2008 Rhif 3138 (Cy.277)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd Llundain I Abergwaun (YR A40) (Gwelliant Penblewin I Barc Slebets) 2008

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 10, 12 a 106 o Ddeddf Priffyrdd 19801 a phob pwer galluogi arall 2

1

Daw'r briffordd newydd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadau ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym.

2

Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.

3

Bydd y darnau o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog llydan ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd ac yn dod yn ffordd ddosbarthiadol neu'n ffordd ddiddosbarth fel y dangosir yn yr Atodlen honno o'r dyddiad y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Benfro mai ef fydd yr awdurdod priffyrdd cyfrifol am y darnau hynny o ffordd.

4

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u hawdurdodi i adeiladu'r bont newydd a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn fel rhan o'r gwelliannau i'r gefnffordd.

5

Yn y Gorchymyn hwn:

  • mesurir pob mesuriad o bellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;

  • ystyr “ffordd ddosbarthiadol” (“classified road”), fel dosbarthiad i briffordd yw nad yw'r briffordd yn brif ffordd at ddibenion deddfiadau neu offerynnau, sy'n cyfeirio at briffyrdd a ddosbarthwyd gan Weinidogion Cymru ac nad yw'n cyfeirio'n benodol at eu dosbarthiad fel prif ffyrdd.

  • ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd Llundain i Abergwaun (yr A40);

  • ystyr “y plan a adneuwyd” (“the deposited plan”) yw'r plan sy'n dwyn y Rhif HA10/2 NAFW 20 ac sydd wedi'i farcio “Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (yr A40) (Gwelliant Penblewin i Barc Slebets) 2008”, ac a lofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru ac sydd wedi'i adneuo gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, yr Uned Storio ac Adfer Cofnodion (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd; ac

  • ystyr “plan y bont” (“the bridge plan”) yw'r plan sy'n dwyn y Rhif HA10/2 NAFW 20 ac sydd wedi'i farcio “Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (yr A40) (Gwelliant Penblewin i Barc Slebets) 2008 Atodlen 3 -Manylebion pont dros gwrs dwr mordwyol”, ac a lofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru ac sydd wedi'i adneuo gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, yr Uned Storio ac Adfer Cofnodion (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd;

6

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 17 Rhagfyr 2008. Enw'r Gorchymyn hwn yw ''Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (yr A40) (Gwelliant Penblewin i Barc Slebets) 2008''.

Llofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru

S. C. SHOULERCyfarwyddwr Cynllunio a Gweinyddu Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru

YR ATODLENNI

ATODLEN 1LLWYBR Y GEFNFFORDD NEWYDD

O bwynt ar y gefnffordd 58 o fetrau i'r de ddwyrain o'i chyffordd â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i Lawhaden ac sy'n dwyn y cyfeirnod A ar y plan a adneuwyd, ac sy'n cynnwys cylchfan 292 o fetrau i'r de ddwyrain o'i chyffordd â'r A4075, ac ail gylchfan 278 o fetrau i'r de ddwyrain o'i cyffordd â'r B4313, am bellter o 2.67 o gilometrau, hyd at bwynt ar y gefnffordd 420 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â'r B4314 ac sy'n dwyn y cyfeirnod B ar y plan a adneuwyd.

ATODLEN 2DARNAU O GEFNFFORDD YR A40 SY'N PEIDIO Å BOD YN GEFNFFORDD

Y darnau hynny o gefnffordd yr A40 sy'n peidio â bod yn gefnffordd yw'r darnau hynny rhwng ei chyffordd â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i Lawhaden a'i chyffordd â Flimstone Lane rhwng Penblewin a Slebets yn Sir Benfro sef:

i

o bwynt ar y gefnffordd 53 o fetrau i'r de ddwyrain o'i chyffordd â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i Lawhaden ac sy'n dwyn y cyfeirnod C ar y plan a adneuwyd, pellter cyfan o 0.53 o gilometrau hyd at bwynt ar y gefnffordd 305 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â'r A4075 ac sy'n dwyn y cyfeirnod D ar y plan a adneuwyd fydd yn dod yn ffordd ddiddosbarth, a

ii

o bwynt ar y gefnffordd 337 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â'r A4075 ac sy'n dwyn y cyfeirnod E ar y plan a adneuwyd, am bellter cyfan o 1.91 o gilometrau hyd at bwynt ar y gefnffordd 245 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â'r B4314 ac sy'n dwyn y cyfeirnod F ar y plan a adneuwyd fydd yn dod yn ffordd ddosbarthiadol.

ATODLEN 3MANYLEBION PONT DROS GWRS DW^R MORDWYOL

Pont newydd dros y cwrs dwr mordwyol a elwir afon Cleddau Ddu yng nghymuned Llawhaden yn gyfagos i adeiledd y bont bresennol dros yr A40 yn Canaston Bridge a phellter clir o 12 o fetrau i'r de ohoni, 1.8 o gilometrau i'r gorllewin o Robeston Wathen, y dangosir ei lleoliad a'i dyluniad cyffredinol ar blan y bont.

Image_r00000