Search Legislation

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 3200 (Cy.285)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2008

Gwnaed

15 Rhagfyr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Rhagfyr 2008

Yn dod i rym

8 Ionawr 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), a chan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer bwriad a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2008, daw i rym ar 8 Ionawr 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “ardaloedd llai ffafriol” (“less favoured areas”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;

  • mae i'r ymadrodd “hectar cymwys” yr ystyr sydd i'r ymadrodd “eligible hectare” yn Erthygl 44(2) o Reoliad y Cyngor 1782/2003;

  • ystyr “mapiau dynodedig (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1999, sydd wedi eu Rhif o 1 a 2, y mae'r naill gyfrol a'r llall wedi eu marcio â “Volume of Maps of less favoured farming areas in Wales” ac â Rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'u hadneuo yn swyddfeydd Adran Amaethyddiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 1782/2003” (“Council Regulation 1782/2003”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin, yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio Rheoliadau penodol(4);

  • ystyr “taliad Tir Mynydd” (“Tir Mynydd payment”) yw cymorth ariannol a delir yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006(5);

  • ystyr “tir cymwys” (“eligible land”) yw'r rhan honno o'r tir cymhwysol sydd o fewn ardal lai ffafriol;

  • ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n las ar y mapiau dynodedig;

  • ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw'r ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n binc ar y mapiau dynodedig.

Asesu cynhwysedd cynhyrchu tir

2.—(1Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael eu heffaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchu uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr paragraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

(2Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yna—

(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a

(b)y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2008, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir gydag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno.

(3Os yw tir sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net pan ffermir ef dan reolaeth gymwys yn gymwys i dderbyn taliad Tir Mynydd (fel y crybwyllir yng nghofnod 4 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn) neu os oedd y tir wedi ei neilltuo rhag cynhyrchu yn 2007 (fel y crybwyllir yng nghofnod 5 yn y golofn honno), neu os oedd yn hectar cymwys yn 2007 (fel y crybwyllir yng nghofnod 6 yn y golofn honno), yna—

(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a

(b)y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2008, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw.

Dirymu

3.  Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2008(6).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

15 Rhagfyr 2008

Erthygl 2

YR ATODLENUNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENNU INCWM BLYNYDDOL NET

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Defnydd FfermioUned gynhyrchuIncwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu (£)
NODIADAU I'R ATODLEN
(1)

Y ffigur ar gyfer anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis yw hwn. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o'r ffigur hwn.

(2)

Y ffigur ar gyfer anifeiliaid (waeth beth fo'u hoed) a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis yw hwn. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o'r ffigur hwn.

(3)

Mae'r ffigur hwn yn cynnwys y premiwm cnwd protein y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 76 o Reoliad y Cyngor 1782/2003.

1. Da byw
Buchod godro (ac eithrio bridiau Ynysoedd y Sianel)Buwch437
Buchod bridio cig eidion
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynyddbuwch−104
Ar dir arallbuwch−99
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys)y pen−69(1)
Buchod llaeth i lenwi bylchauy pen83(2)
Mamogiaid:
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynyddmamog−18
Ar dir arallmamog−16
ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod)y pen3.30
Moch:
Hychod a banwesau torroghwch neu fanwes163
Moch porcy pen5
Moch torriy pen7.10
Moch bacwny pen8.90
Dofednod
Ieir dodwyaderyn2.30
Brwyliaidaderyn0.30
Cywennod ar ddodwyaderyn0.55
Tyrcwn Nadoligaderyn5.85
2. Cnydau âr fferm
Haiddhectar111
Ffahectar125.72(3)
Had porfahectar333
Rêp had olewhectar92
Pys
Sychhectar215.72(3)
Dringohectar294
Tatws:
Cynnar cyntafhectar2344
Prif gnwd (gan gynnwys hadyd)hectar2057
Betys siwgrhectar387
Gwenithhectar274
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau
Ffrwythau'r berllanhectar2230
Ffrwythau meddalhectar6800
4. Tir Porthiant
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir MynyddhectarSwm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan reoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006
5. Neilltir
Tir a oedd yn 2007 wedi ei neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o Reoliad y Cyngor 1782/2003:
Tir dan anfantais ddifrifolhectar12.57
Tir dan anfantaishectar24.96
Pob tir arallhectar−70.54
6. Hectarau cymwys
Tir a oedd yn 2007 yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 1782/2003, ac eithrio tir a oedd wedi ei neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o'r Rheoliad hwnnw:
Tir dan anfantais ddifrifolhectar122.69
Tir dan anfantaishectar153.51
Pob tir arallhectar102.55

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchu tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn gosod y swm sydd i'w ystyried yn incwm blynyddol net o bob uned o'r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2008 i 11 Medi 2009 gan gynnwys y dyddiadau hynny at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”). Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2008.

Mae asesiad o gynhwysedd cynhyrchu tir amaethyddol yn ofynnol ar gyfer penderfynu p'un a yw'r tir o dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Uned o dir amaethyddol yw “uned fasnachol o dir amaethyddol” sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai nag agregiad o enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd llawnamser sydd yn 20 mlwydd oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn a phryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn berthnasol i'r asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir o dan sylw, mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai'r unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd sail yr asesiad hwnnw.

Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 yn yr Atodlen yn disgrifio'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd, yn 2007, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.1) sy'n sefydlu'r Cynllun Taliad Sengl. Mae ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir dan anfantais ddifrifol, tir dan anfantais a thir arall. Mae yna hefyd ffigurau ar wahân ar gyfer tir a oedd wedi ei neilltuo rhag cynhyrchu yn 2007.

Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p.5) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddi. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(4)

OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 674/2008 (OJ Rhif L189, 17.7.2008, t.5).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources