 Niederkappel, Austria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Mawrth 2008, a'r cyfeirnod PBV 2000 CMP 1.4 (V2.31).

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed â'u diamedr ar y mwyaf yn 6mm â'u hyd ar y mwyaf yn 4cm ond heb gynnwys unrhyw belenni o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Yr Orchard Ovens, modelau: FVR Speciale 80, 100, 110, 110 — 160 a 120; TOP Superiore 100 a 120; GR 100, 120, 140, 120 — 160, 140 — 160, 140 — 180 a 180; OT 100, 120, 140, 120 — 160, 140 — 160, 140 — 180 a 180; y Valoriani Piccolo; fe'u gweithcynhyrchir i gyd gan Valoriani o Via Caselli alla Fornace, 213 50066 Reggello, Firenze, yr Eidal.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 25 Hydref 2004, a'r cyfeirnodau:

CyfarwyddydModel
OOL inst.1FVR 80
OOL inst.2FVR100
OOL inst.3FVR 110
OOL inst.4FVR 120
OOL inst.5FVR 110—160
OOL inst.6TOP 100
OOL inst.7TOP 120
OOL inst. 8GR 100 ac OT 100OT 100
OOL inst.9GR 120 ac OT 120
OOL inst.10GR 140 ac OT 140
OOL inst.11GR 120—160 ac OT 120—160
OOL inst.12GR 140—160 ac OT 140—160
OOL inst.13GR 140—180 ac OT 140—180
OOL inst.14GR 180 ac OT 180
OOL inst.15Valoriani Piccolo

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Quadra-Fire 2100 Millennium Freestanding Wood Burning Stove a weithgynhyrchir gan Hearth & Home Technologies 1445 North Highway, Colville, WA 99114, UDA.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 9 Hydref 2003, a'r cyfeirnod 250-6931B.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sydd wedi ei sychu ond heb ei drin ac sydd, o ran ei faint, yn 38.1 cm — 10.16 cm — 5.08 cm ar y mwyaf, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Quadra-Fire Yosemite Freestanding Wood Burning Stove a weithgynhyrchir gan Hearth & Home Technologies 1445 North Highway, Colville, WA 99114, UDA.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 4 Mehefin 2003, a'r cyfeirnod 7004-187.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sydd wedi ei sychu ond heb ei drin ac sydd, o ran ei faint, yn 38.1 cm — 10.16 cm — 5.08 cm ar y mwyaf, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Quadra-Fire Cumberland Gap Freestanding Wood Burning Stove a weithgynhyrchir gan Hearth & Home Technologies 1445 North Highway, Colville, WA 99114, UDA.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 8 Gorffennaf 2003, a'r cyfeirnod 7006-186.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sydd wedi ei sychu ond heb ei drin â'i faint ar y mwyaf yn 43.18 cm x 10.16 cm x 5.08 cm, ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Scan Anderson 4-5 a weithgynhyrchir gan Krog Iversen 7 Co., A/S DK-5492 Vissenbjerg, Denmarc.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 15 Tachwedd 2007, yr enw “Scan-Andersen 4-5”, a'r cyfeirnod 09/05-GB.

Rhaid bod stop parhaol yn ei le ar y fewnfa awyr eilradd i rwystro'i chau y tu hwnt i 20mm.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y Stockton 5 top fflat (model rhif 7119), y Stockton 5 Canopy (model rhif7160) and Stockton 5 Midline (model number 7133) a weithgynhyrchir gan Stovax Ltd., Falcon Road, Sowerton Industrial Estate, Exeter, Devon EX2 7LF

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr dan y cyfeirnod PM176 — argraffiad 4.

Rhaid bod stop parhaol yn ei le ar y fewnfa awyr eilradd i rwystro'i chau y tu hwnt i'r sefyllfa 50 y cant ar agor.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin ond heb gynnwys unrhyw goed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y boileri llosgi pelenni coed a sglodion coed Math USV, rhifau modelau USV-15, 25, 30, 40, 50, 60, 80 a 100, a weithgynhyrchir gan KWB — Kraft und Wärme aus Biomasse Gesellschaft mit beschränkter Haftung (GmbH), Industriestrasse 235, A-8321 St. Margarethen an der Raab, Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Awst 2003 a'r cyfeirnod BA-USV 0803.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed neu sglodion coed ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Y boileri llosgi pelenni coed Math USP, rhifau modelau USP-10, 15, 20, 25 a 30, a gynhyrchir gan KWB — Kraft und Wärme aus Biomasse Gesellschaft mit beschränkter Haftung (GmbH) o Industriestrasse 235, A-8321 St. Margarethen an der Raab, Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 28 Gorffennaf 2003, a'r cyfeirnod BA-USP 0703.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi ei drin â chadwolion pren neu i fod wedi ei gotio.

Y Westfire Uniq 15, 16 a 20 (a elwir hefyd WF UNIQ 15, 16 a 20) a weithgynhyrchir gan Westfire Tømrervej 3 DK-6800 Varde, Denmarc.

1..  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 2007, a'r cyfeirnod WF15 — WF16 — WF20 ynghyd â chyfarwyddiadau atodol sy'n dwyn y cyfeirnod 01 wfuk.2207.

Rhaid bod stop parhaol yn ei le ar y fewnfa awyr eilaidd i rwystro cau'r fewnfa o fwy na 50mm.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio coed sych heb ei drin, ond heb gynnwys unrhyw goed sych o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi ei drin â chadwolion pren neu i fod wedi ei gotio.

Y Winhager Bio Win 90 a 120 a weithgynhyrchir gan Windhager Zentralheizung GmbH, Anton-Windhager-Str. 20, A-5201 Seekirchen bei Salzburg, Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Awst 2008, a'r cyfeirnod 092125/00.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni coed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi ei drin â chadwolion pren neu i fod wedi ei gotio.

Y Winhager Bio Win 100. 150, 210 a 260, a weithgynhyrchir gan Windhager Zentralheizung GmbH, Anton-Windhager-Str. 20, A-5201 Seerkirchen bei Salzburg, Awstria.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad Mai 2008, â'r cyfeirnod 0916197/00.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio pelenni coed, ond heb gynnwys unrhyw belenni coed o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi ei drin â chadwolion pren neu i fod wedi ei gotio.

Yr Wood Waste Technology Heater, modelau WT10 a WT15, a weithgynhyrchir gan Wood Waste Technology Unit 4 Palmbourne Industrial Estate, Castle Street, Stafford ST16 2TB.

1.  Rhaid gosod, cynnal a chadw a defnyddio'r lle tân yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, sy'n dwyn y dyddiad 19 Ionawr 2005, â'r cyfeirnod WT10 a WT15.

2.  Nid oes unrhyw danwydd i'w ddefnyddio ac eithrio torion pren caled a thorion pren meddal, ond heb gynnwys unrhyw dorion o'r fath sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi eu trin â chadwolion pren neu i fod wedi eu cotio.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“Deddf 1993”) yn gosod gwaharddiad cyffredinol ar ollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg.

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn a wnaed o dan adran 21 o Ddeddf 1993, esemptio dosbarthau penodedig ar leoedd tân rhag darpariaethau adran 20, os ydynt wedi eu bodloni y gall lleoedd tân o'r fath gael eu defnyddio at losgi tanwydd nad yw'n danwydd awdurdodedig a hynny heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli gyda diwygiadau Orchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2980) (Cy.271).

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn esemptio'r dosbarthau ar leoedd tân a restrir yn y golofn gyntaf yn yr Atodlen i'r Gorchymyn rhag darpariaethau adran 20 o Ddeddf 1993, yn ddarostyngedig i'r amodau yn yr ail golofn yn yr Atodlen honno.

Cafodd asesiad effaith rheoleiddiol ei baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo ac fe'u trosglwyddwyd wedyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) ac Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: