Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 3138 (Cy.277)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd Llundain I Abergwaun (YR A40) (Gwelliant Penblewin I Barc Slebets) 2008

Gwnaed

8 Rhagfyr 2008

Yn dod i rym

17 Rhagfyr 2008

1.  Daw'r briffordd newydd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadau ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym.

2.  Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.

3.  Bydd y darnau o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog llydan ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd ac yn dod yn ffordd ddosbarthiadol neu'n ffordd ddiddosbarth fel y dangosir yn yr Atodlen honno o'r dyddiad y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Benfro mai ef fydd yr awdurdod priffyrdd cyfrifol am y darnau hynny o ffordd.

4.  Mae Gweinidogion Cymru wedi'u hawdurdodi i adeiladu'r bont newydd a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn fel rhan o'r gwelliannau i'r gefnffordd.

5.  Yn y Gorchymyn hwn:

6.  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 17 Rhagfyr 2008. Enw'r Gorchymyn hwn yw ''Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (yr A40) (Gwelliant Penblewin i Barc Slebets) 2008''.

Llofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru

S. C. SHOULER

Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweinyddu Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru

8 Rhagfyr 2008

YR ATODLENNI

ATODLEN 1LLWYBR Y GEFNFFORDD NEWYDD

O bwynt ar y gefnffordd 58 o fetrau i'r de ddwyrain o'i chyffordd â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i Lawhaden ac sy'n dwyn y cyfeirnod A ar y plan a adneuwyd, ac sy'n cynnwys cylchfan 292 o fetrau i'r de ddwyrain o'i chyffordd â'r A4075, ac ail gylchfan 278 o fetrau i'r de ddwyrain o'i cyffordd â'r B4313, am bellter o 2.67 o gilometrau, hyd at bwynt ar y gefnffordd 420 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â'r B4314 ac sy'n dwyn y cyfeirnod B ar y plan a adneuwyd.

ATODLEN 2DARNAU O GEFNFFORDD YR A40 SY'N PEIDIO Å BOD YN GEFNFFORDD

Y darnau hynny o gefnffordd yr A40 sy'n peidio â bod yn gefnffordd yw'r darnau hynny rhwng ei chyffordd â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i Lawhaden a'i chyffordd â Flimstone Lane rhwng Penblewin a Slebets yn Sir Benfro sef:

(i)o bwynt ar y gefnffordd 53 o fetrau i'r de ddwyrain o'i chyffordd â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i Lawhaden ac sy'n dwyn y cyfeirnod C ar y plan a adneuwyd, pellter cyfan o 0.53 o gilometrau hyd at bwynt ar y gefnffordd 305 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â'r A4075 ac sy'n dwyn y cyfeirnod D ar y plan a adneuwyd fydd yn dod yn ffordd ddiddosbarth, a

(ii)o bwynt ar y gefnffordd 337 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â'r A4075 ac sy'n dwyn y cyfeirnod E ar y plan a adneuwyd, am bellter cyfan o 1.91 o gilometrau hyd at bwynt ar y gefnffordd 245 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â'r B4314 ac sy'n dwyn y cyfeirnod F ar y plan a adneuwyd fydd yn dod yn ffordd ddosbarthiadol.