Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion

6.  Mae'r gorchmynion y cyfeirir atynt yn erthygl 5 yn parhau i fod yn effeithiol at ddibenion y canlynol ac at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r canlynol —

(a)ymchwilio i unrhyw honiad ysgrifenedig o dan Ran 3 o'r Ddeddf, pan fo'r honiad hwnnw'n ymwneud ag ymddygiad a ddigwyddodd cyn y dyddiad pryd, yn unol ag adran 51 o'r Ddeddf(1)

(i)y bydd yr awdurdod perthnasol yn mabwysiadu cod ymddygiad sy'n ymgorffori darpariaethau gorfodol y cod ymddygiad enghreifftiol yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn lle ei god ymddygiad presennol;

(ii)y bydd yr awdurdod perthnasol yn diwygio'i god ymddygiad presennol i ymgorffori darpariaethau gorfodol y cod ymddygiad enghreifftiol a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn; neu

(iii)y bydd darpariaethau gorfodol y cod ymddygiad enghreifftiol a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn gymwys i aelodau neu aelodau cyfetholedig o'r awdurdod perthnasol o dan adran 51(5)(b) o'r Ddeddf honno;

(b)dyfarnu (neu benderfynu) ar fater a godir mewn honiad o'r fath; ac

(c)apêl yn erbyn penderfyniad pwyllgor safonau, tribiwnlys achos interim neu dribiwnlys achos mewn perthynas â honiad o'r fath.

(1)

Diwygir adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 gan adran 35 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 4 iddi a chan adran 183 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007.