xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 5
RHAN 1 Cyfyngiadau ar fwydo proteinau i anifeiliaid
1.Gwahardd bwydo protein anifeiliaid i anifeiliaid cnoi cil
2.Gwahardd bwydo protein anifeiliaid i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil
3.Eithriadau
4.Gwahardd a chyfyngu ar symud anifeiliaid
5.Cigydda anifeiliaid
6.Iawndal
7.Cigydda neu werthu i'w fwyta gan bobl
RHAN 2 Cynhyrchu protein a bwydydd anifeiliaid
8.Blawd pysgod ar gyfer bwydo anifeiliaid a ffermir ac nad ydynt yn cnoi cil
9.Tramgwyddau sy'n ymwneud â blawd pysgod a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd pysgod
10.Bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm i'w bwydo i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil
11.Tramgwyddau sy'n ymwneud â bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm i'w bwydo i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil
12.Cynhyrchion gwaed a blawd gwaed
13.Tramgwyddau sy'n ymwneud â bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed
14.Newid yn y defnydd o gyfarpar
15.Amodau sy'n gymwys i storio a chludo llwythi mawr o gynhyrchion protein a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys proteinau o'r fath
16.Amodau sy'n gymwys i weithgynhyrchu a chludo bwydydd anifeiliaid anwes neu fwydydd anifeiliaid
17.Allforio protein anifeiliaid wedi'i brosesu i drydydd gwledydd
18.Gwrteithiau
19.Cadw cofnodion ar gyfer cludo etc bwydydd gwrthodedig anifeiliaid anwes
20.Trawshalogi deunyddiau sy'n tarddu o fangreoedd lle y defnyddir proteinau anifeiliaid wedi'i brosesu (ac eithrio blawd pysgod)
1.—(1) At ddibenion Erthygl 7(1) a phwynt (b) o Ran I o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned mae'n dramgwydd—
(a)bwydo i unrhyw anifail cnoi cil;
(b)cyflenwi i'w fwydo i unrhyw anifail cnoi cil; neu
(c)ganiatáu i unrhyw anifail cnoi cil gael mynediad at,
unrhyw brotein anifeiliaid (neu unrhyw beth sy'n cynnwys protein anifeiliaid) ar wahân i'r proteinau a nodir ym mhwynt A(a) o Ran II o Atodiad IV i'r Rheoliad hwnnw.
(2) Mae'n dramgwydd dod ag unrhyw beth a waherddir gan is-baragraff (1), ac eithrio bwyd a fwriedir i'w fwyta gan bobl, i mewn i unrhyw fangre lle cedwir anifeiliaid cnoi cil, neu fod â meddiant o'r cyfryw beth mewn mangre o'r fath, ac eithrio—
(a)yn unol â pharagraff 3; neu
(b)pan awdurdodwyd hynny gan arolygydd a phan fo mesurau addas wedi eu sefydlu i sicrhau na chaiff anifeiliaid cnoi cil fynediad at y protein anifeiliaid a nodir yn yr awdurdod.
(3) Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys pan fo'r fangre wedi ei chofrestru ar gyfer defnyddio a storio'r protein anifeiliaid perthnasol o dan baragraff 8(6), 10(5) neu 12(9).
2.—(1) At ddibenion Erthygl 7(2) o, a phwynt (a) o Ran I o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned mae'n dramgwydd—
(a)bwydo i unrhyw fochyn, dofednod, ceffyl neu unrhyw anifail a ffermir ac nad yw'n cnoi cil;
(b)cyflenwi i'w fwydo i unrhyw anifail o'r fath; neu
(c)ganiatáu i unrhyw anifail o'r fath gael mynediad at,
unrhyw beth y mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), mae'r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â—
(a)protein anifeiliaid wedi'i brosesu;
(b)gelatin sy'n tarddu o anifail cnoi cil;
(c)cynhyrchion gwaed;
(ch)protein hydrolysedig;
(d)ffosffad deucalsiwm a ffosffad tricalsiwm sy'n tarddu o anifeiliaid;
(dd)bwydydd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys protein anifeiliaid; ac
(e)bwydydd amrwd ar gyfer anifeiliaid anwes, a gyfansoddir o brotein anifeiliaid.
(3) Nid yw'r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag—
(a)y protein a nodir ym mhwynt A(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned;
(b)blawd pysgod (a bwydydd anifeiliaid sy'n ei gynnwys) sydd wedi eu cynhyrchu, eu labelu, eu cludo a'u storio yn unol â phwynt B o'r Rhan honno;
(c)ffosffad deucalsiwm a ffosffad tricalsiwm (a bwydydd anifeiliaid sy'n eu cynnwys) sydd wedi eu cynhyrchu, eu labelu, eu cludo a'u storio yn unol â phwynt C o'r Rhan honno;
(ch)cynhyrchion gwaed sy'n deillio o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil(a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion o'r fath) ac wedi eu cynhyrchu, eu labelu, eu cludo a'u storio yn unol â phwynt D o'r Rhan honno;
(d)yn achos bwydo i bysgod, blawd gwaed sy'n deillio o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil (a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd o'r fath) ac wedi eu cynhyrchu, eu labelu, eu cludo a'u storio yn unol â phwynt D o'r Rhan honno; a
(dd)cnydau gwraidd a chloron (a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion o'r fath) y canfuwyd sbigylau esgyrn ynddynt, os awdurdodir hwy gan Weinidogion Cymru yn dilyn asesiad risg yn unol â phwynt A(d) o'r Rhan honno.
(4) Yn y paragraff hwn mae “protein” (“protein”) yn cynnwys unrhyw fwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys protein anifeiliaid.
(5) Mae'n dramgwydd dod ag unrhyw beth a waherddir gan y paragraff hwn, ac eithrio bwyd a fwriedir i'w fwyta gan bobl, i unrhyw fangre lle cedwir anifeiliaid fel a nodir yn is-baragraff 1(a), neu fod â meddiant o'r cyfryw beth mewn mangre o'r fath, ac eithrio—
(a)yn unol â pharagraff 3; neu
(b)pan awdurdodwyd hynny gan arolygydd a phan fo mesurau addas wedi eu sefydlu i sicrhau na chaiff anifeiliaid fel a nodir yn is-baragraff (1)(a) fynediad ato.
3.—(1) Nid yw paragraffau 1(2) a 2(5) yn gymwys mewn perthynas ag —
(a)bwyd amrwd ar gyfer anifeiliaid anwes, a gyfansoddir o brotein anifeiliaid neu unrhyw beth a ymgorfforwyd mewn bwyd ar gyfer ei fwydo i anifeiliaid anwes (gan gynnwys cwn sy'n gweithio) yn y fangre honno; neu
(b)unrhyw beth a ymgorfforwyd mewn gwrtaith organig neu ddeunydd gwella pridd a gynhyrchwyd ac a ddefnyddir yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006(1) a pharagraff 18,
ar yr amod y bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2).
(2) Yr amodau hynny yw—
(a)na fwydir ef i unrhyw anifeiliaid a ffermir;
(b)nad yw'n cael ei storio, ei drin na'i fwydo i anifeiliaid anwes (gan gynnwys cŵn sy'n gweithio) mewn rhannau o'r fangre—
(i)lle mae gan anifeiliaid a ffermir fynediad atynt ; neu
(ii)lle mae bwydydd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid a ffermir yn cael eu storio neu eu trin;
(c)nad yw'n dod i gyffyrddiad ag—
(i)bwydydd anifeiliaid y caniateir eu bwydo i anifeiliaid a ffermir; neu
(ii)cyfarpar trin a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw fwydydd anifeiliaid o'r fath; a
(d)nad yw anifeiliaid a ffermir byth yn cael mynediad at fwydydd anifeiliaid anwes, nac at wrtaith organig neu ddeunydd gwella pridd hyd nes ei ddefnyddio ar y tir yn unol â Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006.
4.—(1) Pan fo gan arolygydd sail resymol i gredu bod anifail sy'n agored i'w heintio gan TSE wedi cael ei fwydo gyda, neu wedi cael mynediad at—
(a)ddeunydd risg penodedig;
(b)unrhyw ddeunydd y mae gan yr arolygydd sail resymol i gredu sydd â risg o heintusrwydd TSE yn gysylltiedig ag ef; neu
(c)protein anifeiliaid na all yr arolygydd ganfod ei darddiad na'r risg o heintusrwydd TSE ,
caiff weithredu fel y nodir yn is-baragraff (2).
(2) Caiff yr arolygydd—
(a)gyflwyno hysbysiad i'r perchennog neu'r person sy'n gyfrifol am yr anifail, yn unol â rheoliad 15, yn gwahardd neu'n cyfyngu ar symud yr anifail; a
(b)os yw'n anifail buchol, ymafael yn ei basbort.
5.—(1) Pan fo gan arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru sail resymol i gredu bod anifail sy'n agored i'w heintio gan TSE wedi ei fwydo neu wedi cael mynediad at unrhyw ddeunydd y cyfeirir ato ym mharagraff 4, caiff gyflwyno hysbysiad i'r perchennog neu'r person sy'n gyfrifol am yr anifail yn unol â rheoliad 15.
(2) Caiff yr hysbysiad naill ai—
(a)mynnu bod y perchennog neu'r person sy'n gyfrifol am yr anifail yn ei ladd a'i waredu fel a nodir yn yr hysbysiad; neu
(b)mynnu bod y perchennog neu'r person sy'n gyfrifol am yr anifail ei gadw yn y fangre ac yn y modd a ddarperir yn yr hysbysiad, ac os felly, rhaid i'r arolygydd sicrhau bod y pasbort gwartheg yn cael ei stampio â'r geiriau “Not for human consumption”.
(3) Rhaid i'r arolygydd sicrhau bod yr holl anifeiliaid a bennir ar gyfer eu lladd yn yr hysbysiad yn is-baragraff (2)(a) yn cael ei lladd a'u gwaredu.
6.—(1) Pan leddir anifail o dan baragraff 5, caiff Gweinidogion Cymru dalu iawndal os ystyriant hynny'n briodol o dan yr holl amgylchiadau, a rhaid iddynt ddatgan eu penderfyniad mewn ysgrifen ynglyn â thalu iawndal ai peidio.
(2) Mae'r drefn apelio yn rheoliad 10 yn gymwys mewn perthynas â'r penderfyniad.
(3) Yr iawndal am—
(a)anifail buchol yw'r gwerth a benderfynir yn unol â pharagraffau 9 a 10 o Atodlen 3;
(b)anifail o deulu'r ddafad neu afr yw'r gwerth a benderfynir yn unol â pharagraffau 23 a 24 of Atodlen 4; ac
(c)anifail nad yw o deulu'r fuwch, y ddafad na'r afr yw gwerth yr anifail ar y farchnad ar yr adeg ei lleddir, a benderfynir yn unol â'r weithdrefn yn rheoliad 11, gyda'r perchennog yn talu unrhyw ffi sy'n codi o enwebu a chyflogi prisiwr.
7. Mae'n dramgwydd i unrhyw anifail a allai gael ei heintio gan TSE gael ei draddodi i gael ei gigydda i'w fwyta gan bobl neu ei gigydda i'w gael ei fwyta gan bobl pan fo pasbort yr anifail wedi cael ei stampio o dan baragraff 5.
8.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu blawd pysgod ar gyfer ei fwydo i anifeiliaid a ffermir nad ydynt yn cnoi cil wneud hynny yn unol â phwynt B(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd sy'n cynnwys blawd pysgod ar gyfer ei fwydo i anifeiliaid a ffermir nad ydynt yn cnoi cil wneud hynny —
(a)yn unol â phwynt B(c) o'r Rhan honno, mewn mangre a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw;
(b)yn unol â phwynt B(c)(i) o'r Rhan honno, ar gyfer unrhyw un sy'n cynhyrchu bwyd cyfansawdd gartref a gofrestrwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw; neu
(c)yn unol â phwynt B(c) (ii) o'r Rhan honno, mewn mangre a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n pecynnu'r bwydydd anifeiliaid eu labelu yn unol â phwynt B(d) o'r Rhan honno, ac y mae'n rhaid i unrhyw ddogfennau a anfonir gyda'r bwydydd anifeiliaid gydymffurfio â'r pwynt hwnnw.
(4) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo llwythi mawr o'r bwydydd anifeiliaid wneud hynny yn unol â'r frawddeg gyntaf ym mhwynt B(e) o'r Rhan honno.
(5) Rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio cerbyd, a ddefnyddiwyd yn flaenarol i gludo bwydydd anifeiliaid o'r fath, i gludo bwydydd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r ail frawddeg ym mhwynt B(e) o'r Rhan honno.
(6) Rhaid i feddiannydd unrhyw fferm lle cedwir anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r paragraff cyntaf o bwynt B(f) o'r Rhan honno oni fydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y cydymffurfir â darpariaethau'r ail baragraff o'r pwynt hwnnw ac wedi cofrestru'r fferm o dan y paragraff hwnnw.
9.—(1) Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff 8 yn dramgwydd.
(2) Mae cynhyrchydd bwydydd cyfansawdd cartref a gofrestrwyd o dan baragraff 8(2)(b) yn cyflawni tramgwydd os yw—
(a)yn cadw anifeiliaid cnoi cil;
(b)yn traddodi bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd pysgod (boed yn gyflawn neu'n rhannol gyflawn) a gynhyrchwyd ganddo ei hunan o'i ddaliad; neu
(c)defnyddio bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd pysgod gyda chynnwys protein crai o 50% neu fwy wrth gynhyrchu bwydydd anifeiliaid cyflawn.
(3) Mae unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid yn unol â phwynt B(c)(ii) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned yn cyflawni tramgwydd os yw —
(a)yn peidio â sicrhau y cedwir bwydydd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer anifeiliaid cnoi cil mewn cyfleusterau ar wahân, yn unol â mewnoliad cyntaf y pwynt hwnnw;
(b)yn peidio â sicrhau y gweithgynhyrchir bwydydd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer anifeiliaid cnoi cil yn unol â'r ail fewnoliad; neu
(c)yn peidio â gwneud a chadw cofnod yn unol â'r trydydd mewnoliad.
10.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm i'w bwydo i anifeiliaid a ffermir nad ydynt yn cnoi cil wneud hynny —
(a)yn unol â phwynt C(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned, mewn sefydliad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw;
(b)yn unol â phwynt C(a)(i) o'r Rhan honno, yn achos cynhyrchwyr bwydydd cyfansawdd cartref a gofrestrwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw; neu
(c)yn unol â phwynt C(a)(ii) o'r Rhan honno mewn sefydliad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n pecynnu'r bwydydd anifeiliaid eu labelu yn unol â phwynt C(b) o'r Rhan honno, ac y mae'n rhaid i unrhyw ddogfennau a anfonir gyda'r bwydydd anifeiliaid gydymffurfio â'r pwynt hwnnw.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo'r bwydydd anifeiliaid hynny mewn llwythi mawr wneud hynny yn unol â phwynt C(c) o'r Rhan honno.
(4) Rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio cerbyd, a ddefnyddiwyd yn flaenorol i gludo bwydydd anifeiliaid o'r math hyn, i gludo bwydydd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r ail frawddeg ym mhwynt C(c) o'r Rhan honno.
(5) Rhaid i feddiannydd unrhyw fferm lle cedwir anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r paragraff cyntaf o bwynt C(d) o'r Rhan honno oni fydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y cydymffurfir â darpariaethau'r ail baragraff o'r pwynt hwnnw ac wedi cofrestru'r fferm o dan y paragraff hwnnw.
11.—(1) Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff 10 yn dramgwydd.
(2) Mae cynhyrchydd bwydydd cyfansawdd cartref a gofrestrwyd o dan baragraff 10(1)(b) yn cyflawni tramgwydd os yw—
(a)yn cadw anifeiliaid cnoi cil;
(b)yn traddodi bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm (boed yn gyflawn neu'n rhannol gyflawn) o'i ddaliad; neu
(c)yn defnyddio bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm sydd â'u cynnwys ffosfforws yn 10% neu fwy wrth gynhyrchu bwydydd anifeiliaid cyflawn.
(3) Mae unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid yn unol â phwynt C(a)(ii) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned yn cyflawni tramgwydd os yw —
(a)yn peidio â sicrhau y gweithgynhyrchir bwydydd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer anifeiliaid cnoi cil yn unol â'r mewnoliad cyntaf yn y pwynt hwnnw;
(b)yn peidio â sicrhau y cedwir hwy mewn cyfleusterau ar wahân yn unol â'r ail fewnoliad; neu
(c)yn peidio â gwneud a chadw cofnod yn unol â'r trydydd mewnoliad.
12.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu —
(a)cynhyrchion gwaed y bwriedir eu bwydo i anifeiliaid a ffermir nad ydynt yn cnoi cil ; neu
(b)blawd gwaed, a fwriedir i'w fwydo i bysgod,
sicrhau bod y gwaed yn dod o ladd-dy sydd wedi ei gofrestru gyda Gweinidogion Cymru at ddibenion pwynt D(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned a naill ai —
(c)na ddefnyddir y lladd-dy i gigydda anifeiliaid cnoi cil; neu
(ch)bod system rheoli wedi ei sefydlu yn unol â'r ail baragraff ym mhwynt D(a) o'r Rhan honno i sicrhau y cedwir gwaed anifeiliaid cnoi cil ar wahân i waed anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil a'i fod wedi cael ei awdurdodi at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i feddiannydd y lladd-dy draddodi'r gwaed yn unol â phwynt D(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned, a rhaid i unrhyw gludydd ei gludo yn unol â'r pwynt hwnnw.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed wneud hynny yn unol â naill ai'r paragraff cyntaf neu'r ail baragraff o bwynt D(b) o'r Rhan honno.
(4) Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed at y defnydd a ddisgrifir yn yr ail baragraff o bwynt D(b) o Ran II of Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned—
(a)fod wedi sefydlu'r system rheolaethau a bennir yn yr ail baragraff hwnnw i sicrhau y cedwir cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid cnoi cil ar wahân i gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil; a
(b)bod wedi ei awdurdodi ar gyfer y diben gan Weinidogion Cymru.
(5) Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed wneud hynny—
(a)yn unol â phwynt D(c) o'r Rhan honno, mewn sefydliad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw;
(b)yn unol â phwynt D(c)(i) o'r Rhan honno, fel cynhyrchydd bwydydd cyfansawdd cartref a gofrestrwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw; neu
(c)yn unol â phwynt D(c)(ii) o'r Rhan honno, mewn sefydliad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw.
(6) Rhaid i unrhyw berson sy'n pecynnu'r bwydydd anifeiliaid eu labelu yn unol â phwynt D(d) o'r Rhan honno, a rhaid i unrhyw ddogfennau a anfonir gyda'r bwydydd anifeiliaid gydymffurfio â'r pwynt hwnnw.
(7) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo'r bwydydd anifeiliaid mewn llwythi mawr wneud hynny yn unol â phwynt D(e) o'r Rhan honno.
(8) Rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio cerbyd, a ddefnyddiwyd yn flaenorol i gludo bwydydd anifeiliaid o'r math hyn, i gludo bwydydd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r ail frawddeg ym mhwynt D(e) o'r Rhan honno.
(9) Rhaid i feddiannydd unrhyw fferm lle cedwir anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r paragraff cyntaf o bwynt D(f) o'r Rhan honno oni fydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y cydymffurfir â darpariaethau'r ail baragraff o'r pwynt hwnnw a'i fod wedi cofrestru'r fferm o dan y paragraff hwnnw.
13.—(1) Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff 12 yn dramgwydd.
(2) Mae'n dramgwydd i unrhyw berson sy'n casglu gwaed yn unol â'r ail baragraff o bwynt D(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned beidio ag—
(a)cigydda anifeiliaid yn unol â mewnoliad cyntaf y paragraff hwnnw;
(b)casglu, storio, cludo neu becynnu gwaed yn unol ag ail fewnoliad y paragraff hwnnw; neu
(c)samplu a dadansoddi gwaed yn rheolaidd yn unol â thrydydd fewnoliad y paragraff hwnnw.
(3) Mae'n dramgwydd i unrhyw berson sy'n cynhyrchu cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed yn unol â'r ail baragraff o bwynt D(b) o'r Rhan honno beidio ag—
(a)sicrhau y prosesir y gwaed yn unol â mewnoliad cyntaf y paragraff hwnnw;
(b)cadw deunydd crai a chynnyrch gorffenedig yn unol ag ail fewnoliad y paragraff hwnnw; neu
(c)samplu yn unol â thrydydd fewnoliad y paragraff hwnnw.
(4) Mae'n dramgwydd i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid yn unol â phwynt D(c)(ii) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned—
(a)beidio â sicrhau y gweithgynhyrchir bwydydd anifeiliaid yn unol â mewnoliad cyntaf y pwynt hwnnw;
(b)beidio â sicrhau y'u cedwir mewn cyfleusterau ar wahân yn unol â'r ail fewnoliad; neu
(c)beidio â gwneud a chadw cofnod yn unol â'r trydydd mewnoliad.
(5) Mae'n dramgwydd i unrhyw un sy'n cynhyrchu bwyd cyfansawdd gartref sydd wedi ei gofrestru o dan baragraff 12(5)(b)—
(a)gadw anifeiliaid cnoi cil lle y defnyddir cynhyrchion gwaed;
(b)cadw anifeiliaid ac eithrio pysgod lle y defnyddir blawd gwaed;
(c)traddodi bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed (boed yn gyflawn neu'n rhannol gyflawn) o'i ddaliad; neu
(ch)defnyddio bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed gyda chyfanswm cynnwys protein o 50% neu fwy wrth gynhyrchu bwydydd anifeiliaid cyflawn.
14. Mae'n dramgwydd defnyddio cyfarpar a ddefnyddiwyd i gynhyrchu bwydydd i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil o dan baragraffau 8, 10 neu 12, i gynhyrchu bwydydd i anifeiliaid cnoi cil, onid awdurdodir hynny mewn ysgrifen gan arolygydd.
15.—(1) Mae'n dramgwydd storio neu gludo—
(a)llwythi mawr o brotein anifeiliaid wedi'i brosesu (ac eithrio blawd pysgod); neu
(b)llwythi mawr o gynhyrchion, gan gynnwys bwydydd anifeiliaid, gwrteithiau organig a deunyddiau gwella pridd sy'n cynnwys proteinau o'r fath,
ac eithrio yn unol â phwynt C(a) o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.
(2) Mae'n dramgwydd storio neu gludo llwythi mawr o flawd pysgod, ffosffad deucalsiwm, ffosffad tricalsiwm, cynhyrchion gwaed sy'n tarddu o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil neu flawd gwaed sy'n dod o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil , ac eithrio yn unol â phwynt C(b) ac C(c) o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.
(3) Yn ychwanegol at ofynion is-baragraffau (1) a (2), mae'n dramgwydd cludo llwythi mawr o brotein anifeiliaid wedi'i brosesu neu unrhyw un o'r deunyddiau a nodir yn is-baragraff (2) onid yw'r cludwr wedi ei gofrestru at y diben hwnnw gyda Gweinidogion Cymru.
16.—(1) Mae'n dramgwydd gweithgynhyrchu, storio, cludo neu becynnu bwydydd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed sy'n tarddu o anifeiliaid cnoi cil neu brotein anifeiliaid wedi'i brosesu, ac eithrio blawd pysgod, ac eithrio yn unol â phwynt D o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.
(2) Mae'n dramgwydd gweithgynhyrchu neu gludo bwydydd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu dricalsiwm neu gynhyrchion gwaed sy'n tarddu o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil ac eithrio yn unol â phwynt D o'r Rhan honno.
17.—(1) Yn unol â phwynt E(1) o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned mae'n dramgwydd allforio protein anifeiliaid wedi'i brosesu sy'n deillio o anifeiliaid cnoi cil, ac unrhyw beth sy'n ei gynnwys.
(2) Mae'n dramgwydd allforio protein anifeiliaid sydd wedi ei brosesu sy'n deillio o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil (ac unrhyw beth sy'n ei gynnwys) ac eithrio yn unol â phwynt E(2) o'r Rhan honno a chytundeb ysgrifenedig rhwng Gweinidogion Cymru ac awdurdod cymwys yn y drydedd gwlad.
18.—(1) Mae'n dramgwydd gwerthu neu gyflenwi i'w ddefnyddio fel gwrtaith ar dir amaethyddol, neu feddu gyda'r bwriad o werthu neu gyflenwi, unrhyw—
(a)brotein mamalaidd (ac eithrio lludw) sy'n deillio o sgil-gynhyrchion anifeiliaid a ddosbarthwyd yn ddeunydd Categori 2 yn Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002; neu
(b)lludw sy'n deillio o losgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a ddosbarthwyd yn ddeunydd Categori 1 yn y Rheoliad hwnnw.
(2) Mae'n dramgwydd defnyddio unrhyw beth a waherddir yn is-baragraff (1) fel gwrtaith ar dir amaethyddol.
(3) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “tir amaethyddol” (“agricultural land”) yw tir a ddefnyddir neu y gellid ei ddefnyddio at ddiben masnach neu fusnes sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth; a
(b)mae “amaethyddiaeth” (“agriculture”) yn cynnwys tyfu ffrwythau, tyfu hadau, ffermio gwartheg godro a bridio a chadw da byw, defnyddio tir ar gyfer pori, doldir, tir gwiail helyg, defnyddio tir fel coetir, a garddwriaeth (ac eithrio lluosogi a thyfu planhigion mewn tai gwydr, strwythurau gwydr neu strwythurau plastig).
19.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflenwi, yn cludo neu'n derbyn unrhyw fwyd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys protein anifeiliaid ac na fwriedir ei ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid anwes gofnodi—
(i)enw'r gweithgynhyrchwr;
(ii)y dyddiad cyflenwi a'r dyddiad derbyn;
(iii)y fangre y tarddodd y bwyd anifeiliaid anwes ohoni a'i gyrchfan;
(iv)maint y bwyd anifeiliaid anwes; a
(v)natur y protein anifeiliaid a gynhwysir yn y bwyd anifeiliaid anwes.
(2) Rhaid i'r person hwnnw gadw'r cofnodion hyn am 2 flynedd.
(3) Rhaid i'r traddodwr sicrhau bod y bwyd anifeiliaid anwes wedi ei labelu â'r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) neu yr anfonir dogfennau sy'n cynnwys yr wybodaeth honno ynghyd â'r bwyd hwnnw.
(4) Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn euog o dramgwydd.
20.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflenwi—
(a)cynhwysyn, neu
(b)cynnyrch bwyd anifeiliaid nad yw wedi ei nodi fel bwyd anifeiliaid anwes, ond sy'n cynnwys cynhwysyn,
gydymffurfio ag is-baragraff (2).
(2) Rhaid i'r person hwnnw sicrhau bod —
(a)naill ai label wedi ei gysylltu â'r pecyn sy'n cynnwys y cynhwysyn neu'r bwyd anifeiliaid; neu
(b)unrhyw ddogfennau a anfonir ynghyd â'r cynhwysyn neu'r bwyd anifeiliaid,
yn dynodi bod y cynhwysyn wedi ei gynhyrchu mewn mangre lle defnyddir unrhyw brotein anifeiliaid wedi'i brosesu (ac eithrio blawd pysgod) mewn unrhyw broses weithgynhyrchu.
(3) Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio ag is-baragraff (2) yn euog o dramgwydd.
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “cynhwysyn” (“ingredient”) yw cynhwysyn sydd i'w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid a weithgynhyrchir mewn mangre lle y defnyddir unrhyw brotein anifeiliaid wedi'i brosesu ac eithrio blawd pysgod, mewn unrhyw broses weithgynhyrchu.