- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
3 Mawrth 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Mawrth 2008
Yn dod i rym
28 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 76, 77, 128, 129, 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1. Enw'r Rheoliadau yw'r Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 28 Mawrth 2008.
2. Yn y diffiniad o “NHS sight test fee” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2) —
(a)yn lle “£52.04” rhodder “£53.34”, a
(b)yn lle “£18.85” rhodder “£19.32”.
3. Yn rheoliad 10(1) (y datganiad) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(3) ar ddiwedd rheoliad 10(1)(b) yn lle'r geiriau o “A determination” hyd at “relates.” rhodder—
“A determination may provide that such fees and allowances may be paid in respect of a period beginning on a date earlier than the date of the determination if, taking the determination as a whole, it is not detrimental to the persons to whose remuneration it relates.”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 er mwyn cyfeirio at gynnydd o 2.5% yn ffioedd prawf golwg y GIG. Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio rheoliad 10 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 i ddarparu pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud darpariaeth mewn penderfyniad o ran y ffioedd sydd i'w talu gan Fwrdd Iechyd Lleol am wneud profion golwg gan ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr, caiff y penderfyniad ddarparu bod y ffioedd yn cael eu talu ynglŷn â chyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad sy'n gynharach na dyddiad y penderfyniad, ac os cymerir y penderfyniad yn ei gyfanrwydd, nad yw'n andwyol i'r personau y mae a wnelo hyn â'u tâl.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: