15.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl—LL+C
(a)i god ymddygiad eich awdurdod gael ei fabwysiadu neu i ddarpariaethau gorfodol y cod enghreifftiol hwn gael eu cymhwyso i'ch awdurdod; neu
(b)i chi gael eich ethol neu eich penodi i swydd (os digwydd hynny'n ddiweddarach),
gofrestru eich buddiannau ariannol a'ch buddiannau eraill, os ydynt yn dod o fewn categori a grybwyllir ym mharagraff 10(2)(a) yng nghofrestr eich awdurdod a gedwir o dan adran 81(1) o Deddf Llywodraeth Leol 2000, drwy ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod.
(2) Rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl dod yn ymwybodol o unrhyw fuddiant personol newydd neu o newid i unrhyw fuddiant personol a gofrestrwyd o dan is-baragraff (1), gofrestru'r buddiant personol newydd hwnnw neu'r newid drwy ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod.
(3) Nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i wybodaeth sensitif a benderfynir yn unol â pharagraff 16(1).
(4) Ni fydd is-baragraff (1) yn gymwys os ydych yn aelod o awdurdod perthnasol sy'n gyngor cymuned pan fyddwch yn gweithredu yn eich capasiti fel aelod o awdurdod o'r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. para. 15 mewn grym ar 18.4.2008, gweler ergl. 1(1)