2008 Rhif 577 (Cy.56)
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2008
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 76, 77, 128, 129, 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
Enw'r Rheoliadau yw'r Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 28 Mawrth 2008.
Diwygio rheoliad 1 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 19972
Yn y diffiniad o “NHS sight test fee” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 19972 —
a
yn lle “£52.04” rhodder “£53.34”, a
b
yn lle “£18.85” rhodder “£19.32”.
Diwygio rheoliad 10 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 19863
Yn rheoliad 10(1) (y datganiad) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 19863 ar ddiwedd rheoliad 10(1)(b) yn lle'r geiriau o “A determination” hyd at “relates.” rhodder—
A determination may provide that such fees and allowances may be paid in respect of a period beginning on a date earlier than the date of the determination if, taking the determination as a whole, it is not detrimental to the persons to whose remuneration it relates.