ATODLEN 6Bwydydd anifeiliaid

RHAN 1Cyfyngiadau ar fwydo proteinau i anifeiliaid

Gwahardd bwydo protein anifeiliaid i anifeiliaid cnoi cil1

1

At ddibenion Erthygl 7(1) a phwynt (b) o Ran I o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned mae'n dramgwydd—

a

bwydo i unrhyw anifail cnoi cil;

b

cyflenwi i'w fwydo i unrhyw anifail cnoi cil; neu

c

ganiatáu i unrhyw anifail cnoi cil gael mynediad at,

unrhyw brotein anifeiliaid (neu unrhyw beth sy'n cynnwys protein anifeiliaid) ar wahân i'r proteinau a nodir ym mhwynt A(a) o Ran II o Atodiad IV i'r Rheoliad hwnnw.

2

Mae'n dramgwydd dod ag unrhyw beth a waherddir gan is-baragraff (1), ac eithrio bwyd a fwriedir i'w fwyta gan bobl, i mewn i unrhyw fangre lle cedwir anifeiliaid cnoi cil, neu fod â meddiant o'r cyfryw beth mewn mangre o'r fath, ac eithrio—

a

yn unol â pharagraff 3; neu

b

pan awdurdodwyd hynny gan arolygydd a phan fo mesurau addas wedi eu sefydlu i sicrhau na chaiff anifeiliaid cnoi cil fynediad at y protein anifeiliaid a nodir yn yr awdurdod.

3

Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys pan fo'r fangre wedi ei chofrestru ar gyfer defnyddio a storio'r protein anifeiliaid perthnasol o dan baragraff 8(6), 10(5) neu 12(9).

Gwahardd bwydo protein anifeiliaid i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil2

1

At ddibenion Erthygl 7(2) o, a phwynt (a) o Ran I o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned mae'n dramgwydd—

a

bwydo i unrhyw fochyn, dofednod, ceffyl neu unrhyw anifail a ffermir ac nad yw'n cnoi cil;

b

cyflenwi i'w fwydo i unrhyw anifail o'r fath; neu

c

ganiatáu i unrhyw anifail o'r fath gael mynediad at,

unrhyw beth y mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag ef.

2

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), mae'r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â—

a

protein anifeiliaid wedi'i brosesu;

b

gelatin sy'n tarddu o anifail cnoi cil;

c

cynhyrchion gwaed;

ch

protein hydrolysedig;

d

ffosffad deucalsiwm a ffosffad tricalsiwm sy'n tarddu o anifeiliaid;

dd

bwydydd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys protein anifeiliaid; ac

e

bwydydd amrwd ar gyfer anifeiliaid anwes, a gyfansoddir o brotein anifeiliaid.

3

Nid yw'r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag—

a

y protein a nodir ym mhwynt A(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned;

b

blawd pysgod (a bwydydd anifeiliaid sy'n ei gynnwys) sydd wedi eu cynhyrchu, eu labelu, eu cludo a'u storio yn unol â phwynt B o'r Rhan honno;

c

ffosffad deucalsiwm a ffosffad tricalsiwm (a bwydydd anifeiliaid sy'n eu cynnwys) sydd wedi eu cynhyrchu, eu labelu, eu cludo a'u storio yn unol â phwynt C o'r Rhan honno;

ch

cynhyrchion gwaed sy'n deillio o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil(a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion o'r fath) ac wedi eu cynhyrchu, eu labelu, eu cludo a'u storio yn unol â phwynt D o'r Rhan honno;

d

yn achos bwydo i bysgod, blawd gwaed sy'n deillio o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil (a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd o'r fath) ac wedi eu cynhyrchu, eu labelu, eu cludo a'u storio yn unol â phwynt D o'r Rhan honno; a

dd

cnydau gwraidd a chloron (a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion o'r fath) y canfuwyd sbigylau esgyrn ynddynt, os awdurdodir hwy gan Weinidogion Cymru yn dilyn asesiad risg yn unol â phwynt A(d) o'r Rhan honno.

4

Yn y paragraff hwn mae “protein” (“protein”) yn cynnwys unrhyw fwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys protein anifeiliaid.

5

Mae'n dramgwydd dod ag unrhyw beth a waherddir gan y paragraff hwn, ac eithrio bwyd a fwriedir i'w fwyta gan bobl, i unrhyw fangre lle cedwir anifeiliaid fel a nodir yn is-baragraff 1(a), neu fod â meddiant o'r cyfryw beth mewn mangre o'r fath, ac eithrio—

a

yn unol â pharagraff 3; neu

b

pan awdurdodwyd hynny gan arolygydd a phan fo mesurau addas wedi eu sefydlu i sicrhau na chaiff anifeiliaid fel a nodir yn is-baragraff (1)(a) fynediad ato.

Eithriadau3

1

Nid yw paragraffau 1(2) a 2(5) yn gymwys mewn perthynas ag —

a

bwyd amrwd ar gyfer anifeiliaid anwes, a gyfansoddir o brotein anifeiliaid neu unrhyw beth a ymgorfforwyd mewn bwyd ar gyfer ei fwydo i anifeiliaid anwes (gan gynnwys cwn sy'n gweithio) yn y fangre honno; neu

b

unrhyw beth a ymgorfforwyd mewn gwrtaith organig neu ddeunydd gwella pridd a gynhyrchwyd ac a ddefnyddir yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 200629 a pharagraff 18,

ar yr amod y bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2).

2

Yr amodau hynny yw—

a

na fwydir ef i unrhyw anifeiliaid a ffermir;

b

nad yw'n cael ei storio, ei drin na'i fwydo i anifeiliaid anwes (gan gynnwys cŵn sy'n gweithio) mewn rhannau o'r fangre—

i

lle mae gan anifeiliaid a ffermir fynediad atynt ; neu

ii

lle mae bwydydd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid a ffermir yn cael eu storio neu eu trin;

c

nad yw'n dod i gyffyrddiad ag—

i

bwydydd anifeiliaid y caniateir eu bwydo i anifeiliaid a ffermir; neu

ii

cyfarpar trin a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw fwydydd anifeiliaid o'r fath; a

d

nad yw anifeiliaid a ffermir byth yn cael mynediad at fwydydd anifeiliaid anwes, nac at wrtaith organig neu ddeunydd gwella pridd hyd nes ei ddefnyddio ar y tir yn unol â Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006.

Gwahardd a chyfyngu ar symud anifeiliaid4

1

Pan fo gan arolygydd sail resymol i gredu bod anifail sy'n agored i'w heintio gan TSE wedi cael ei fwydo gyda, neu wedi cael mynediad at—

a

ddeunydd risg penodedig;

b

unrhyw ddeunydd y mae gan yr arolygydd sail resymol i gredu sydd â risg o heintusrwydd TSE yn gysylltiedig ag ef; neu

c

protein anifeiliaid na all yr arolygydd ganfod ei darddiad na'r risg o heintusrwydd TSE ,

caiff weithredu fel y nodir yn is-baragraff (2).

2

Caiff yr arolygydd—

a

gyflwyno hysbysiad i'r perchennog neu'r person sy'n gyfrifol am yr anifail, yn unol â rheoliad 15, yn gwahardd neu'n cyfyngu ar symud yr anifail; a

b

os yw'n anifail buchol, ymafael yn ei basbort.

Cigydda anifeiliaid5

1

Pan fo gan arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru sail resymol i gredu bod anifail sy'n agored i'w heintio gan TSE wedi ei fwydo neu wedi cael mynediad at unrhyw ddeunydd y cyfeirir ato ym mharagraff 4, caiff gyflwyno hysbysiad i'r perchennog neu'r person sy'n gyfrifol am yr anifail yn unol â rheoliad 15.

2

Caiff yr hysbysiad naill ai—

a

mynnu bod y perchennog neu'r person sy'n gyfrifol am yr anifail yn ei ladd a'i waredu fel a nodir yn yr hysbysiad; neu

b

mynnu bod y perchennog neu'r person sy'n gyfrifol am yr anifail ei gadw yn y fangre ac yn y modd a ddarperir yn yr hysbysiad, ac os felly, rhaid i'r arolygydd sicrhau bod y pasbort gwartheg yn cael ei stampio â'r geiriau “Not for human consumption”.

3

Rhaid i'r arolygydd sicrhau bod yr holl anifeiliaid a bennir ar gyfer eu lladd yn yr hysbysiad yn is-baragraff (2)(a) yn cael ei lladd a'u gwaredu.

Iawndal6

1

Pan leddir anifail o dan baragraff 5, caiff Gweinidogion Cymru dalu iawndal os ystyriant hynny'n briodol o dan yr holl amgylchiadau, a rhaid iddynt ddatgan eu penderfyniad mewn ysgrifen ynglyn â thalu iawndal ai peidio.

2

Mae'r drefn apelio yn rheoliad 10 yn gymwys mewn perthynas â'r penderfyniad.

3

Yr iawndal am—

a

anifail buchol yw'r gwerth a benderfynir yn unol â pharagraffau 9 a 10 o Atodlen 3;

b

anifail o deulu'r ddafad neu afr yw'r gwerth a benderfynir yn unol â pharagraffau 23 a 24 of Atodlen 4; ac

c

anifail nad yw o deulu'r fuwch, y ddafad na'r afr yw gwerth yr anifail ar y farchnad ar yr adeg ei lleddir, a benderfynir yn unol â'r weithdrefn yn rheoliad 11, gyda'r perchennog yn talu unrhyw ffi sy'n codi o enwebu a chyflogi prisiwr.

Cigydda neu werthu i'w fwyta gan bobl7

Mae'n dramgwydd i unrhyw anifail a allai gael ei heintio gan TSE gael ei draddodi i gael ei gigydda i'w fwyta gan bobl neu ei gigydda i'w gael ei fwyta gan bobl pan fo pasbort yr anifail wedi cael ei stampio o dan baragraff 5.